Skip page header and navigation

Mae Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynnal ei thrydedd Gynhadledd undydd ar Hyfforddi a Mentora yn y Gweithle.

Cyfranogwyr cynhadledd WAPPAR yn sefyll o flaen grisiau yn adeilad IQ.

Canolbwyntiodd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn Adeilad IQ y Drindod Dewi Sant yn Abertawe ar: Hyfforddi a Mentora mewn Hinsawdd o Newid, gan roi cyfle rhagorol i glywed gan ymarferwyr arbenigol a chyfle i gymryd rhan mewn gweithdai diddorol a llawn gwybodaeth.

Yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae gan yr Academi gefndir cryf mewn hwyluso datblygiad hyfforddwyr a mentoriaid ar gyfer y gweithle, ac mae’n bleser mawr ganddi estyn gwahoddiad i ymarferwyr, arweinwyr fel hyfforddwyr/mentoriaid, ymchwilwyr Meistr/Doethuriaeth a’n cyn-fyfyrwyr, i rannu arfer gorau ac ymchwil yn y maes.

Y Dirprwy Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elena Rodriguez Falcon wnaeth groesawu pawb i’r gynhadledd, ac i amlinellu pwysigrwydd Hyfforddi a Mentora yng Nghymru. Meddai:

“Mae’r Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gynhadledd hon a fydd yn dwyn ynghyd gymuned o ymarferwyr arbenigol ac academyddion sy’n ymroddedig i ddatblygu hyfforddiant a mentora i rannu arferion gorau ac ymchwil i helpu talent sy’n diogelu’r dyfodol ac i wella sgiliau arwain.

“Gyda dros 2,000 o raddedigion o’i rhaglenni, mae gan yr Academi hanes o gefnogi sefydliadau a’u pobl yng Nghymru a thu hwnt, gyda hyfforddiant arloesol, hyblyg a phwrpasol, sy’n darparu atebion sy’n benodol i’w hanghenion.”

Yn ystod y gynhadledd, clywodd y gwesteion yn clywed gan amrywiol brif siaradwyr gan gynnwys Athro Ymarfer Academi Golau Glas y Drindod Dewi Sant, yr Athro Kim-Ann Williamson, Hyfforddwr Trawsnewid Meddylfryd ac Ymgynghorydd Arweinyddiaeth Joy Ogeh-Hutfield, ac o’r Drindod Dewi Sant, yr Uwch Ddarlithydd Julie Crossman a’r Darlithydd a Rheolwr Masnachol Gary Metcalfe.

Gwnaeth y gynhadledd gynnal digwyddiad rhwydweithio hefyd ar gyfer Cymdeithas Hyfforddi’r Academi, canolbwynt Cymru gyfan ar gyfer arfer gorau ym maes hyfforddi a mentora.

Yn ystod y prynhawn, cynhaliwyd amrywiol weithdai ar agweddau ar Hyfforddi a Mentora, megis Mentora mewn Addysg, Hyfforddi Tîm a Dysgu Gweithredol.

Gwnaeth myfyrwyr hefyd gyflwyno tystebau,  a rhannu eu profiad o’r modd mae’r cwrs Hyfforddi a Mentora wedi bod o fydd iddyn nhw.  

Meddai Julie Crossman, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr y Rhaglen Hyfforddi a Mentora:

“Rwy wrth fy modd i rannu’r newyddion gwych hwn gan ein bod wedi cael bwlch o dair blynedd ers dechrau’r pandemig. Rydyn ni mor gyffrous am y posibilrwydd o weld aelodau’r gymuned hyfforddi unwaith eto a dal i fyny gyda ffrindiau, hen a newydd.

“Mae nifer ohonom wedi wynebu newid sylweddol ers i ni gynnal ein cynhadledd ddiwethaf yn 2019 ac mae thema’r gynhadledd hon eleni yn parchu ac yn adlewyrchu hyn. Rydym wedi cael prif siaradwyr gwirioneddol ysbrydoledig a fydd yn rhannu eu profiad fel hyfforddwyr a mentoriaid, ynghyd ag ystod o sesiynau dosbarth meistr diddorol ac ysgogol.”

Cyfranogwyr cynhadledd WAPPAR yn eistedd wrth fyrddau crwn.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau