Skip page header and navigation

Wrth i ddathliadau’r Drindod Dewi Sant barhau ar ôl cael ei choroni’n Brifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn 2022–3 gan Triple E, mae un o’n dulliau ar gyfer grymuso ein dysgwyr i lwyddo yn cael ei ddathlu trwy gyhoeddi pennod o lyfr yn ‘Teaching Intellectual Property Law: Strategy and Management’ Edward Elgar, sydd newydd ei lansio yn Llundain.   

Y golygydd Ruth Soetendorp a’r Athro Cysylltiol Kath Penaluna yn sefyll ochr wrth ochr ac yn gwenu tuag at y camera yn nerbyniad lansio’r llyfr.

Yn seiliedig ar ddulliau unigryw’r Drindod Dewi Sant o ddysgu trwy fod yn fwy chwilfrydig am bwnc, disgrifia’r bennod sut y gellir annog myfyrwyr nad ydynt yn astudio’r gyfraith i edrych ar wrthrychau bob dydd o’r newydd, ar sail y rhagdybiaeth ganlynol: oni bai am ddealltwriaeth o Eiddo Deallusol, mae’n debyg na fyddent wedi cyrraedd y farchnad.  

Fe wnaeth yr Athro Cyswllt Dr Kath Penaluna, Cyfarwyddwr y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol, gyd-ysgrifennu pennod o’r enw Developing Twenty – First Century Skills for Creativity and Innovation: The case of the entrepreneurial educator in raising learner awareness of Intellectual Property ar y cyd â’r Athro Emeritws Andy Penaluna. Arddangosa’r bennod eu harferion ar gyfer codi ymwybyddiaeth o Eiddo Deallusol fel modd o rymuso pob dysgwr, nid yn unig y rheiny yn ysgol y gyfraith. Mae cyflogwyr angen i’w gweithwyr fod yn addysgedig i barchu hawliau eraill, yn ogystal ag i adnabod cyfleoedd ar gyfer busnes i’r dyfodol, ac mae angen i entrepreneuriaid osod eu syniadau newydd mewn ffordd sy’n ddiogel o ran Eiddo Deallusol er mwyn llwyddo.

Wedi’i olygu gan yr Athro Cyswllt Sabine Jacques, Ysgol y Gyfraith Prifysgol East Anglia, a’r Athro Emerita Ruth Soetendorp, Prifysgol Bournemouth, cynhaliwyd y digwyddiad lansio yng Nghyfadran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Llundain. Ymunodd Kath â chyflwyniadau gan awduron y bennod, a thraddododd yr Athro Syr Robin Jacob brif anerchiad a gadarnhaodd berthnasedd y llyfr i addysgwyr.

Meddai Kath: ‘Mae’r Drindod Dewi Sant yn cael ei rhestru’n gyson uchel ym mesurau’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ar gyfer busnesau newydd gan raddedigion. Rydym yn y safle 1af yn y DU ar hyn o bryd ar gyfer y nifer o fusnesau gan raddedigion sy’n rhedeg ar hyn o bryd ac ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn masnachu ers mwy na 3 blynedd. Mae ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd yn darparu arbenigedd amhrisiadwy wrth gefnogi datblygiadau ein cwricwlwm, a’r rheiny, o’r diwydiannau creadigol i ddechrau, a ddywedodd am bwysigrwydd diogelu’r creadigrwydd rydym yn ceisio ei ddatblygu yn ein dysgwyr.’

Dywedodd Barry Liles OBE, Dirprwy Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes): ‘Mae gan ein dysgwyr uchelgeisiau amrywiol ac, er mwyn eu cefnogi i gyflawni eu potensial, rydym yn ymdrechu i roi’r adnoddau iddynt ddatblygu’r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Er nad yw dyfodol gwaith yn hysbys, gwyddom fod creadigrwydd a chymwyseddau digidol yn hanfodol, yn enwedig wrth edrych ar oblygiadau deallusrwydd artiffisial, sydd i gyd yn gofyn am ddealltwriaeth o oblygiadau Eiddo Deallusol. Wrth i Swyddfa Batentau Ewrop amlygu fod 82 miliwn o swyddi yn y diwydiannau Eiddo Deallusol dwys, rydym yn falch o gefnogi sesiynau codi ymwybyddiaeth i’n myfyrwyr.’  

Clawr blaen – Teaching Intellectual Property Law.

Nodyn i’r Golygydd

Mae Kath ac Andy Penaluna wedi bod yn darparu arweiniad addysgol i UKIPO ers mwy na 25 mlynedd, ac mae’r ddau’n eistedd ar bwyllgorau llywio Grŵp Prifysgolion a Cholegau Eiddo Deallusol y DU. Maen nhw’n darparu gweithdai’n rheolaidd mewn digwyddiadau i fusnesau newydd, gan gynnwys sesiynau bŵtcamp Llywodraeth Cymru i entrepreneuriaid ifanc.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon