Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymuno ag Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch (CDYO) ar eu cynhyrchiad diweddaraf.

Menyw ar ysgol fach yn rhoi’r cyffyrddiad olaf i ben draig goch anferth.

Bydd CDYO yn perfformio Shrek: The Musical yn Theatr enwog y Lyric, Caerfyrddin rhwng 21 a 25 Chwefror. Fe wnaethant gysylltu â thîm Theatr, Dylunio a Chynhyrchu’r Brifysgol i greu’r ddraig, o’r enw Elizabeth, sy’n gwarchod Fiona ac sy’n achub Shrek, Donkey a Fiona rhag yr Arglwydd Farquaad ar ddiwedd y stori.

Meddai Dave Atkinson, Darlithydd ar y rhaglen BA Dylunio Set a Chynhyrchu: “Cysylltwyd â ni i adeiladu pyped ar ffurf draig ar gyfer y cynhyrchiad Shrek. Roedd hwn yn gyfle gwych i arddangos y cwrs Dylunio Set a Chynhyrchu ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol oherwydd gallem integreiddio’r prosiect yn fodwl ail flwyddyn.

“Fel rhan o’r modwl, dyluniodd ac adeiladodd ein myfyrwyr y ddraig ochr yn ochr â staff addysgu yn ogystal ag arweiniad arbenigol gan Jake Linzey, un o raddedigion y cwrs sy’n gyfarwyddwr y gwneuthurwyr propiau a phypedau arobryn, Leviathan Workshop.

“Mae’r prosiect yn enghraifft berffaith o ddefnydd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn y diwydiannau creadigol oherwydd roedd angen cyfrifo’r cydbwysedd gwrthbwys ar gyfer pen y ddraig, wrth ddefnyddio mecaneg i weithredu symudiadau’r geg a’r pen hefyd.  

“Mae’r myfyrwyr hefyd yn gweithio ar y sioe fel pypedwyr a rheolwyr llwyfan felly byddant yn elwa o gael gweld y cynhyrchiad o’r dechrau i’r diwedd.” 

Dwy fenyw yn archwilio manylyn ar gefn pen y ddraig.

Meddai Mike Rogers, Cadeirydd yr Opera Ieuenctid fod “creu Draig a oedd yn deilwng o’r cynhyrchiad hwn yn wastad yn mynd i fod yn her ac rydym wrth ein boddau fod y rhan allweddol hon o’r sioe wedi’i llunio yn dilyn cydweithrediad rhyngom ni â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r myfyrwyr ail flwyddyn sy’n astudio Dylunio Set a Chynhyrchu wedi dod â’r cymeriad annwyl hwn yn fyw a does dim amheuaeth gennym y bydd yn eich swyno i gyd â’i bersonoliaeth a’i bresenoldeb llwyfan tanllyd. 

“Diolch yn fawr iawn i’r Brifysgol, y Tiwtoriaid Cwrs ac yn enwedig y myfyrwyr sydd nid yn unig wedi’i greu a’i adeiladu ond a fydd hefyd yn ymuno â ni ar gyfer y perfformiadau a bod yn rhan ganolog o’r sioe fel pypedwyr a rheolwyr llwyfan. Mae’n wych y buont yno ar ddechrau’r broses ac y byddant gyda ni ar y diwedd hefyd.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau