Skip page header and navigation

Mae partneriaeth newydd wedi’i chreu rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chlwb Pêl-droed Tref Llanelli i ddarparu llwybr i fyfyrwyr gyfuno eu dyheadau academaidd a phêl-droed trwy Addysg Uwch a phêl-droed lled-broffesiynol.

Cynrychiolwyr y Brifysgol a’r clwb pêl-droed yn dal crysau T wedi’u brandio.

Mae’r ddau sefydliad eisoes wedi cydweithio ar fentrau academaidd a chwaraeon allweddol gan gynnwys lleoliadau myfyrwyr yn eu hacademi a bydd y bartneriaeth hon yn cryfhau eu perthynas ymhellach.

Mae’r dysgwr yn ganolog i Grŵp Y Drindod Dewi Sant, ac mae ei ymrwymiad i ddarparu profiad dysgu rhagorol wrth galon ei weithgareddau.  Nod y ddau sefydliad yw cefnogi myfyrwyr sy’n ymwneud â phêl-droed perfformiad uchel wrth iddyn nhw astudio.

Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at hyfforddiant pêl-droed lefel broffesiynol a hyfforddiant cryfder a chyflyru, yn ogystal â chyngor ar faeth, diet a ffordd o fyw.

Bydd gan y myfyrwyr amrywiaeth o opsiynau academaidd yn ogystal â chwarae yn strwythur Cynghrair Pêl-droed / Cwpan Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).

I’w cefnogi ochr yn ochr â hyn bydd Clwb Pêl-droed Tref Llanelli sydd â llwybrau at eu timau trwy eu tîm 1af Lled-broffesiynol sy’n cystadlu yng Nghynghrair De Cymru JD Cymru a’u Academi a dderbyniodd statws categori B Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddar pan fu’n rhaid iddynt ddangos eu bod yn cyflawni yn ôl meini prawf sicrwydd ansawdd yn yr agweddau busnes a chwaraeon, a chynnal uniondeb cystadleuol drwyddi draw er mwyn cael ei ailddosbarthu yn un o dri chategori. Roedd Llanelli yn un o’r 14 clwb yng Nghymru y barnwyd eu bod yn cynnig amgylchedd datblygiadol o ansawdd uchel a llwybr llawn yr Academi.

Mae gan Glwb Pêl-droed Tref Llanelli bartneriaeth eisoes ar waith gyda grŵp Y Drindod Dewi Sant gyda Choleg Sir Gâr ar gyfer chwaraewyr 16-18 oed yr Academi, a bellach mae’r bartneriaeth hon yn cynnig llwybr addysg pum mlynedd nodweddiadol iddynt drwy sectorau addysg bellach ac AU.

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant:

“Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella’r cysylltiadau rhwng chwaraeon perfformiad uchel ac addysg uwch i greu llwybrau unigryw fel hyn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a pherfformiad uchel ym maes pêl-droed a fydd o fudd i’n dysgwyr.

“Rydyn ni’n croesawu’r cyfleoedd y mae hyn yn eu creu ar gyfer mwy o aliniad rhwng y ddau sefydliad. Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth a chynyddu’r cyfleoedd pêl-droed pellach, addysg uwch a lled-broffesiynol i ddysgwyr yn y byd academaidd a phêl-droed.”

“Bydd y gwasanaethau y mae grŵp Y Drindod Dewi Sant a Chlwb Pêl-droed Tref Llanelli yn eu darparu yn cynnig llwybr i fyfyrwyr lle gallan nhw hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf mewn coleg, chwaraeon prifysgol a phêl-droed lled-broffesiynol wrth gyflawni hefyd eu nodau academaidd.”

Meddai Wayne Stephens, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Llanelli:

“Rydyn ni fel clwb yn falch dros ben o fod yn gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth a fydd yn creu llawer o lwybrau, ar ac oddi ar y cae i oedolion ifanc yn ein cymunedau.

“I mi’n bersonol, ers blynyddoedd lawer rwy’n ceisio rhoi llwybr addysgol ar waith, a fydd yn rhoi cyfle i chwaraewyr yr Academi astudio’n lleol ond hefyd i gystadlu ar lefel uchel o bêl-droed, gyda’n hacademi ac ar lefel prifysgol.

“Hoffwn i a’r clwb ddiolch i Lee, ei dîm a phawb yn y brifysgol am y cyfle hwn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Drindod Dewi Sant, a hynny er budd pawb yn ein clwb pêl-droed.”

Dau ddyn mewn siwt yn dal pêl droed rhyngddynt.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon