Skip page header and navigation

Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ar 27 Ebrill 2023.

Y siaradwr gwadd ar gyfer Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams yw Mererid Puw Davies

Mae Mererid Puw Davies yn Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL). Mae hi wedi cyhoeddi ar lawer i agwedd ar lenyddiaeth, diwylliant a ffilm Almaeneg, ac mae ganddi ddiddordeb cynyddol mewn llenyddiaeth a diwylliant gymharol, gan gynnwys gwaith am foddi cymunedau. Mae Mererid yn olygydd cyfrannol i’r cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, lle mae’n cyhoeddi ysgrifau a cherddi. Roedd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ym Mis Tachwedd 2022.

Testun y ddarlith fydd, ‘Y Dilyw: Cymru W.G. Sebald’.  Mae’r ddarlith hon yn daith o dan wyneb dyfroedd tywyll, i bentref Llanwddyn a foddwyd yn 1888 i greu Llyn Efyrnwy – fel y mae’n ymddangos yn nofel fawr yr awdur o Almaenwr W.G. Sebald (1944–2001), Austerlitz (2001).

Dyma hanes ffoadur o blentyn Iddewig o Brâg, sy’n dod i Brydain ar Kindertransport yn 1939, ac yn cael cartref efo pâr priod yn y Bala. Mae rhan bwysig o’r nofel, felly, yn cyflwyno Cymru a’i thirluniau, ac mae ynddi hefyd ymgom annisgwyl efo llenyddiaeth Gymreig – a Chymraeg. Hynod iawn yw ei delwedd o Lanwddyn sydd yngholl o dan y dŵr, ac fel petai’n llawn drychiolaethau. Syfrdanol hefyd yw’r modd y mae’n cysylltu Llanwddyn â chyfandir Ewrop a’i herchyllterau. Mae’r nofel felly yn cynnig golwg ar allu rhyfedd llenyddiaeth i gyfleu trychineb, heb eto ei darlunio yn uniongyrchol, ac ar draws ffiniau.

Cynhelir y ddarlith eleni mewn cydweithrediad â chylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt. Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddarlith yr Athro Mererid Puw Davies ar themâu sy’n gosod Cymru o fewn hanes a llenyddiaeth Ewrop yr ugeinfed ganrif. Rydym yn falch o fedru cynnal Darlith Goffa Syr T H Parry Williams yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal ag ar lein, a diolchwn hefyd i’r cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt am eu cydweithrediad parod unwaith eto eleni.’

Traddodir y ddarlith yn fyw yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom, am 5.30 o’r gloch ar 27 Ebrill.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell. Bydd paned am 5.00yh. E-bost canolfan@cymru.ac.uk

Croeso cynnes i bawb!

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau