Skip page header and navigation

Mae Milena Tomaszewska, myfyrwraig ynni a pheirianneg amgylcheddol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil Israddedig yn Tallarna – cwmni technoleg hinsawdd ar gyfer yr amgylchedd adeiledig. Yn ystod ei hamser, archwiliodd archeteipiau adeiladu Cymreig a thirwedd ôl-ffitio Cymru.

Arfbais PCYDDS.

Darllenwch ei safbwynt ar ei hinterniaeth isod – o’r rheswm pam fod profiad yn y diwydiant yn bwysig i gynyddu cynrychiolaeth fenywaidd.

Dod â Damcaniaeth yn Fyw

Sut fyddech chi’n disgrifio eich interniaeth?

Mae gweithio yn Tallarna wedi agor maes hollol newydd o bensaernïaeth i mi. Pan ddechreuais, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd archdeip adeilad (ffordd o grwpio adeiladau ar sail eu nodweddion ffisegol ydyw), doeddwn i ddim wedi creu cronfa ddata o’r blaen, a doeddwn i ddim yn deall y ffactorau sy’n gyrru defnydd ynni mewn adeiladau. Ond dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydw i wedi cael cyfle i archwilio cymhlethdodau’r stoc o dai yng Nghymru a deall sut y mae mân wahaniaethau mewn nodweddion adeiladau’n effeithio ar fywydau pobl go iawn.  

Beth yw’r tri pheth allweddol a gawsoch o’r profiad hwn?

Fy nhri pheth allweddol yw gwerth profiad ymarferol, pwysigrwydd cydweithio, a set hollol newydd o sgiliau technegol!

Trwy weithio ar brosiectau cleientiaid cefais y cyfle i gymhwyso’r damcaniaethau peirianneg roeddwn i wedi’u dysgu i’w cyd-destun byw. Roedd gwybod y byddai fy ngwaith yn cyfrannu at frwydro yn erbyn yr argyfwng ynni yng Nghymru yn ysgogol iawn.

Roedd y gwaith cydweithredol a wnes gyda thîm Tallarna’n hanfodol i drosi fy ngwybodaeth brifysgol yn fewnwelediadau y gellid eu gweithredu. Gweithiais yn agos â Joe, Peiriannydd Ymchwil Tallarna. Arweiniodd fi bob cam o’r ffordd, gan egluro prosesau peirianneg, a’m gwthio i’r llwybr cywir pan oedd angen!

Mae dilyn interniaeth wedi ehangu fy sgiliau technegol ac ymchwil yn aruthrol. Dysgais sut i weithio gydag adnoddau rheoli cronfeydd data, a ddefnyddiais i greu system storio ac adfer gwybodaeth ar gyfer yr archdeipiau Cymreig roeddwn i’n eu harchwilio.

Beth ydych chi fwyaf balch o’i gyflawni yn Tallarna?

Rwy’n fwyaf balch o’r gronfa ddata o archdeipiau a greais. Roedd hyn yn golygu grwpio adeiladau preswyl Cymreig i archdeipiau’n seiliedig ar nodweddion sy’n effeithio ar strategaethau ôl-osod. I gyflawni hyn, dadansoddais lenyddiaeth a data presennol ar ddulliau adeiladu, defnydd ynni nodweddiadol, a methodolegau gwresogi.

Yn ystod fy interniaeth, nodais 14 archdeip Cymreig allweddol. Mae’r rhain bellach wedi’u cynnwys yn llyfrgell casgliadau Tallarna, sydd wedi’i llywyddu ar eu llwyfan deallusrwydd artiffisial, KESTREL. Mae hyn yn golygu, pan fydd KESTREL yn wynebu data coll neu anomaleddau mewn portffolios cleientiaid, defnyddir fy ngwaith innau i bontio’r bwlch gwybodaeth a chyflenwi mewnwelediadau perthnasol y gellir eu gweithredu.

Chwalu Hud y Byd Corfforaethol

Beth a’ch ysgogodd i ddilyn interniaeth?

Clywais gan ffrindiau mai’r peth gorau i’w roi ar eich CV yw nid yr hyn rydych chi’n ei wybod ond sut rydych chi’n ei wybod. Hysbysebodd Tallarna am intern trwy swyddog cyswllt myfyrwyr fy mhrifysgol, ac roeddwn i’n credu bod y rôl yn gorgyffwrdd yn dda â’m cwrs.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried dilyn interniaeth?

Byddwn i’n dweud peidiwch â gadael i’ch rhagdybiaethau eich rhwystro. Cyn i mi ddechrau, roedd y byd corfforaethol yn codi ofn arnaf. Roeddwn i’n credu y byddwn i’n teimlo fel rhywun o’r tu allan yn edrych i mewn. Rwy’n falch o ddweud nad oedd fy mhrofiad fel hynny o gwbl! Roedd pawb a gwrddais â nhw yn ddiymhongar ac eisiau cael gwybod fy safbwynt ar bethau. Dysgodd hynny i mi nad oes yn rhaid i’r byd corfforaethol fod yn rhwydwaith dethol, mae’n rhywbeth y gall unrhyw un fod yn rhan ohono o gael y diwylliant cwmni cywir.

Grym Cynrychiolaeth

Sut wnaethoch chi ymddiddori mewn peirianneg?

Mewn gwirionedd, cychwynnais drwy astudio cyfrifeg yn PCYDDS. Y rheswm imi ymddiddori mewn peirianneg oedd bod fy holl gydletywyr gwrywaidd yn beirianwyr ac roedden nhw’n cadw sôn am eu cwrs! Roeddwn i’n ei weld yn hynod ddiddorol. O ystyried fy hoffter a’m dawn at fathemateg, roeddwn i’n credu efallai y byddwn i’n dda ynddo; felly, cyfnewidiais raddau. Cymrodd dipyn o amser i mi ei mentro hi serch hynny oherwydd roedd y ffaith nad oeddwn i’n adnabod unrhyw beirianwyr benywaidd yn ddantlyd.

Sut mae angen i’r diwydiant peirianneg esblygu?

Mae angen mwy o beirianwyr benywaidd. Yn rhy aml, rwy’n cerdded i mewn i ystafell ac mae’r dynion yn fwy niferus. Er bod rhai camau ar waith i gywiro’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau, nid yw’n digwydd yn ddigon cyflym. Mae ymchwil diweddaraf yr Academi Frenhinol Peirianneg yn bwrw bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau’r diwydiant yn 11% tra bo nifer syfrdanol - 91% - o’r rhai ar y raddfa yrfa uchaf yn ddynion.

Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwn, mae angen i ni gyfuno dull o’r gwaelod i fyny ac o’r brig i lawr. Mae angen mwy o ffocws ar annog disgyblion ysgol uwchradd benywaidd i ymgeisio ar gyfer peirianneg yn y brifysgol ac mae angen creu mwy o gyfleoedd i fenywod mewn rolau uwch. Bydd busnesau’n arloesi pan fyddwn ni’n agor y drws i safbwyntiau, doniau a syniadau amrywiol. Mae cynyddu cynrychiolaeth fenywaidd yn rhan allweddol o’r llwyddiant hwn. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau