Skip page header and navigation

Llongyfarchiadau i Caryl Jones, Rheolydd Yr Atom yng Nghaerfyrddin sydd wedi bod yn llwyddiannus i gael ei derbyn fel rhan o garfan Academi Arweinwyr y Dyfodol 2023.

Caryl Jones

Mae’r Academi arloesol ac uchelgeisiol hon sy’n cael ei arwain gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi bod yn rhedeg ers tair blynedd bellach, ac mae’n rhoi cyfle i ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu a gwella eu sgiliau arwain fel ffordd i gyflawni dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd Caryl, sy’n hannu o Faesybont, Cwm Gwendraeth ac wedi bod wrth y llyw yn Yr Atom ers 2022 ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant,  yn ymuno â charfan dethol o 30 o gyfranogwyr o bob rhan o sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol Cymru a hynny yn dilyn proses ymgeisio cystadleuol.

Dywedodd Caryl:  

“Rwy’n hynod o falch o gael lle yn Academi Arweinwyr y Dyfodol. Rwy’n teimlo ei fod wedi dod ar yr adeg iawn i mi, fel Rheolwraig Yr Atom, mae hwn yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy hun yn bersonol ond hefyd datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth er mwyn sicrhau fod gan Yr Atom arweinydd cryf. Yn ogystal mae’n gyfle grêt i ddysgu fwy am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r saith nod llesiant, ac mi fydd hyn yn ddefnyddiol iawn wrth i ni gynllunio dyfodol Yr Atom.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl o bob cwr o Gymru a rhwydweithio gyda phartneriaid newydd.”

Bydd tîm yr Academi yn swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dylunio ac yn darparu’r rhaglen, ac yn ystod y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn dysgu sgiliau arweinyddiaeth ac arfer da ynghylch gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i saith nod llesiant. Gyda Cymru a diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu yn un o’r nodau hynny mae’n gyfle i Caryl ddysgu am arfer da eraill ynghyd ag ystyried yn ddwys sut i ymgorffori’r saith nod yn llawn i waith Yr Atom yn ogystal â’r gwaith gwirfoddol mae hi’n ei wneud yn eu bro gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd a mudiadau eraill.

Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin sydd â chyfrifoldeb strategol am Yr Atom :  

“Mae Caryl wedi cydio’n dynn yn yr awenau yn Yr Atom ers ei phenodi ac yn ystod y flwyddyn a hanner diwetha’ yma wedi arddangos eu gallu a’i photensial. Braf yw ei gweld yn llwyddo i fod yn aelod o’r Academi nodedig hwn ac yn cymryd y cam nesa yn ei datblygiad personol fel arweinydd bydd yn siwr o ddylanwadu’n gadarnhaol ar y dyfodol.”

Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campysau Caerfyrddin a Llambed:  

“Hoffai’r Brifysgol longyfarch Caryl ar ei champ. Dangosodd eisoes, yn ei rôl fel Rheolydd Yr Atom, ei bod yn arweinydd greddfol, a bydd cyfle iddi – drwy gyfrwng y cwrs hwn – fireinio ei sgiliau arwain ymhellach. Dymunwn y gorau iddi.”      

Yn dilyn cyfnod Caryl yn yr Academi, sy’n gyfuniad o sesiynau rhithwir, mewn person a preswyl, mi fydd hi’n derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o rwydwaith o gyn-fyfyrwyr yr academi, lle fydd y tîm yn parhau i’w chefnogi gyda’i gyrfa.

Meddai Korina Tsioni, Ysgogwr Newid Arweinwyr y Dyfodol, ac arweinydd yr Academi:  

“Yn dilyn 2 garfan lwyddiannus, rydym newydd lansio ein trydydd Academi Arweinwyr y Dyfodol 3.0. Rydym yn hapus iawn i gael Caryl yn y garfan eleni, daeth drwy’r broses recriwtio agored, a gwnaeth argraff ar y panel gyda’i chais a’i chyfweliad. Ni allwn aros i weld ei chynnydd drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda gweddill y garfan. A hefyd, beth mae hi’n ei wneud nesaf, fel Cyn-fyfyriwr Academi Arweinwyr y Dyfodol Cymru.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon