Skip page header and navigation

Bydd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) yn croesawu dau wneuthurwr crefftau talentog ar gyfer preswyliad yn rhan o brosiect Hwb Crefftau mewn partneriaeth â’r Brifysgol.

Cyfranogwr yn dal darn o frethyn i fyny wedi’i lifo’n las gyda llinellau gwyn.

Dros gyfnod o ddwy wythnos, o’r 13eg Chwefror, bydd y gwneuthurwyr gwadd yn gweithio yn y stiwdios Dylunio Patrwm Arwyneb a Thecstilau i archwilio’r thema “Lliw Gwyllt” ac adeiladu ar eu gwybodaeth bresennol o lifo naturiol ac argraffu.

Bydd Karen Modeo, sy’n gweithio yn Matera, Yr Eidal, a Chloe Scadding, sy’n gweithio yn Sir Benfro, Cymru, yn dod ag arbenigedd yn y defnydd o ddefnyddiau cynaliadwy i ychwanegu lliw i decstilau. Yn ystod y preswyliad bydd ganddynt amser pwrpasol yn y stiwdio i arbrofi gyda defnyddiau a phrosesau newydd.

Bydd Karen a Chloe yn creu cyfres o samplau o ddefnydd i’w cynnwys yn ’Llyfrgell Defnyddiau’r Hwb Crefftau, yn ogystal â chyflwyno gweithdai i staff a myfyrwyr a fydd yn gyfle gwych i weithio gydag artistiaid proffil uchel sy’n gweithio’n rhyngwladol. Bydd myfyrwyr yn elwa o’u harbenigedd technegol yn ogystal â gwybodaeth ddiwydiannol am bynciau fel sut i sefydlu a chynnal arfer creadigol ffyniannus.

Meddai Catherine Hammerton, Darlithydd Dylunio Patrwm Arwyneb yn Y Drindod Dewi Sant: “Yn genhedlaeth o economyddion cylchol sy’n ymrwymo i wneud gwell dewisiadau o ran dylunio nad ydynt yn costio ffortiwn, mae ein myfyrwyr yn ddylunwyr angerddol sy’n awyddus i ddysgu am brosesau print a lliwio anghemegol sy’n deillio o wastraff bwyd lleol.

“Mae hwn yn gyfle dysgu gwych i ymestyn eu repertoire technegol a chael gwell dealltwriaeth o’r hyn y gallai preswyliad ei olygu i’w huchelgeisiau eu hunain ar gyfer eu gyrfaoedd, ac rydym yn ddiolchgar i’r prosiect Hwb Crefftau am hwyluso hyn.”

Tri sampl o frethyn wedi’u llifo mewn lliwiau naturiol wrth ochr gwasgariad o’r aeron a ddefnyddiwyd yn y broses lifo.

Am yr Hwb Crefftau

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi llunio partneriaeth gyda’r Hwb Crefftau, sy’n brosiect Ewropeaidd a ariennir ar y cyd â Rhaglen Ewrop Creadigol. Mae’n ffocysu ar Grefft yng nghyd-destun treftadaeth ddiwylliannol a’i pherthnasedd parhaus ym maes arfer cyfoes.  

Ymhlith gweithgareddau’r prosiect mae ymchwilio a dogfennu sgiliau a phrosesau crefft, y gwahanol ffyrdd o’u cymhwyso mewn arfer creadigol ar draws Ewrop a chwestiynau ynghylch penodoldeb diwylliannol a chymhelliant unigol ymarferwyr.

Hyd yma, mae’r prosiect Hwb Crefftau wedi cefnogi creu ac arbrofi trwy 42 o breswyliadau rhyngwladol, 305 o weithdai, creu llyfrgell defnyddiau, 1 gŵyl, 7 arddangosfa a 2 gynhadledd.

Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr cyrsiau cysylltiedig â Chelf, ac fe’i barnwyd yn 1af yng Nghymru mewn pedwar o bynciau Celf, 4ydd yn y DU am Ffilm a Ffotograffiaeth, 8fe yn y DU am Ddylunio Cynnyrch, a 10fed yn y DU am Ddylunio Graffeg.

Blodau melyn a choesau deiliog gwyrdd camri’r lliwydd wedi’u gosod ar gynfasau.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau