“Ymdeimlad cartrefol, agos a theuluol y brifysgol” a ddenodd Heledd James i astudio yn y Drindod Dewi Sant
Heddiw, mae Heledd James yn graddio gyda ‘BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd’ wedi iddi benderfynu astudio yn y Drindod Dewi Sant ar ôl ymweld â’r brifysgol ar ddiwrnod agored.
![Heledd James mewn gwisg academaidd.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/being-part-of-a-family-attracted-heledd-james-to-study-at-uwtsd.jpg?h=c6938bea&itok=1eCxRpQz)
“Fe ges i’r ymdeimlad cartrefol, agos a teuluol sydd gan y brifysgol. Cefais i’r cyfle i gwrdd â rhai o fy narlithwyr (roeddent yn lyfli!) a roedd hyn wedi tawelu unrhyw bryderon oedd gen i. Mae’r brifysgol yn un cyfeillgar a glos sydd yn croesawu pawb mewn i’w teulu – yr ymdeimlad yma o gymuned sydd yn ei wneud yn le arbennig i astudio.”
Roedd Heledd wedi mwynhau pob agwedd o’r cwrs gan ei bod wedi medru ei astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Fe wnes i benderfynu astudio yn y Gymraeg gan fy mod i wedi derbyn fy addysg yn y Gymraeg trwy gydol fy mywyd a roeddwn i eisiau parhau gyda hyn. Mae yna amrywiaeth o manteision o astudio yn y Gymraeg, roeddwn i’n ffodus iawn fy mod i wedi derbyn prif ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan fy mod i wedi astudio yn y Gymraeg. Credaf wrth i ni astudio ein graddau yn y Gymraeg mae’n ei wneud ni’n unigryw – bu ni’n sefyll allan pan rydym yn ceisio am swyddi yn y dyfodol.”
Gwnaeth Heledd fwynhau’r amrywiaeth yr oedd y cwrs yn cynnig, o’r pynciau gwahanol a’r ffyrdd wahanol o asesu. Agwedd arall y gwnaeth Heledd fwynhau o’r cwrs oedd y gallu i’w herio mewn sawl ffordd a’i chynorthwyodd i gynhyrchu ei gwaith gorau.
Teimlodd fod y darlithwyr wedi bod yn gefnogol trwy gydol ei chyfnod fel myfyrwraig, ac mae’r cwrs wedi ei helpu i ddatblygu fel unigolyn. Ychwanegodd:
“Mae fy mhrofiadau i yn y brifysgol yn bendant wedi codi fy hyder yn gyffredinol, yn benodol mae profiadau megis bod yn llysgenad i’r brifysgol a trwy bod yn cynrychiolydd cwrs wedi helpu gyda hyn. Mae dod i’r brifysgol wedi fy ngalluogi i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol, dwi hefyd wedi cael y cyfle i datblygu fy sgiliau academaidd.
“Heddiw dwi’n berson hyderus a gwybodus yn fy mhwnc, mae fy hunan hyder wedi cryfhau – mae fy mhrofiad i yn y brifysgol yn bendant wedi cael effaith cadarnhaol ar fy natblygiad.”
Mae Heledd yn bwriadu parhau i weithio mewn ysgol gynradd wedi graddio, ac yn ychwanegol i hyn mi fydd yn dychwelyd i’r Drindod Dewi Sant fis Medi i astudio cwrs meistr rhan amser.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476