Skip page header and navigation

Mae gan Naomi Linahan radd BA a gradd Meistr mewn Drama eisoes, nawr gall ychwanegu cymhwyster PCET at y portffolio hwnnw. Mae’r TAR Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn gwrs addysg athrawon proffesiynol a fydd yn eich cymhwyso i addysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Naomi Linahan yn gwenu yn ei gŵn a het academaidd.

Mae Naomi, sy’n Hyfforddwr Dysgu mewn Coleg Addysg Bellach, am ddefnyddio ei sgiliau addysgu i ysbrydoli’r to nesaf.

Meddai’r ferch 23 oed o Ferthyr Tudful: “Rwy’n caru theatr a ffilm, ac rwy’n teimlo’n angerddol iawn am sut y gall addysg rymuso pobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol ac ymylol.

“Mae gen i awydd cryf i rannu fy ngwybodaeth a’m hangerdd dros y theatr, addysg, a’r celfyddydau â phobl ifanc, a helpu i lunio’r to nesaf. Rwy hefyd yn awyddus i symud ymlaen ym maes addysg a gweithio fy ffordd i fyny at swyddi uwch lle galla i gyfrannu i bolisïau sy’n datblygu’r cwricwlwm a rhai addysgol.”

Meddai Naomi ei bod wedi dewis Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei henw da ym maes addysg, yn ogystal â’i phwyslais ar brofiad addysgu ymarferol.

“Mwynheais i natur ymarferol y modylau. Roeddwn i wrth fy modd â’r dull ymarferol, lle cawsom ni ein hannog i archwilio gwahanol dechnegau, arferion a syniadau. Roedd y cwrs yn caniatáu i mi ddatblygu ystod o sgiliau a oedd yn ehangu fy nealltwriaeth o’r diwydiant,” meddai.

“Mae’r cwrs wedi bod yn werthfawr iawn i mi. Roedd nid yn unig yn gwella fy ngalluoedd addysgu, ond hefyd yn meithrin fy hyder, meddwl beirniadol a sgiliau datrys problemau.

“Roedd darlithwyr Y Drindod Dewi Sant yn hynod gefnogol drwy gydol y cwrs, gan eu bod yn darparu arweiniad gwerthfawr, adborth adeiladol a mentoriaeth.

“Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar yr un cwrs â’r un yr astudiais i arno, byddwn i’n argymell eich bod chi’n ymgolli yn agweddau ymarferol y cwrs ac i fanteisio ar bob cyfle sy’n dod eich ffordd gan y bydd y profiadau hyn nid yn unig yn datblygu eich sgiliau, ond hefyd yn ehangu eich rhwydwaith yn y diwydiant. Hefyd, gwnewch yn fawr o adborth gan ddarlithwyr a chyfoedion, gan ei bod yn hanfodol i hogi eich crefft!”

Meddai Katie Gardner, darlithydd o’r Drindod Dewi Sant: “Mae Naomi wedi gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn gan sicrhau safon uchel o waith drwyddi draw. Mae hi wedi ennill profiad o addysgu yn ei hen goleg ac wedi bod yn fodel rôl gwych i’r myfyrwyr hynny. O ganlyniad i’w gwaith caled a’i hymroddiad i fyfyrwyr ar ei lleoliad mae hi wedi sicrhau rôl ym maes cymorth myfyrwyr. Mae wedi bod yn bleser dysgu Naomi a’i gweld hi’n cyflawni.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau