Skip page header and navigation

Mae Kirsty Thomas wedi graddio o’r rhaglen BA Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Penderfynodd ddod i astudio yn y Drindod Dewi Sant ar ôl clywed adborth gwych gan gyn-fyfyrwyr, ac fel mam sengl brysur, roedd y lleoliad yn ddelfrydol iddi hi.

Myfyrwyr yn gwrando ar ddarlithydd yn yr ystafell drochi

Drwy’r cwrs BA Busnes a Rheolaeth bu fodd i Kirsty ennill gwybodaeth a sgiliau ynghylch cynaliadwyedd a syniadau arloesi ar gyfer y dyfodol. Meddai:

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i baratoi am yrfa mewn busnes a rheolaeth yn y dyfodol ac mae wedi caniatáu i mi fod yn greadigol a meddwl yn wahanol o ran adeiladu dyfodol cynaliadwy a meddwl am ein gweithredoedd ni a’u canlyniadau. Mae cyfleoedd eraill ar gael gydol y cwrs sy’n gallu caniatáu i chi ennill mwy o sgiliau a gwybodaeth.”

Mwynhaodd Kirsty bopeth am y cwrs, fodd bynnag ei hoff agwedd arno oedd creu cynlluniau busnes arloesi i’r dyfodol.  Uchafbwynt arall i Kirsty oedd ei phrosiect annibynnol, lle gwnaeth ymchwil i’r argyfwng gwastraff plastig a’r effaith mae’n ei chael ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt. Ychwanegodd:

“Bu modd i mi gynnal f’ymchwil ansoddol fy hun a oedd yn ddiddorol iawn ac fe ddysgais i lawer drwyddo. Y diwydiant harddwch oedd fy ffocws am mai nhw yw’r cyfranwyr pennaf i’r argyfwng gwastraff plastig rydym ni’n ei wynebu heddiw. Rwyf hefyd wedi dysgu am yr heriau sydd ynghlwm â bod yn fusnes sy’n foesegol, yn gynaliadwy ac yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.”

I Kirsty, roedd bod yn fam sengl ac astudio cwrs israddedig amser llawn ar yr un pryd â gweithio’n rhan amser yn heriol. Fodd bynnag, bu gallu Kirsty i reoli’i hamser a bod yn drefnus yn gymorth i’w gwthio hi drwy’r cwrs.

“Rwy’n credu mai fy merched sy’n fy symbylu ac mae cyflawni fy nghymwysterau’n rhywbeth a wnes i er ein mwyn ni fel teulu.”

Disgrifiodd Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn lle arbennig oherwydd y cymorth a gafodd gan ei darlithwyr.

“Doedd dim byd yn ormod iddyn nhw, byth.” Maen nhw wedi caniatáu i mi fagu hyder gydol y 3 blynedd rwyf wedi astudio yno a ches i’r cyfle i fod yn gynrychiolydd dosbarth am ddwy flynedd yn olynol. Mae astudio Busnes yng Nghaerfyrddin wedi caniatáu i mi gyflawni fy nodau.

“Yn sicr mae’r cwrs wedi fy natblygu fel unigolyn. Pan ddechreuais i ar y cwrs roeddwn i’n nerfus iawn a heb unrhyw hyder. Ar ôl cael f’ethol yn gynrychiolydd dosbarth am ddwy flynedd yn olynol, a gwybod beth rwyf wedi’i ddysgu yn ystod 3 blynedd olaf fy nghwrs, fyddwn i ddim ble rwyf i heddiw, yn gweithio’n amser llawn yn swydd fy mreuddwydion.

Ar ôl i Kirsty raddio, sicrhaodd swydd yn brentis AD ym maes recriwtio gyda Heddlu Dyfed Powys.

“Bu’r cwrs yn gymorth i mi fagu hyder o ran credu y gallwn i gyflawni fy nod a bu modd i mi ennill y wybodaeth a’r sgiliau roedd eu hangen arnaf gydol fy nghwrs. Mae’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu wedi bod yn gymorth aruthrol yn fy ngyrfa newydd ac rwy’n gobeithio parhau i ddysgu ac ennill mwy o sgiliau drwy fy ngyrfa gyfredol.

“Cynhaliodd y Drindod Dewi Sant ffair yrfaoedd lle roeddwn i wedi gallu cwrdd â thîm recriwtio Heddlu Dyfed Powys, a ches i siarad â nhw fy hun a fu’n sbardun i mi achub ar y cyfle rwyf bob amser wedi dymuno ei gael.”

Meddai Jessica Shore, darlithydd yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae Kirsty wedi bod ar daith hunan-ddarganfod anhygoel, mae’i hyder ynghyd â’i gwybodaeth a’i phrofiad wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi bod yn bleser mawr i ni fod yn rhan o hanes Kirsty. Roedd Kirsty yn rhan werthfawr iawn o grŵp blwyddyn gwych, ac rydym ni wrth ein boddau i’w gweld hi’n cyflawni’i breuddwydion ac yn gadael y Brifysgol nid yn unig â gradd ond hefyd â swydd ffantastig a dyfodol disglair iawn iddi hi a’i theulu.  Fel y mae Kirsty wedi sôn, mae astudio yn ogystal â bod yn rhiant neu ddal swydd yn bosibl ac yn rhoi boddhad.”

Byddai Kirsty yn annog pobl eraill i ddilyn ei hesiampl:

“Achubwch ar y cyfle, fyddwch chi ddim yn difaru. Mae digon o gymorth ar gael gan ddarlithwyr a byddwch chi’n cwrdd â phobl wych ar y ffordd. Byddwch yn bositif ac mae’r gwaith caled yn werth yr ymdrech yn y diwedd. Os gallaf i ei wneud, gall rhywun ei wneud.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon