Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Mae ein cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd wedi’u lleoli ar gampws bywiog glannau Abertawe gan gynnig ystod eang o offer maes a labordy, sy’n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr. Defnyddiwn ardal naturiol hardd Abertawe a thu hwnt yn labordai byw i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol y byd go iawn trwy ddysgu rhyngddisgyblaethol a chymhwysol. Ochr yn ochr â chyfleusterau arbenigol, caiff myfyrwyr fynediad i lyfrgell gynhwysfawr a digonedd o fannau astudio. 

Our Facilities Include

Mae ein cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd yn cynnwys: 

Dau Labordy â Meddalwedd Arbenigol: Yn cynnwys Proteus VSM, meddalwedd ddylunio Easy PC, MATLAB, ANSYS HFSS, MPLAB, crynhoydd CCS PIC C, Factory IO, Siemens TIA, Virtual Instrument gan LJ Create, a chipio drwy Pico-Scope. 

Offer Arbenigol: gan gynnwys osgilosgopau digidol, osgilosgopau ar gyfrifiaduron (Pico-Scope), cyflenwadau pŵer allbwn triphlyg, cynhyrchwyr signalau gydag uwch swyddogaethau modyliad, rhaglenwyr micro-reoli PIC, ‘breadboard’ a chyfleusterau sodro. Storfeydd cydrannau helaeth, Siemens S1200 PLCs a HMIs.

Mae dyn ifanc mewn cot labordy yn archwilio sampl o bridd gan ddefnyddio gefel; gwelir microsgop tu ôl iddo.

Mae gan bob gorsaf yn ein cyfleuster addysgu electroneg osgilosgop digidol, generadur signalau, cyflenwad pŵer aml-allbwn, a rhyngwyneb rhaglennu micro-reoli er mwyn caniatáu i’n myfyrwyr ymgymryd ag ymarferion ymarferol i ategu’r hyn a ddysgir mewn dosbarthiadau. 

Ynghyd â meddalwedd efelychu a dylunio o safon diwydiant, mae ein cyfleusterau yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr gael profiad ymarferol o ddylunio, profi ac ymdrin â diffygion mewn cylchedau electronig, gan eu paratoi am heriau yn y byd go iawn ym maes peirianneg drydanol ac electronig. 

Drwy arbrofi dan arweiniad a dysgu seiliedig ar brosiectau, gall myfyrwyr archwilio cysyniadau megis dadansoddi tonffurfiau, prototeipio cylchedau, a rhaglennu systemau mewnblanedig, gan feithrin dealltwriaeth fanwl o egwyddorion damcaniaethol a’u  cymwysiadau ymarferol. Ein nod yw meithrin amgylchedd dysgu sy’n meithrin arloesi ac yn grymuso myfyrwyr i ddod yn ddatryswyr problemau medrus ac yn arloeswyr ym maes deinamig electroneg. 

Mae dyn ifanc yn gosod sampl tu mewn i ddarn o offer labordy.

Ein lleoliad fel Adnodd Dysgu   

Mae ein rhaglenni’n elwa o’n lleoliad ac yn ei ddefnyddio fel Adnodd Dysgu, gan wneud defnydd o’r amgylchedd naturiol hardd o’n cwmpas, gan gynnwys:  

  • Traeth Abertawe: Gyda’i system twyni trefol datblygedig, sy’n cael ei fonitro ar hyn o bryd fel labordy byw  

  • Bryn Cilfai: ac ailgyflwyno rhywogaethau brodorol.  

  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Lle bydd myfyrwyr yn gwirfoddoli i helpu i fonitro tir mawn ac ailgyflwyno bele’r coed.  

  • Cwm Ivy: Gyda’i ecosystemau morfa heli.  

  • Abertawe a’r ardaloedd cyfagos: a’i llu o safleoedd technoleg adnewyddadwy.

  • Lleoliad ein campysau: mae Caerfyrddin a Llambed yn amgylcheddau dysgu estynedig ar gyfer ein rhaglenni, gan annog myfyrwyr i feddwl am reolaeth ymarferol a chadwraeth y lleoliadau hyn. 

Mae grŵp astudio amgylcheddol yn cerdded ar draws ehangder llydan, fflat traeth Whiteford.
Tywodydd Whiteford
Dywed plac ar glogfaen mwsoglyd: Cwm Ivy Woods, Nature Reserve, Glamorgan Naturalists Trust; tu ôl iddo, saif grŵp astudio ar lwybr trwy coetir collddail.
Gwarchodfa Natur Cwm Ivy
Saif grŵp astudio ar wal fôr Cwm Ivy, yn agos i rwyg mawr yn y clawdd pridd.
Wal Fôr Cwm Ivy
Gan eistedd o flaen monitor cyfrifiadur, mae dynes yn gwenu heibio’r camera.

Cyfleusterau Cyfrifiadura  

Mae ein rhaglenni hefyd yn elwa o gyfleusterau addysgu a chyfrifiadurol o’r radd flaenaf a chanddynt ystod eang o danysgrifiadau data digidol (fel labordai Planet a gwasanaethau Digimap) a ddefnyddir ar gyfer GIS, synhwyro o bell, sesiynau ymarferol dosbarthiadau a phrosiectau traethawd hir. 

Mae dyn ifanc yn edrych trwy ficrosgop ar garreg gron.

Offer Geometrig 

Mae ein hadran ehangach hefyd yn cynnal offer geomatig o’r radd flaenaf, gan gynnwys sganwyr laser daearol, gorsafoedd cyflawn, a cherbydau awyr heb griw a chanddynt amrywiaeth o offer synhwyro (gan gynnwys sganiwr Zenmuse L2 Lidar a sganwyr amlsbectrol eglur iawn). 

Waliau digidol yn dangos planhigfa coniffer gyda brandiau coch ar draws bob boncyff.
Ystafell Drochi

Adnoddau Trawsadrannol: 

Yn ogystal â’n cyfleusterau arbenigol, mae gennym gysylltiadau agos gydag adrannau eraill, sy’n rhoi i ni fynediad at Sbectrosgopeg Raman, sbectrosgopeg isgoch Fourier-transform (FTIR), offer argraffu 3D uwch, ystafelloedd trochi rhyngweithiol, ac amrywiaeth o offer adeiladu a realiti rhithwir. 

Mae dynes yn penlinio tu ôl i fainc waith wrth iddi archwilio dau diwb profi wedi’u cysylltu i wifrau coch a du.
Labordy Ynni

Labordy Ynni 

Mae ein Pecyn Ynni yn cynnwys: 

  • Pecyn cell tanwydd a gynhyrchir gan yr hydrogen wedi’i seilio ar dechnoleg solar 

  • Model tyrbin gwynt  

  • Profi panel solar 

Oriel Gyfleusterau  

Bywyd ar y Campws

four students on beach playing in shallow water

Bywyd Campws Abertawe

Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.