Coleg Celf Abertawe’n cynnal Cystadleuaeth Sgiliau Ffotograffiaeth Cymru
Cynhaliwyd Cystadleuaeth Sgiliau Ffotograffiaeth Cymru eleni gan yr Adran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe.
![Cystadleuwyr rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Ffotograffiaeth Cymru yn sefyll yn Stiwdio Griffith; mae lluniau yn cael eu harddangos ar y waliau.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/swansea-college-of-art-hosts-photography-skills-competition-wales.jpg?h=189cadc5&itok=s8SgIcOU)
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.
Yn dilyn galwad agored i fyfyrwyr sy’n astudio ar hyn o bryd am gymhwyster lefel 2 neu 3, dewiswyd 10 ymgeisydd o Goleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Llandrillo Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent i arddangos eu gwaith ffotograffig, gan ymateb i’r thema ‘Portread o Gymru’.
Gwahoddwyd y rhai a ddewiswyd ar gyfer y rownd derfynol i arddangos eu gwaith ffotograffig yng ngofod arddangos Coleg Celf Abertawe, Stiwdio Griffith, a’r beirniaid oedd Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a Jon Plimmer o GSD Media UK.
Yn dilyn y broses o feirniadu, bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy gyda’r artist ac arddangosydd technegol, Dafydd Williams, yn archwilio portreadau 5 x 4.
Meddai Ryan Moule, Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig yn y Drindod Dewi Sant: “Llongyfarchiadau i Elis Jones o Goleg Meirion-Dwyfor ar ennill y wobr fawreddog hon ac i bawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant.”
Caiff y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gyfle i gystadlu yng nghystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International, yn amodol ar rownd arall o geisiadau.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg gan rwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru.
Mae’r cystadlaethau’n rhad ac am ddim ac maent yn rhedeg fel arfer rhwng mis Ionawr a mis Mawrth bob blwyddyn.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071