Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi Swyddog Datblygu Prentisiaethau newydd i ymuno ag Uned Brentisiaethau’r Brifysgol.

Yn gwisgo crys Prentisiaethau â brand y Drindod Dewi Sant, mae Emily Hunt yn gwenu tuag at y camera.

Bydd Emily Hunt yn ymuno â’r Brifysgol o’i rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Gwerthiannau yn y Village Hotel yn Abertawe. Fel rhan o’r rôl hon bydd Emily’n ymgysylltu â nifer o gyflogwyr ledled Cymru a fydd yn defnyddio’i sgiliau datblygu busnes gwych i hyrwyddo gradd-brentisiaethau’r Brifysgol.

Cred Emily fod y rhaglenni gradd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn y Brifysgol yn “llwybr ardderchog i gyflogwyr uwchsgilio o fewn eu sefydliad ac i gyflogwyr gael yr hyfforddiant a’r datblygiad cywir i’w staff. Mae gweithio i’r Drindod Dewi Sant yn gyferbyniad llwyr i weithio yn y diwydiant lletygarwch ac rwy’n mwynhau’r her yn fawr.”

Cychwynnodd hithau fel prentis ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gellifedw yn 16 oed. Bwriodd ei phrentisiaeth yn Forte Hotels (y Dragon Hotel erbyn hyn) yn Abertawe, cyn ennill rôl fel Rheolwr Archebion.

Penderfynodd ddychwelyd i addysg yn ddiweddarach yn ei gyrfa i gwblhau ei gradd HND mewn Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, sydd bellach yn rhan o’r Drindod Dewi Sant, a graddiodd yn 2009.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau