Skip page header and navigation

Mae academydd o’r Drindod Dewi Sant, yr Athro Louise Steel, wedi cymryd rhan mewn podlediad i drafod yr archaeoleg yn Gaza, gan gynnwys ei chloddiadau ei hun, ac arwyddocâd y rhanbarth yn ei hynafiaeth.

Gyda chreigiau a thywod yn y blaendir, mae’r Athro Steele yn pwyso ymlaen i archwilio darn o sgarp caregog; uwch ei phen, mae aelodau’r tîm yn sefyll ac yn aros.
Professor Louise Steel and her team on site during one of their past visits to Tell Ruqeish, Gaza.

O Brydain Neolithig i Gwymp Rhufain, mae The Ancients yn ymroddedig i drafod ein gorffennol pell. Mae’r podlediad, sy’n cael ei gyflwyno gan Tristan Hughes, yn cynnwys cyfweliadau â haneswyr ac archeolegwyr, gyda phob pennod yn ymdrin â thema benodol o hynafiaeth.

Yn y bennod hon, croesawodd Tristan Hughes yr Athro Louise Steel i drafod cloddiadau ei thîm yn Gaza a’r hyn y gall yr archeoleg yno ei ddweud wrthym. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw edrych ar Gaza yn ystod yr Oes Efydd, cysylltiadau â’r hen Aifft, ac asesu arwyddocâd Gaza yn yr hen fyd.

Yn dilyn y recordiad, dywedodd yr Athro Louise Steel:

“Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gyfrannu at bodlediad The Ancients. Trwy gydol hanes, mae’r ardal a elwir heddiw yn Gaza wedi bod yn aml iawn yn lle cynhennus. Mae ei arwyddocâd hanesyddol yn hanes yn ymestyn bron i 3 mileniwm, ac mae tystiolaeth archeolegol yn dangos i ni ei fod yn ganolbwynt rhyngwladol a fynychwyd gan yr Eifftiaid, Mycenaeans, Hethiaid a mwy.

“Yn archeolegol, mae Gaza yn lle hynod ddiddorol, ac ni fyddwn yr academydd ydw i heddiw pe na bawn wedi cael y cyfle i weithio yno yn y 90au cynnar. Rhoddodd Gaza’r ddealltwriaeth imi ei bod yn bwysig nid yn unig cloddio, cofnodi, gadael a mynd i ffwrdd i ysgrifennu papurau academaidd amrywiol ar y gwaith ond i ymgysylltu â’r bobl a’r cymunedau yr ydych yn cloddio eu harcheoleg.

“Hoffwn ddiolch i Tristan am fy ngwahodd ar y podlediad i drafod agwedd o’m gwaith academaidd sydd mor agos at fy nghalon.”

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i wrando ar bodlediad ‘Origins of Gaza’ yr Athro Steel: Origins of Gaza – The Ancients.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau