Skip page header and navigation

Mae Myfyrwyr BA Perfformio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at berfformio yn eu Harddangosfa Graddedigion yr wythnos nesaf.

Grŵp o fyfyrwyr yn perfformio’n angerddol ar lwyfan, gan arddangos eu talent a’u creadigrwydd mewn sioe fywiog ac egnïol.

Bydd yr arddangosfa, a gynhelir yn Stiwdio Theatr Haywood House yng Nghaerdydd nos Fawrth yr 2il o Fai, yn gyfle i ddathlu llwyddiant a datblygiad y myfyrwyr dawnus sy’n graddio o’r Brifysgol eleni mewn noson amrywiol, lle fydd y myfyrwyr yn cyflwyno monologau, caneuon a darnau ensemble i’r cyhoedd i derfynnu eu hastudiaethau.

Dywedodd Fflur Davies, un o’r myfyrwyr fydd yn perfformio’r wythnos nesa:

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y sioe fydd yn cael ei chynnal nos Fawrth. Mae’n brofiad da i ni gael perfformio o flaen cynulleidfa a bydd hyn yn paratoi ni ar gyfer y byd gwaith yn niwydiant y celfyddydau.”

Ychwanegodd Lowri Voyle, myfyrwraig arall sy’n perfformio:

“Mae’r sioe nos Fawrth yn gyfle i ni arddangos ein doniau fel unigolyn ac fel grwp. Rydym yn edrych ymlaen i groesawi cynulleidfa felly dewch yn llu.”

Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd Eilir Owen Griffiths,

“Rydym mor falch eleni o fedru cynnal yr arddangosfeydd hyn wyneb yn wyneb eto eleni wedi cyfnod o recordio yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n gweld y digwyddiadau fel dathliad arbennig o gyrhaeddiad ein myfyrwyr, ac yn rhoi cyfle i aelodau o’r diwydiant weld y talent sydd gennym yn yr Academi.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau