Skip page header and navigation

Mae partneriaid addysgol allweddol wedi rhannu eu harbenigedd mewn gweithdy a gynhaliwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) fel rhan o brosiect mawr i gefnogi datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dyn yn sefyll ac yn annerch mynychwyr y gweithdy ar eu heistedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n cyflenwi Camau i’r Dyfodol mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Glasgow.  Mae wedi’i gynllunio i helpu i ddatblygu gwybodaeth newydd a chefnogi’r gwaith o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru trwy ddod ag athrawon, partneriaid addysgol, ac ymchwilwyr ynghyd i gyd-ddatblygu gallu, ffyrdd o feddwl ac adnoddau newydd i adeiladu ar ymarfer presennol.

Bydd integreiddio cynnydd mewn dysgu, y cwricwlwm, asesu, ac addysgeg er mwyn ymateb yn well i anghenion dysgwyr unigol yn ganolog yn y broses hon.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar y prosiect Camau gwreiddiol y bu’r bartneriaeth yn rhan ohono rhwng 2018 a 2020, a’i nod yw cael goleuni pellach ar gynnydd mewn dysgu a’r hyn y mae’n ei olygu yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae’n bwriadu:

Meithrin dealltwriaeth o’r modd y gellir datblygu’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn effeithiol ar gyfer holl ddisgyblion Cymru trwy gwricwlwm, asesu ac addysgeg, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymarfer a all wireddu uchelgeisiau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys edrych heibio’r cyfnod gweithredu i esblygiad y cwricwlwm dros y tymor hir.

Sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn ymarferol i ysgolion a lleoliadau, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda thegwch, uniondeb ac aliniad rhwng holl rannau’r system.

Darparu sail tystiolaeth sy’n esblygu, a all fwydo’n ôl i mewn i’r system a rhoi gwybodaeth newydd i ymarferwyr am gwricwla, ymarfer proffesiynol, a newid addysgol sy’n seiliedig ar gynnydd.

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd y bartneriaeth yn creu adnoddau ac allbynnau i gynorthwyo ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer, rhannu eu profiadau a chefnogi trafodaeth bellach yn eu hysgolion neu leoliadau. Cyhoeddir yr adnoddau hyn trwy Hwb, porth adnoddau Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd y gweithdy yng Nghanolfan Dylan Thomas PCYDDS yn Abertawe ar 12 Ionawr ac roedd mwy na 50 o ymarferwyr o amryw leoliadau’n bresennol.

Ymunodd swyddogion consortia rhanbarthol a sefydliadau haen ganol eraill, swyddogion y llywodraeth ac ymchwilwyr o PCYDDS a Phrifysgol Glasgow â chynrychiolwyr o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.

Dyn mewn crys a laniard y Drindod Dewi Sant yn annerch y gweithdy.

Dywedodd yr Athro Dylan E Jones, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant “Rydym yn falch bod y Brifysgol, trwy’r Athrofa, yn gwneud cyfraniad mor bwysig i’r sylfaen wybodaeth sy’n cefnogi taith diwygio’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’n adlewyrchu’r datblygiadau mawr a gyflawnwyd gan yr Athrofa wrth iddi adeiladu ei dylanwad o fewn y system addysg yng Nghymru.”

Meddai Chris Davies, Rheolwr, Dysgu Proffesiynol, yng Nghyngor Sir Powys: “Mae’n wych bod yma gyda phrosiect Camau i weithio ar y prosiect hwn sydd wedi’i lunio ar y cyd er mwyn dod o hyd i atebion gwahanol a chydweithio i edrych ar ddatblygiad cynnydd ac asesu o fewn y Cwricwlwm newydd i Gymru.”

Meddai Leanne Prevel, dirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Gelliswick yn Sir Benfro: “Mae’n gyffrous iawn bod yma, yn cydweithio â chydweithwyr o bob rhan o’n gwlad ar brosiect o arwyddocâd mawr. Mae’n amser cyffrous yn natblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru, wrth wrando ar a dysgu gan gydweithwyr er mwyn gallu cefnogi ein taith ein hunain a rhai cydweithwyr o bob rhan o Gymru heddiw.”

Cyfranogwyr gweithdy’n eistedd o gwmpas byrddau yn Neuadd Vivian â’i nenfydau uchel yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau