Skip page header and navigation

Bydd PCYDDS yn cynnal 6ed Cynhadledd Ryngwladol IEEE ar Gyfrifiadura, Peirianneg Electroneg a Chyfathrebu yn Adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe ar Awst 14 i 16.

Y tu allan i adeilad IQ PCYDDS yn Abertawe.

Bydd y gynhadledd yn tynnu ynghyd ymchwilwyr a datblygwyr o’r byd academaidd a diwydiant. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau o brif anerchiadau, sesiynau technegol a phoster, gweithdai, a thiwtorialau. Ategir y sesiynau ffurfiol gan raglen gymdeithasol ragorol.

Bydd deuddydd cyntaf y gynhadledd yn dilyn rhaglen academaidd IEEE a bydd y trydydd diwrnod yn cynnwys “Fforwm ôl-raddedig a Diwydiannol” i ddiwydiannau ac ymchwilwyr ifanc drafod a rhannu syniadau ar lwybrau cyfochrog.

Hoffem wahodd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil i gyflwyno poster, crynodeb, crynodeb estynedig, papur ar waith neu bapur wedi’i gwblhau i’w gynnwys yn y Fforwm Ôl-raddedig ar 16eg Awst.

Dywedodd Dr Carlene Campbell: “Bydd hwn yn gyfle gwych i rwydweithio a thrafod ymchwil a chydweithrediadau diwydiannol sy’n digwydd ar draws Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf y Brifysgol (WISA) ar hyn o bryd â chynrychiolwyr a phrif siaradwyr blaenllaw a fydd yn cyrraedd Abertawe ar gyfer y gynhadledd hon.” 

Nodyn i’r Golygydd

Ceir manylion llawn yn iccece23.theiaer.org 

Unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: 

universitywalesconferenceplanning@pcydds.ac.uk

neu cysylltwch â

Dr Carlene Campbell carlene.campbell@pcydds.ac.uk

Dr Terry Walcott t.walcott@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau