Skip page header and navigation

Mae Zoe Vaughan wedi graddio o’r cwrs Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  Penderfynodd gofrestru yn y Drindod Dewi Sant i adeiladu sylfaen gadarn mewn egwyddorion ac arferion busnes er mwyn dysgu a defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ragori yn y byd busnes.

Yn gwisgo gŵn a het academaidd, mae Zoe Vaughan yn sefyll yn gwenu y tu allan i Ysgol Fusnes Caerfyrddin.

Un o’r agweddau penodol ar y cwrs Busnes a Rheolaeth iddi ei mwynhau oedd y prosiect annibynnol. Meddai:

“Roeddwn i’n angerddol iawn am y pwnc a astudiais ynghylch faint rydym ni fel gwlad yn dibynnu ar fewnforion ar gyfer cynnyrch ffres a faint o hynny rydym yn ei wastraffu, a’r cemegion a ddefnyddir i gynyddu oes silff yn ystod cludiant. Petaem yn dibynnu ar ein gwlad ni ac yn tyfu ein cynnyrch ein hunain yn lleol, byddai gennym fwy o reolaeth dros yr hyn rydym yn ei fwyta ac yn mynd i’r afael â thlodi ac iechyd ar hyd y ffordd.”

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Zoe wedi gweld ei hyder yn cynyddu gyda’r wybodaeth a’r cymorth a gafodd gan ddarlithwyr. Dywedodd Zoe bod hynny wedi gwneud ei thaith ddysgu’n haws.

Un o’r uchafbwyntiau i Zoe y llynedd oedd pan gyflwynodd gais i fod yn ymgeisydd ar sioe’r BBC, ‘The Apprentice.’

Meddai: “Bûm yn gwylio’r sioe ers pan oeddwn i yn fy arddegau. Gadewais fy ngyrfa yn werthwr tai i sefydlu busnes glanhau yn canolbwyntio’n bennaf ar eiddo ar werth neu i’w rentu. Yn ystod y cyfnod hwn digwyddodd y cyfnod clo, a gwelais fod cyfle i ymgeisio ar gyfer y sioe. Fe wnaeth un o’r cynhyrchwyr gysylltu â mi a gofyn i mi fynd i Lundain.”

Roedd ei syniad busnes ar gyfer The Apprentice yn ymwneud â thyfu’n gynaliadwy ac yn anelu at annog pobl i dyfu eu cynnyrch ffres eu hunain.

Mae ei gweledigaeth ynghylch tyfu’n gynaliadwy’n parhau ar ôl graddio. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, mae’n gobeithio siarad â’r cyngor lleol am fwy o adnoddau fel rhandiroedd tyfu mewn ysgolion i roi’r addysg a’r wybodaeth i blant am sut y gallent dyfu eu cynnyrch eu hunain, i helpu plant fagu hyder yn ifanc a fydd o bosibl yn annog newid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Meddai Jessica Shore, un o Ddarlithwyr y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn andros o falch o Zoe a’r daith yr aeth arni gyda ni yn ystod ei rhaglen radd. Roedd cael clyweliad i The Apprentice yn brawf o’i gallu i arloesi a’i gwydnwch. Yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin, mae cynaliadwyedd yn sail i’n rhaglenni ac mae gweld y rhaglen yn siapio cynlluniau busnes Zoe’n wych. Nid oes amheuaeth gennym, gyda chymhelliad, penderfyniad ac angerdd Zoe at atebion bwyd cynaliadwy, y bydd hi’n cyrraedd ei nodau.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon