Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr y cyrsiau cyfrwng Saesneg, BA Ffilm a Theledu a BA Actio, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd rhan mewn wythnos o Brofiad Efelychu yn y maes Cynhyrchu Ffilm a Theledu o’r enw ‘Wythnos Arbenigeddau’.

Myfyrwyr BA Actio a BA Ffilm a Theledu yn cyd-weithio ar brosiect ar gyfer Wythnos Arbenigedd

Nododd y myfyrwyr eu ffafriaeth i fod yn awduron, cyfarwyddwyr, golygyddion neu sinematograffwyr a chawsant y dasg o addasu stori fer o’r casgliad  The Debutante gan Leonora Carrington.

Trwy gyfrwng y cydweithio hwn cafodd y myfyrwyr BA Actio gyfle i ennill profiad o weithio ar set gyda chyfarwyddwyr, a chafodd y myfyrwyr BA Ffilm a Theledu brofiad o gyfarwyddo perfformwyr – ynghyd â ffilm ar gyfer eu portffolio. Mae llawer o’r myfyrwyr wedi sefydlu partneriaethau mor dda fel eu bod yn dal i weithio gyda’i gilydd o hyd ar brosiectau actio/ ffilm yn cynnwys yn rhan o’u Prosiectau Graddio terfynol.

Meddai’r Darlithydd BA Actio Lynne Seymour:

“Roedd yn wych gallu gweithio ar draws campysau a galluogi ein myfyrwyr Actio Lefel 5 i gydweithio gyda’r myfyrwyr Ffilm a Theledu yn ystod eu Hwythnos Arbenigeddau. Roedd y myfyrwyr Actio newydd orffen eu modwl Cynhyrchu Ffilm Fer lle buont yn gweithio mewn grwpiau bach i ysgrifennu, cynllunio, a chreu ffilmiau byr gyda’r myfyrwyr Gwneud Ffilmiau yng Nghaerfyrddin, felly roedd hyn yn amseru perffaith iddynt allu adeiladu ar y sgiliau perfformio hynny yn actio ar gyfer y sgrin.

“Mae dwyster yr wythnos yn ffordd wych o efelychu profiadau o’r ‘byd go iawn’ lle mae’n rhaid i chi’n aml weithio’n gyflym ac yn gydweithredol tuag at ddyddiad cau pendant. Wrth wylio’r grwpiau’n gweithio roeddwn i’n edmygu’r ffordd roeddwn nhw’n ffurfio grwpiau tynn yn gyflym a oedd yn gweithio’n effeithiol ac yn broffesiynol. Roedd hyn yn ffordd wych i’r myfyrwyr adeiladu eu rhwydweithiau creadigol a gwn fod llawer o’r garfan eisoes yn cynllunio i gydweithio ar brosiectau gyda’i gilydd eto yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio y gallwn adeiladu ar y digwyddiad hwn a datblygu rhagor o ffyrdd o gydweithio i roi ystod o brofiadau i’n myfyrwyr er mwyn iddynt gael eu cyflwyno i amrywiol brosesau creadigol fel tîm.”

Meddai Rheolwr Rhaglen y BA Ffilm a Theledu, Becky Ellis:

“Mewn cyd-destun ôl-Covid, prin mae myfyrwyr ar draws pob blwyddyn y BA Ffilm a Theledu wedi cwrdd â’i gilydd, heb sôn am fyfyrwyr o raglenni eraill.  Mae wedi bod yn heriol i gyfoethogi a hyrwyddo eu rhyngweithio gyda’i gilydd ac i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol sydd, mewn rhai achosion, wedi bod yn ffynhonnell lefelau uchel o orbryder i lawer o fyfyrwyr wedi’r Pandemig. Roedd yn hyfryd gweld y myfyrwyr yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn mwynhau cwmni ei gilydd eto.

“Mae’r diwydiant ffilmiau yn un cydweithredol. Mae cael cyfle i weithio gyda’u cymheiriaid, yn ogystal â myfyrwyr o raglen astudio arall, wedi rhoi rhwydweithiau creadigol i’r myfyrwyr y gallant fanteisio arnynt mewn prosiectau yn y dyfodol. Mae llawer o fyfyrwyr wedi parhau i gadw mewn cysylltiad a gweithio gyda’i gilydd ar brosiectau, yn cynnwys eu prosiectau graddedigion.”

Myfyrwyr BA Actio a BA Ffilm a Theledu yn cyd-weithio ar brosiect ar gyfer Wythnos Arbenigedd

Meddai Grug Morus, myfyrwraig trydedd flwyddyn BA Ffilm a Theledu:

“Yn ystod yr wythnos arbenigeddau cefais gyfle i ddod i gysylltiad â chymheiriaid na fyddwn i fel arfer yn rhannu fy amserlen addysgol gyda nhw. Llwyddais i ehangu fy set sgiliau, trwy roi cynnig ar rolau nad ydw i wedi teimlo’n ddigon cysurus i ymgymryd â nhw o’r blaen, ac roeddwn i’n gallu arsylwi sut roedd pobl eraill yn gweithio o fewn eu rolau. Dyma oedd y tro cyntaf i mi weithio gydag actorion proffesiynol yn y cnawd, a bydd y profiad yn un y byddaf yn ei gymryd gyda mi pan fyddaf yn graddio.”

Dywedodd Ingune Batjargal, myfyriwr BA Ffilm a Theledu ar ei hail blwyddyn:

“Rhoddodd yr wythnos arbenigeddau gyfle i mi arbrofi a phrofi ffordd newydd o fod yn fyfyriwr ffilm. Roedd cydweithio gyda myfyrwyr actio hefyd yn ffordd ddifyr iawn o ddysgu sut i gyfathrebu â phobl yn y diwydiant ffilmiau. Roedd hefyd yn wythnos heriol wrth i ni gael wythnos i orffen y prosiect grŵp mewn aml leoliadau, ond erbyn y diwedd roedd gen i hyder yn fy ngwaith a’m harfer.”

Yn ôl Charlie Cook, myfyriwr BA Ffilm a Theledu yn y flwyddyn gyntaf, roedd yr Wythnos Arbenigeddau yn “Cynnig cyfle unigryw i gydweithio – nid yn unig gyda gwneuthurwyr ffilmiau mewn grwpiau blwyddyn gwahanol – ond gyda pherfformwyr hefyd. Roedd y profiad yn heriol ond erbyn y diwedd roedd gen i lawer mwy o hyder yn fy arfer.”

Meddai’r myfyriwr actio Anna Erwin: “Dysgais lawer o’r profiad hwn, yn enwedig am weithio y tu ôl i gamera, a magais i hyder ar hyd y ffordd wrth i mi gydweithio gyda dieithriaid i mi, oedd yn adnabod ei gilydd. Yn ddiweddar mae un o aelodau’r grŵp y bûm i’n gweithio gyda nhw wedi cysylltu â mi i ofyn i mi ffilmio ffilm fer arall gyda nhw a byddaf yn gwneud hynny ym mis Ebrill. Mae’r cyfle hwn wedi codi’n syml am fy mod i wedi gwneud cysylltiadau drwy’r prosiect hwn ac wedi cydweithio’n dda â nhw.”

Myfyrwyr BA Actio a BA Ffilm a Theledu yn cyd-weithio ar brosiect ar gyfer Wythnos Arbenigedd

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau