Skip page header and navigation

Mae un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth ei bodd bod ei llyfr ar iechyd lleisiol, sydd wedi’i anelu at blant a phobl ifanc, wedi’i gyhoeddi gan Compton Publishing.

Llun pen ac ysgwyddau o Olivia Sparkhall yn gwenu at y camera.

Mae’r amryddawn Olivia Sparkhall yn Bennaeth Cerddoriaeth Academaidd mewn ysgol uwchradd yn Salisbury, yn gyfarwyddwr côr i ensemble arobryn, ac yn gyfansoddwr clodwiw. Gall yn awr ychwanegu ‘awdur cyhoeddedig’ at ei rhestr o gyraeddiadau.  

Cwblhaodd Olivia’r MA Arfer Proffesiynol – Addysgeg y Llais yn 2020, rhaglen sydd wedi’i hachredu gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) yn Y Drindod Dewi Sant ar gyfer Canolfan Astudio’r Llais.

Roedd hi’n arbennig o falch o rannu newyddion y cyhoeddi gyda’r Brifysgol, gan ei fod yn seiliedig ar ymchwil a wnaeth yn rhan o’i hastudiaethau ar y cwrs Meistr.

Wrth iddi ymuno â’r cwrs, ei nod oedd datblygu ei harbenigedd er mwyn gallu helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial lleisiol.

Dywedodd: “Roedd y cwrs Addysgeg y Llais yn gweddu imi’n dda oherwydd fe wnaeth fy ngalluogi i arbenigo mewn meysydd penodol sy’n berthnasol i’m harfer.”

Mae MA Arfer Proffesiynol – Addysgeg y Llais wedi ei gyflwyno yn gyfan gwbl ar-lein ac yn galluogi gweithwyr proffesiynol fel athrawon canu, cyfarwyddwyr corawl a therapyddion iaith a lleferydd i roi theori ar waith o fewn maes eang Addysgeg y Llais. Mae’n archwilio’r ymchwil diweddar i sawl agwedd wahanol gan gynnwys canu ar gyfer iechyd, cymhwysiad lleisiol, addysgeg acwstig, a hyfforddiant perfformio.

Clawr llyfr Olivia Sparkhall 'A young person's guide to vocal health'; mae’n cynnwys darluniau o blant yn canu.

Nod ei llyfr Olivia sydd newydd ei gyhoeddi, A Young Person’s Guide to Vocal Health, yw rhoi gwybod i ddarpar actorion a chantorion ifanc am yr hyn y gallent ei wneud (a’i osgoi) er mwyn cynnal iechyd lleisiol da, gyda chymorth diagramau a graffeg liwgar.

Cafodd ei ddisgrifio yn rhywbeth sy’n “adnodd gwerthfawr i bobl ifanc…andros o ymarferol, perthnasol ac wedi’i ymchwilio’n dda.”

Nodyn i’r Golygydd

Canolfan ragoriaeth mewn dysgu a datblygu ymarfer yw Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) o fewn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig DPP/rhaglenni pwrpasol, o gyrsiau byrion i raglenni doethurol i weithwyr proffesiynol a’u sefydliadau.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau