Skip page header and navigation

Mae ‘Golwg ar Gelf’ yn arddangosfa arloesol sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr Celf a Dylunio o Goleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd arddangos eu gwaith a’u potensial.

Y tu mewn i Gyfnewidfa Ddylunio Alex lle mae’r Arddangosfa ‘Golwg ar Gelf’ yn cael ei chynnal. Mae gwaith celf ar y wal.

Erthygl gan Caryl Bulman, Myfyrwraig BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe.

Mae’r arddangosfa yn arddangos ystod amrywiol o waith celf gan fyfyrwyr sy’n astudio gwahanol feysydd Celf a Dylunio. Nod yr arddangosfa yw canolbwyntio ar arbrawf artistig ac amlygu dawn unigryw pob unigolyn. Mae’r gwaith arddangos wedi’i gynrychioli gan fyfyrwyr sy’n astudio rhan o’u gwaith cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, ar bob lefel astudio israddedig, o’r ddau sefydliad. Dyma’r myfyrwyr sy’n astudio rhai o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn derbyn cymorth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd hefyd yn cefnogi meysydd eraill yn ogystal â Chelf a Dylunio.

Gan fod y myfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae hwn yn rhoi’r profiad a chyfle unigryw iddynt fedru arddangos eu gwaith ymhlith myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Mae’r arddangosfa yn arddangos doniau a photensial myfyrwyr Celf a Dylunio, gyda chefnogaeth barhaol y darlithwyr. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn credu y bydd yr arddangosfa hon yn cyfrannu ymhellach at ddatblygiad y myfyrwyr ac yn gam hanfodol yn eu taith greadigol ym myd Celf yng Nghymru a thu hwnt.

Dywed curadur yr arddangosfa, Owain Sparnon: “Profiad arbennig oedd curadu arddangosfa Golwg ar Gelf. Fel cyn-fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe, roedd yn fraint gallu bod yn gysylltiedig â’r arddangosfa o safbwynt gwahanol. Rwy’n ymwybodol o bwysigrwydd rhoi’r cyfle i artistiaid ifanc allu arddangos eu gwaith ac mae’r arddangosfa hon yn gyfle i wneud hynny. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau trawiadol, pwerus ac unigryw gan fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe ac Ysgol Gelf a Dylunio Metropolitan Caerdydd. Yn sicr, mae angen cadw llygad ar waith y myfyrwyr hyn!”

Dyma rai o’r myfyrwyr sy’n arddangos yn yr arddangosfa yn siarad am eu gwaith a sut mae’r profiad hwn wedi effeithio arnynt.

Yr Artistiaid

  • Caryl Bulman: Mae Caryl Bulman yn astudio’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y Drindod Dewi Sant, ac yn arddangos ei phrint sgrin ‘Gwyrthiau’r Gweithdy’. Dywed Caryl: “Mae bod yn rhan o ‘Golwg ar Gelf’ 2023 wedi bod yn gyfle eithriadol i hyrwyddo artistiaid ifanc yng Nghymru ac i roi hyder i ni o ran ein gwaith. Roeddwn yn rhan o arddangosfeydd rhithwir ‘Golwg ar Gelf’ 2021 a 2022 ac roedd hi’n bleser bod yn rhan o’r arddangosfa fyw eleni.”
  • Niamh Morgan: Dyma Niamh Morgan, myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau o’r Drindod Dewi Sant, a’i chasgliad ‘Hafan’. Dywed Niamh: “Mae cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg wedi bod yn gyffrous gan yn anaml iawn mae artistiaid Cymraeg yn medru cyfathrebu eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg er ei bod yn dal i fodoli. Roeddwn wrth fy modd yn gallu arddangos gwaith blaenorol gan ei fod yn rhoi ystyr newydd iddo - wedi’i drosglwyddo i’r Gymraeg o ran trafodaeth.”
  • Luke Cotter: Mae Luke Cotter yn fyfyriwr Celf Gain o’r Drindod Dewi Sant sy’n dangos ‘Y byd mewn cromfachau’. Medd Luke “Dyma waith newydd sydd yn chwarae gyda meddwl pobl ar beth sydd i weld ar ochr arall y ffenestr, a sut all cynfas agor lan posibilrwydd newydd i wylwyr.”

Dywedodd Gwenllian Beynon, Is-Gyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau o’r Drindod Dewi Sant: “Mae Golwg ar Gelf yn gyfle gwych i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion arddangos eu gwaith ac i ystyried y pwysigrwydd am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bwriad yr arddangosfeydd yma yw dechrau sgwrs trwy ddangos gwaith myfyriwr ar bob lefel israddedig. Roedd yn hyfryd ar nosweithiau agoriadol yr arddangosfeydd gweld myfyrwyr yn dod a ffrindiau i weld eu gwaith ac yn gweld myfyrwyr yn sgwrsio a’i gilydd.”

Gwybodaeth Bellach 

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau gradd Celf a Dylunio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r arddangosfa yn cael ei noddi’n garedig gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lleoliad

The Alex Design Exchange, Coleg Celf Abertawe, Heol Alexandra, Abertawe SA1 5DX

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau