Intern INSPIRE Y Drindod Dewi Sant yn curadu arddangosfa gelf yn seiliedig ar y Fam Ddaear a Hiraeth.
Intern INSPIRE Y Drindod Dewi Sant yn curadu arddangosfa gelf yn seiliedig ar y Fam Ddaear a Hiraeth.
![Grŵp o bobl yn edrych ar arddangosfa gelf sy’n darlunio’r Fam Ddaear a Hiraeth yn Llyfrgell Roderic.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-inspire-intern-curates-an-art-exhibition-based-on-mother-earth-and-hiraeth.jpg?h=2d235432&itok=pKVtcJMK)
Mae’r arddangosfa, yn Llyfrgell Roderic, yn dangos ystod amrywiol o waith celf cyfareddol a grëwyd gan artistiaid lleol a myfyrwyr dawnus. Dangoswyd peintiadau, cerameg, a barddoniaeth yn yr arddangosfa. Cafodd y cysyniadau o hiraethu am ymdeimlad o gartref a chysylltiad â’n hamgylchoedd naturiol eu cydblethu’n hyfryd gan themâu’r Fam Ddaear a Hiraeth.
Anastasiia Patiuk, intern INSPIRE, a dderbyniodd yr her o guradu’r digwyddiad hwn, gan ddangos ei sgiliau eithriadol mewn rheoli digwyddiadau a’i hangerdd dwfn at y celfyddydau. Trwy waith celf wedi’i guradu a oedd yn cyd-fynd â’r themâu hyn, llwyddodd i greu profiad ymgolli a wefreiddiodd yr ymwelwyr, eu goleuo a’u gwneud yn adfyfyriol.
Mae’r arddangosfa wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned o artistiaid lleol. Bu’r arddangosfa’n ffordd o greu pont ddeinamig rhwng y brifysgol a’r gymuned leol, gan feithrin rhyngweithio, gwerthfawrogi mynegiant artistig, ac ymhyfrydu yng ngrym celf. Trwy gydweithio ag artistiaid sefydledig a myfyrwyr awyddus, darparodd Anastasiia ofod meithringar ar gyfer twf ac amlygrwydd. Fe wnaeth y cydweithrediad hwn nid yn unig alluogi artistiaid i arddangos eu doniau, ond fe wnaeth hefyd annog cyfnewid syniadau a safbwyntiau, gan feithrin ymdeimlad o undod rhwng y cyfranogwyr.
Yn rhan o’r arddangosfa, cafodd ymwelwyr gymryd rhan yn eu ‘cawl celf’ eu hunain. Darparwyd paent a chynfasau er mwyn creu casgliad o waith celf ymwelwyr yn ymwneud â Hiraeth a’r Fam Ddaear, sydd bellach yn rhan o’r arddangosfa.
![Grŵp o ddarnau celf ar silff yn yr arddangosfa sy’n darlunio’r Fam Ddaear a Hiraeth yn Llyfrgell Roderic.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-inspire-intern-curates-an-art-exhibition-based-on-mother-earth-and-hiraeth2.jpg?h=2d235432&itok=u__Ip5jv)
Meddai Anastasiia:
“Rwy’n ddiolchgar i’r brifysgol, INSPIRE, a’r holl artistiaid am gefnogi fy syniad. Des i o dref fach yn Wcráin, felly mae natur wedi bod yn rhan ohonof erioed, a phan ddes i yma i Lambed a Chymru, fe wnes i ddisgyn mewn cariad â natur, mae’r bryniau a’r môr yn syfrdanol. Yma rwy’n teimlo’n llawn a thawel, felly dewisais y pwnc hwn oherwydd ei fod, yn sicr, yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i bawb.
“Gobeithio i chi fwynhau’r casgliad o gelf gan ein hartistiaid lleol a’n myfyrwyr sydd wedi cyfrannu. Roeddwn i hefyd wrth fy modd â’r ffaith fod pobl wedi cyfrannu at ein cynfasau cawl celf cyfunol fel atgof i mi o’r ymdeimlad cymunedol o Hiraeth.”
Meddai Swyddog Datblygu Ymgysylltiad Dinesig Y Drindod Dewi Sant, Laura Cait Driscoll:
“Hoffwn fynegi o’r galon fy ngwerthfawrogiad i Anastasiia am ei sgiliau trefnu eithriadol drwy gydol y broses gyfan hon. Mae ei gallu i gydbwyso sawl cyfrifoldeb, rheoli terfynau amser, a sicrhau gweithredu didrafferth i’w ganmol yn fawr, yn enwedig wrth astudio ar gyfer MA a gweithio! At hynny, hoffwn ddiolch i’r holl artistiaid a myfyrwyr a gyfrannodd eu gwaith celf gwerthfawr i’r arddangosfa. Trwy eu creadigrwydd a’u safbwyntiau unigryw nhw y daeth “Hiraeth a’r Fam Ddaear” yn fyw, a gadawodd ôl annileadwy ar ein cymuned yn Llambed, ar y dref a’r brifysgol.”
![Person yn peintio llun yn yr arddangosfa yn Llyfrgell Roderic.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-inspire-intern-curates-an-art-exhibition-based-on-mother-earth-and-hiraeth3.jpg?h=2d235432&itok=s30NCAWs)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476