Skip page header and navigation

Mae myfyriwr BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i ddewis i gynrychioli pobl ifanc mewn cyfarfod Democratiaeth Leol gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

Tilley Rees, yn gwisgo legins pinc llachar a blaser glas, yn pwyso yn erbyn wal lechi gyda llythrennau gwyn sy’n dweud: Senedd Cymru – Welsh Parliament.

Cafodd Tilley Rees o Gaerfyrddin ei dewis i gynrychioli pobl ifanc fel aelod o grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Sefydlwyd y grŵp gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, er mwyn darganfod pam nad oedd pobl yn sefyll ac yn pleidleisio mewn etholiadau democratiaeth leol. Cafodd y cyfle hwn ar ôl iddi gymryd rhan mewn cyfweliad trwy ei rôl yn wirfoddolwr gyda Phlant yng Nghymru.

Mae Tilley’n ystyried hwn yn gyfle gwych i gynrychioli pobl ifanc Cymru. Meddai:

“Mae’n bwysig iawn i mi fod y genhedlaeth hŷn yn deall pwysigrwydd pobl ifanc, ac mai nhw yw’r dyfodol, ac er inni ddweud hynny, dydyn ni ddim yn buddsoddi digon ynddyn nhw. Felly mae’r grŵp hwn yn gwneud yn siŵr fod gan bobl ddewis gwirioneddol o ran pwy sy’n eu cynrychioli a’u gwasanaethu, yn sicrhau bod pobl yn teimlo’n rhan sylfaenol o’u democratiaeth, a’i bod yn effeithio ar newid ar lefel leol. Rwy’n credu nad oedden nhw’n sylweddoli cymaint o ran o hynny y mae pobl ifanc.”

“Rydw i wir am fod yn rhan o wneud i newid positif ddigwydd, i rymuso pobl ifanc i gyrraedd a chyflawni eu gwir botensial. Bûm yn astudio BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol yn y Drindod Dewi Sant ac ers gwneud y radd, mae wedi fy ngwthio i fod eisiau helpu i wneud i newid strategol ddigwydd er mwyn gwella bywydau pobl ifanc.”

Yn ystod y cyfarfod, bu Tilley a’i chyd-gynrychiolwyr wrthi’n brysur yn cynllunio, yn adnabod themâu a thystiolaeth y bydd y grŵp yn edrych arnynt, a hefyd yn canfod ffyrdd o wella’r ymwybyddiaeth a’r cyfranogiad mewn etholiadau tref a chymuned. Mae ganddynt 9 mis i ysgrifennu adroddiad a gaiff ei gyflwyno i’r Llywodraeth.

Meddai Tilley:

“Rwy’n teimlo bod gen i rôl bwysig iawn o ran tynnu sylw at bwysigrwydd pobl ifanc yn cael eu haddysgu am ddemocratiaeth ar lefel leol i roi cyfleoedd iddynt ddeall pam ei bod hi’n bwysig i bobl ifanc ddweud eu dweud, a sefyll mewn etholiadau.

“Bûm yn gwirfoddoli dros hawliau plant ar lefel leol, ranbarthol a Chenedlaethol ers pan oeddwn i’n 14 mlwydd oed, ac rwy’n gyn-gadeirydd Cyngor Ieuenctid Sir Gâr, sydd wedi rhoi fy sgiliau arwain imi a’r gallu i leisio barn yn gyhoeddus ar ran holl bobl ifanc Sir Gâr.

“Rwy’n teimlo bod angen i newid drastig ddigwydd o fewn cymunedau a chynghorau i gadw ymdeimlad o gymuned, lle caiff pobl ifanc eu meithrin a lle maen nhw’n hapus.

“Oherwydd fy holl brofiad a’m gobeithion i’r dyfodol i fod yn rhan o brosesau polisi a deddfwriaethol, rwy’n credu y gallaf helpu Cymru i achub a dyrchafu ein pobl ifanc. Rwy’n teimlo mai fy nyletswydd innau fel person ifanc yw cynrychioli pob person ifanc yn gyfannol ledled Cymru.”

Meddai Angharad Lewis, Darlithydd Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol:

“Roedd y tîm Gwaith Ieuenctid yn falch iawn o glywed fod Tilley wedi’i dewis i gynrychioli pobl ifanc ar y grŵp gorchwyl a gorffen hwn gan Lywodraeth Cymru. Yn fyfyriwr Gwaith Ieuenctid, yn ogystal â thrwy ei phrofiadau eang o gyfranogiad pobl ifanc, mae Tilley’n deall pwysigrwydd bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, ac rydym yn falch y gall Tilley barhau i ddadlau dros bobl ifanc drwy’r rôl hon.”

Meddai Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru:

“Fe wnaethom sefydlu’r grŵp hwn i wella’r ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned, ac i gynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n cynnig eu hunain i gynrychioli eu cymuned leol. Mae sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn rhan hanfodol o hynny, ac rwy’n gwybod y bydd Tilley’n gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth i ni barhau i agor ein democratiaeth ymhellach.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon