Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu ‘Matter 2023’ i’w champws, diwrnod i weithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus ddysgu mwy am dechnolegau’r dyfodol a sut y gallai’r rhain helpu yn y diwydiannau addysg, gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Arddangosfa o Ystafelloedd Trochi PCYDDS, lle mae pobl yn sefyll o flaen sgrin sy’n dangos tirwedd wedi’i greu gan AI

Cynhaliwyd Matter 2023 ar Gampws SA1 Glannau Abertawe PCYDDS, gan bartner clyweledol y Brifysgol, IDNS.

Daeth IDNS â darparwyr technoleg sy’n arwain y byd ynghyd, gan gynnwys Lenovo, Acer, Samsung a llawer mwy, a roddodd sgyrsiau 15 munud a gweithdai i’r mynychwyr.  

Fe wnaeth y gweithdai a’r sesiynau trafod hyn ganiatáu i’r mynychwyr roi cynnig ar, a dysgu am, dechnolegau cyfoes a’r dyfodol a all helpu i newid y ffordd y byddan nhw’n gweithio yn y dyfodol, megis cyfrannu tuag at nodau cynaliadwyedd, diogelwch digidol a sut y gall sefydliadau ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol.

Roedd yr arddangosiadau’n cynnwys Ystafelloedd Trochi newydd sbon a chyntaf eu math y Brifysgol, a gafodd eu lansio yn y gwanwyn ac sy’n defnyddio technoleg arloesol i wella’r cyfleusterau dysgu ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin.

Siaradwraig yn nigwyddiad yr IDNS ar Dechnolegau’r Dyfodol, sef ‘Matter 2023’  yn sefyll o flaen sgrin sy’n dweud ‘are you digitally ambitious?’ ac yn gofyn i’r gynulleidfa ymateb

Meddai Chris Rees, Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol yn PCYDDS: “Roedd digwyddiad technoleg IDNS, MATTER, a gafodd ei gynnal yn adeilad IQ PCYDDS, yn llwyddiant ysgubol, gan ddod ag arbenigwyr y diwydiant a phobl frwd dros dechnoleg at ei gilydd ar gyfer diwrnod o arloesi ac ysbrydoli.

“Roedd y dosbarthiadau meistr Technoleg yn uchafbwynt arbennig, gyda’r ystafell drochi newydd yn syfrdanu’r mynychwyr. Rhoddodd gyfle hefyd i rwydweithio â sefydliadau o’r un anian, gan rannu syniadau ar gyfer defnyddio technoleg a chynlluniau ar gyfer y dyfodol i wella addysgu a dysgu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pa effaith a gaiff y digwyddiad hwn ar y gymuned technoleg ac alla i ddim ag aros tan yr un nesaf!”

Siaradodd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Dylan Jones, yn y sesiwn agoriadol, gan bwysleisio pwysigrwydd symud gyda’r oes a defnyddio technoleg i wella profiad ac addysg myfyrwyr yn barhaus. Dywedodd: “Mae trawsnewid digidol yn effeithio ar fywydau ar gyfradd gynyddol.

“Ein harwyddair a’n gweledigaeth yn PCYDDS yw trawsnewid bywydau trwy drawsnewid addysg. Rydyn ni’n driw i’r weledigaeth honno ac o’r herwydd, rydym yn falch iawn o fod â chysylltiad agos â Matter 2023 a’r cyfle i rannu a dysgu gydag eraill o fewn addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

“Os byddwn yn cadw ein ffocws ar y dyfodol, byddwn yn gwasanaethu myfyrwyr heddiw a gweithwyr proffesiynol yfory yn well.”

Fe fydd un digwyddiad Matter 2023 arall, i’w gynnal yn Stadiwm Prifysgol Bolton, Bolton, ar y 4ydd o Fai.

Sesiwn drafod yn nigwyddiad yr IDNS sef ‘Matter 2023’, gyda Lenovo yn gwneud cyflwyniad i grŵp bach

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau