Skip page header and navigation

Dr Alison Evans BA gyda SAC, MA, EdD, FHEA

Llun a Chyflwyniad

Dr Alison Evans yn rhoi cyflwyniad.

Cyfarwyddwr yr MA Cenedlaethol mewn Addysg – MA Addysg (Cymru)

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: alison.evans2@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Uwch Ddarlithydd
  • Arweinydd Modwl (Archwilio Addysgeg) – MA Cenedlaethol (Ed)
  • Arweinydd Modwl (Cyflwyniad i Ymchwil) – EdD, Blwyddyn 1
  • Goruchwylio traethodau hir MA 
  • Goruchwylio Traethodau Ymchwil Doethurol 
  • Addysgu ar gyrsiau TAR (Cynradd ac Uwchradd)
  • Arbenigwr busnes ar gyfer TAR Uwchradd
  • Asesu aseiniadau yn cynnwys lefelau 4–7
  • Goruchwylio traethodau hir MA(Ed)

Cefndir

Yn ystod 20 mlynedd o yrfa yn athro Ysgol Uwchradd, ymgymerodd Alison â sawl rôl, megis Pennaeth Adran (Astudiaethau Busnes), Cydlynydd Pontio CA2/CA3 ac Athro-lywodraethwr.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd Alison hefyd yn mwynhau rôl weithgar fel mentor i fyfyrwyr TAR ac fel marciwr allanol ar gyfer arholiadau a gwaith cwrs TGAU a Lefel Uwch. 

Cafodd ei phenodi’n Uwch Ddarlithydd mewn AGA yn 2014, yn arwain y cwrs TAR Astudiaethau Busnes. Ers hynny, mae Alison wedi derbyn swydd fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer darpariaeth yr MA Cenedlaethol (Add) yn PCYDDS yn ogystal â chael profiad o arwain modylau amrywiol ar gyfer cyrsiau BA (Add), TAR, MA ac EdD. Yn ogystal, arweiniodd Alison y tîm Derbyn ar gyfer cyrsiau TAR am bum mlynedd cyn derbyn swydd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Cwricwlwm ac Addysgeg yn yr Athrofa. Roedd y rôl hon yn rhychwantu cyfnod o newidiadau addysgegol arwyddocaol yn ystod Covid-19, a hwylusodd Alison nifer o fentrau i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiadau gorau posibl.

Mae Alison hefyd wedi ymgymryd â dyletswyddau Arholwr Allanol mewn Addysg Gychwynnol Athrawon ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (2018–2022) ac mae’n arholwr allanol ar gyfer Prifysgol Dundee ar hyn o bryd. Mae’r rolau hyn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr iddi ar arferion mewn sefydliadau eraill, yn ogystal ag ehangu ei rhwydwaith proffesiynol.  

Ceisiodd traethawd ymchwil Doethurol Alison ddeall profiadau a chanfyddiadau cyfranogwyr yn eu harddegau mewn perthynas â’r cyfleoedd a’r rhwystrau a wynebir wrth ddatblygu sgiliau penodol gwydnwch a datrys problemau o fewn lleoliadau teuluol, ysgol a chymunedol gan ddefnyddio fframwaith ymchwil cyfranogol. 

Aelod O

  • EBEA
  • HEA

Diddordebau Academaidd

  • Addysgu/arwain ar amrywiaeth o fodylau Ymchwil (Lefelau 4 a 7)
  • Addysg fusnes
  • Addysgeg
  • Goruchwylio traethodau hir (MA)
  • Goruchwylio graddau doethur (EdD)

Meysydd Ymchwil

  • Dulliau ymchwil cyfranogol
  • Dadansoddiad thematig
  • Llencyndod
  • Sgiliau’r 21ain ganrif