Skip page header and navigation

Darganfu Nathanael Potts ei angerdd am beirianneg am y tro cyntaf pan ymunodd â thîm Greenpower ei ysgol a oedd yn galluogi disgyblion i adeiladu ceir trydan un sedd yr oeddent hefyd yn gallu eu rasio ar draciau ledled y wlad.

Nathanael Potts mewn gŵn a het raddio ar bont Bae Copr, Abertawe.

“O’r eiliad honno roeddwn i’n gwybod ei bod yn yrfa roeddwn i eisiau ei dilyn ymhellach,” meddai.

Datblygodd ei ddiddordeb mewn chwaraeon moduro a pheirianneg ymhellach pan ymwelodd ag un o ddiwrnodau agored y Brifysgol a gweld y cyfleusterau a’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr.

“Gwnaeth hyn gadarnhau pethau’n bendant i mi. O’r fan honno roeddwn yn benderfynol o astudio yn y Drindod Dewi Sant a manteisio i’r eithaf ar fy mhrofiad fel myfyriwr,” meddai.

“Fy nodau a’m huchelgeisiau ar y pryd, ac yn dal i fod heddiw, yw ceisio llwyddo mewn gyrfa/ diwydiant i wthio arloesedd ymlaen a bod y peiriannydd gorau y gallaf fod, gan ddatblygu dyluniadau newydd ac arloesol.”

Dywedodd Nathanael, sy’n graddio yr wythnos hon, fod dau uchafbwynt allweddol o’i amser yn y Drindod Dewi Sant.

“Y cyntaf oedd cael y cyfle i weithio gyda thîm rasio allanol yn datblygu aerodynameg y car i wneud y gorau o’i berfformiad. Ar ôl blwyddyn o weithio ar y car, mae ychydig o uwchraddiadau a gynlluniwyd gennyf i wedi’u gwneud i’r car, gyda chwpl yn dal i fod ar y gweill i’w cynhyrchu,” meddai.

“Yr ail oedd cael y cyfle i wneud rhywfaint o ddadansoddi aerodynamig ychwanegol ar gyfer Morgan Motors a thaith o amgylch eu ffatri. Rhoddodd hyn fewnwelediad gwych i mi i’r diwydiant modurol a sut mae’r cwmni’n gweithredu.”

Dywedodd Nathanael y byddai’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn peirianneg chwaraeon moduro.

“Mae’r profiad ymarferol a gewch trwy gydol y cwrs yn anhygoel yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu sgiliau newydd ar nifer o feddalwedd sy’n arwain y diwydiant. Hefyd, mae’r gefnogaeth a gewch gan ddarlithwyr heb ei hail.”

Dywedodd Nathanael fod y cwrs wedi helpu gyda’i hyder yn ei faes penodol i fynd allan a chefnogi timau rasio i ddatblygu eu car ar y trac.

“Rwyf nawr am ymgymryd ag un flwyddyn arall i gael gradd meistr i gadarnhau fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth ychydig yn fwy fel bod gennyf sylfaen gadarn i fynd i mewn i’r diwydiant,” ychwanegodd.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau