Skip page header and navigation

Gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gynnal y 6ed Gynhadledd Ryngwladol ar Gyfrifiadura, Peirianneg Electroneg a Chyfathrebu (iCCECE 23), yn adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe rhwng Awst 14 a 16.

Tua deg ar hugain o gyfranogwr y gynhadledd yn llenwi’r grisiau canolog yn adeilad IQ ac yn gwenu ar gyfer y camera.

Daeth y gynhadledd tri diwrnod, a drefnwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Addysgwyr ac Ymchwilwyr (IAER) ag ymchwilwyr o fyd academia a diwydiant ar ei gilydd trwy anerchiadau, sesiynau technegol a phoster, gweithdai a thiwtorialau.

Mae IAER yn gweithredu fel platfform cyffredin i hyrwyddo addysg ac ymchwil cynhwysol cryf, cynaliadwy a chynhwysol yn sosio-economaidd.

Cyflwynwyd anerchiad croeso gan gadeiryddion y gynhadledd, Dr Maaruf Ali a Dr Carlene Campbell, Uwch Ddarlithydd ac Athro Cysylltiol mewn Cyfrifiadura PCYDDS. Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Andy Penaluna, Athro Emeritws PCYDDS, Heba Kurdi, Athro Deallusrwydd Artiffisial Dosbarthedig ym Mhrifysgol King Saud, a’r Athro Richard Morgan, Deon Cynorthwyol a Phennaeth Arloesi ac Ymgysylltu yn PCYDDS.

Hefyd, roedd yn bleser gan y Brifysgol groesawu Mrs Louise Fleet, Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg, Capten Brian Thorne, Dirprwy Raglaw, Alan Brayley, Uwch Siryf Gorllewin Morgannwg a Mr Paxton Hood-Williams, Dirprwy Arglwydd Faer Abertawe.

Trafodaeth banel yn y gynhadledd.

Meddai Dr Carlene Campbell: “Bu’n fraint cynnal iCCECE 23 3 diwrnod yma yn PCYDDS. Cwmpasodd y gynhadledd lawer o agweddau ar Gyfrifiadura, Peirianneg Electroneg a Chyfathrebu ac fe fu’n llwyddiant enfawr, gyda chyflwynwyr yn rhannu eu harbenigedd, profiad a gwybodaeth o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Gogledd America, y Caribî, Ewrop, Asia, yn ogystal â’r DU.

“Rwy’n ddiolchgar i bawb a chwaraeodd rôl hanfodol wrth wneud y gynhadledd hon yn llwyddiant: cyflwynwyr, cynulleidfa, noddwyr, a’r tîm cynllunio diwyd fu’n ymdrechu mor galed yn y cefndir.  

“Yn seiliedig ar y digwyddiad llwyddiannus hwn, rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gallu cydweithio gyda phrifysgolion, diwydiannau a busnesau i rannu meysydd arbenigedd allweddol a gweithio gyda’n gilydd fel tîm.

“Diolch yn fawr i bawb!”

Mae PCYDDS yn cynnig ystod eang o gyrsiau ym maes Cyfrifiadura a phynciau cysylltiedig, sydd ar gael ar lefel Israddedig, Ôl-raddedig a Phrentisiaeth yn ogystal â chyrsiau byr a chyfleoedd Doethuriaeth. Ewch i’r wefan, uwtsd.ac.uk i archwilio’r campysau a dysgu rhagor.

Tri o fynychwyr y gynhadledd yn gwenu.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon