Skip page header and navigation

Y mis hwn, graddiodd 42 o fyfyrwyr MADE Cymru o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gydag MSc a Thystysgrifau Ôl-raddedig mewn cyrsiau Rheoli Arloesi a Diwydiant 4.0. 

A large group of happy, proud and smiling graduates pictured against a gold coloured wall.

Daw hyn â chyfanswm y myfyrwyr sydd wedi astudio gyda MADE Cymru i 417. Mae cyfanswm o 134 o fusnesau gwahanol wedi anfon myfyrwyr ar y cyrsiau.  Ymhlith y busnesau â myfyrwyr yn graddio y mis hwn mae Safran Seats, Diamond Centre Wales, Reflexallen, Gestamp, Energizer Auto UK, Viscose Closures, a Marelli. Mae’r cwmnïau hyn wedi annog a chefnogi eu staff yn weithredol i gymryd rhan yn y rhaglenni.

Meddai Amanda Hayden, Uwch Reolwr Prosiect ar gyfer MADE Cymru, “Roeddwn i’n gofalu am y myfyrwyr oedd yn astudio gyda ni, ac mae wir yn anrhydedd i’w gweld yn graddio. Nid yw’n hawdd astudio a gweithio, felly rydyn ni wir yn falch ein bod wedi llunio cyrsiau y gellid eu cwblhau ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith (a chartref). Fel y sonia Lisa isod, fe wnaethom ni ragori ar holl allbynnau’r prosiect, ond yr hyn dwi’n ei ddathlu yw’r heriau a’r datblygiadau personol sydd wedi digwydd. Mae astudio wedi rhoi cymaint o hyder i lawer o’r myfyrwyr a chwa o egni proffesiynol!  Mae llawer wedi mynd ymlaen i astudio cyrsiau eraill yn y Drindod Dewi Sant. Mae’r byd i gyd o’u blaen, a dwi’n falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny.”

Ynglŷn â MADE Cymru

Menter Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw MADE Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. O gyfleoedd dysgu o bell i gefnogaeth ymarferol gyda phrototeipio, mae MADE Cymru wedi helpu gweithgynhyrchwyr i gofleidio’r wybodaeth, yr ymchwil a’r technolegau diweddaraf.

Cyrsiau ymarferol sy’n cael effaith

Lluniwyd y cyrsiau byw ac ar-lein gan dîm o academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ystyrlon i’r myfyrwyr a’u busnesau. Roedd deall gofynion a heriau’r sector yn fantais enfawr, a nodwyd bod y cyrsiau’n ymarferol ac yn effeithiol. Gallai myfyrwyr roi’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu ar waith ar unwaith.

Cefndiroedd amrywiol y myfyrwyr

Meddai Alan Malan, darlithydd Rheoli Arloesi yn MADE Cymru, “Daw’r myfyrwyr sydd wedi bod yn astudio gyda ni o bob rhan o Gymru ac o alwedigaethau gwahanol iawn: peirianwyr, cemegwyr, un â gradd yn y gyfraith, dylunwyr tecstilau, rheolwr melin lifio, dylunwyr arwynebau, peirianwyr dylunio, rheolwyr marchnata, a micropaleontolegydd!  Mae’r cwmnïau lle maent yn gweithio yr un mor amrywiol: gwneuthurwr offer gwyddonol ar gyfer datsugno thermol, melin wlân draddodiadol, cynhyrchwyr offer arbenigol ar gyfer gweithio ar uchder, ymgynghoriaeth brandio a graffeg, ymgynghoriaeth stratigraffig, cwmni prosesu pren, ac ymgynghoriaeth hedfan. Dengys hyn yr awydd am gyrsiau fel y rhain sy’n gydnaws â gwaith. Mae’n anrhydedd bod yn bresennol yn y seremoni raddio a gweld y myfyrwyr gwych hyn yn derbyn eu cymwysterau. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth fyddan nhw’n ei wneud nesaf.”

Stori myfyriwr: Bernadette Lessimore

Astudiodd Bernadette Lessimore, Rheolwr Masnachol a Chyllid yn Synergy Plastics Ltd, am Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheolaeth Arloesi.

“Roedd y ffaith fod y cwrs ar-lein yn help mawr, gan ganiatáu i mi barhau ar y safle pe bai angen cysylltu â mi. Cyflwynwyd y cwrs mewn ffordd broffesiynol iawn, gydag amrywiol siaradwyr gwadd yn ei wneud yn fwy diddorol byth.

Yn bersonol, mae hyn wedi hybu fy hyder. A minnau heb gamu i ‘ystafell ddosbarth’ ers dros 30 mlynedd, roedd gen i lawer o bryderon ar y dechrau ynglŷn â sut y byddwn yn ymdopi yn yr amgylchedd hwnnw eto, yn enwedig gyda myfyrwyr sydd wedi parhau â’u hastudiaethau. Fodd bynnag, roedd fy nghyd-fyfyrwyr yn wych ac yn gefnogol iawn, a thyfodd fy hyder dros gyfnod y cwrs.

O ran y gwaith, dwi bob amser wedi bod yn ymwneud yn helaeth â chyllid pob cwmni dwi wedi gweithio iddo. Mae fy ngweithle presennol yn creu mowldwyr chwistrellu plastig, ac roedd pob rhan o gynnwys y cwrs hwn yn berthnasol i feysydd nad wyf wedi gallu ymwneud â nhw oherwydd diffyg profiad. Wrth symud ymlaen, mae gen i bellach y sgiliau i ddod yn rhan o’r tîm sy’n ymwneud ag arloesi a phrosiectau creu offer newydd.”

Stori myfyriwr: Adam Fairbank

Astudiodd Adam Fairbank, Rheolwr Marchnata a Recriwtio, ION Leadership, Prifysgol Abertawe, am Dystysgrif Ôl-raddedig MADE Cymru mewn Rheoli Arloesi.

“Gwnaeth y cwrs hwn adfywio fy nghariad at ddysgu. Fe wnaethon ni ddatblygu cymuned wych o arloeswyr, pawb wrth law i helpu ei gilydd. Ac wrth gwrs, y chwedlonol Alan (Mumby). Roedd y sesiynau wythnosol, yn fyw o’i sied yng Ngogledd Cymru, yn hynod o dreiddgar, a digrif iawn hefyd, ac yn 2 awr fendigedig bob wythnos.  

Cafodd hyn effaith fawr ar fy swydd. Yn ddiweddar symudais i swydd lle dwi’n gweithio o fewn yr ecosystem arloesi yng Nghymru ac rwy’n eithriadol o gyffrous ynglŷn â’r hyn sydd i ddod nesaf (gradd Meistr efallai!).”

Deilliannau annisgwyl MADE Cymru

Meddai Lisa Lucas, a oedd yn rheoli prosiect MADE Cymru ar gyfer y Drindod Dewi Sant, “Pan luniwyd rhaglenni MADE Cymru, ni allai neb fod wedi rhagweld yr effaith y byddent wedi’i chael ar y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Cafwyd rhai deilliannau annisgwyl hefyd, megis myfyrwyr o sefydliadau a sectorau gwahanol yn cydweithio ar brosiectau ac yn rhannu eu heriau. Wnaethon ni ddim sylweddoli pa mor gryf oedd y rhwydwaith o fusnesau roeddem yn ei greu ac felly rydyn ni mor falch i aros mewn cysylltiad a pharhau i weithio gyda llawer ohonynt. 

Rydym wedi cael sefydliadau a ddechreuodd ar gwrs byr, rhai wedi gwneud cwrs Ymchwil a Datblygu gyda ni, ac yna wedi symud ymlaen at Bartneriaethau Clyfar, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth neu wedi cymryd rhan yn y rhaglen Gradd-brentisiaethau. Trefnwyd digwyddiadau a chyfleoedd rheolaidd i gwrdd, ac mae’n fy synnu bob tro cynifer o gyn-fyfyrwyr a sefydliadau sy’n bresennol.

Roedd hyn hefyd yn rhoi nifer o gyfleoedd i’n myfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant, sydd wedi gweithio fel interniaid ar brosiect MADE Cymru (cawsom fyfyriwr darlunio gwych, Ben Deere, gyda ni am ddwy flynedd) a’r rhai oedd yn gweithio ar brosiectau ymchwil neu fel interniaid gyda’r gwneuthurwyr. Mae effaith y prosiect hwn yn mynd ymhellach na’r allbynnau nodedig. Yr hyn yr ydyn ni fel tîm yn ei ddathlu yw’r storïau pwysig, y llwyddiannau personol a’r enghreifftiau o gydweithio.”

Os hoffech unrhyw wybodaeth ynglŷn â MADE Cymru, e-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon