Skip page header and navigation

“Cafodd fy mab ei eni ag anghenion arbennig,” meddai Fatima Zahra wrthym, myfyriwr ar gampws Birmingham Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Fatima Zahra yn sefyll yn y canol yn gwisgo cap a gŵn graddio.

“Mae ganddo awtistiaeth. Roeddwn i am addysgu fy hun i’w helpu cystal ag y gallaf. Rydw i am ddeall dyfodol fy mab.”

Dewisodd Fatima radd Baglor mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan deimlo bod y cwrs hwn yn cynnig cyfle i arbenigo mewn llwybr sy’n agos at ei chalon.

“Mae’r modylau wedi dysgu llawer i mi am ofal iechyd, damcaniaethau datblygiadol, ymddygiadau dynol, ffisioleg, a gofal henoed. Arweiniodd hyn at fy nhraethawd hir, a ganiataodd i mi dreulio llawer o amser yn ymchwilio i bobl ag awtistiaeth a henaint.

“Fe wnes i ddarganfod bod bwlch enfawr mewn ymchwil ynghylch awtistiaeth a phobl hŷn. Does bron dim un astudiaeth yn y DU am anghenion gofal pobl awtistig yn y grŵp oedran hwn. Wrth i fwy a mwy o bobl heneiddio ag awtistiaeth, mae cymaint o waith ymchwil y mae angen ei wneud. Rydw i am fod yn rhan ohono!”

Mae Fatima wedi gweld astudio wrth ofalu am ei mab yn her, ond un gadarnhaol y mae hi’n hapus ac yn falch o’i gwneud. “Mae cymorth gan fy narlithwyr wedi gwneud fy astudiaethau gymaint yn haws, ac mae’r Brifysgol wedi gwneud mwy na’r disgwyl i sicrhau y gallaf gydbwyso fy ngwaith a’m bywyd personol yn well.”

Yn awr, mae gan Fatima ddau gynnig ar gyfer cwrs Meistr ger ei bron. Pan ofynnwyd iddi a fyddai’n argymell y cwrs hwn ac Addysg Uwch fel oedolyn a mam, ymatebodd: “O, yn bendant”.

Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi ar ei thaith i’r dyfodol!


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon