Skip page header and navigation

Sioe Haf: Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth

Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth

A digital design for a metallic vehicle with sharp spokes and large wheels in relation to the body size.

Mwynhad mewn Manylder

Mae ‘dosbarth 2024’ yn eich croesawu i benllanw creadigrwydd ac arloesedd mewn dylunio Modurol a Thrafnidiaeth!  

Wrth i ni ymgynnull i ddathlu cyflawniadau ein myfyrwyr talentog, cydnabyddwn â balchder mawr yr oriau di-rif o ymroddiad a gwaith caled a neilltuwyd i’w prosiectau.  

O gysyniadau celfydd, dyfodolaidd i ddyluniadau sydd wedi’u hysbrydoli gan geinder natur, mae’r sioe raddio hon yn dyst i ddychymyg a galluoedd technegol diderfyn ein dylunwyr Modurol a Thrafnidiaeth uchelgeisiol  

Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan yr ystod amrywiol o gysyniadau sy’n cael eu harddangos, pob un yn cynnig persbectif unigryw ar ddyfodol trafnidiaeth.  

Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar daith trwy fyd cyffrous Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth,  lle mae angerdd yn cwrdd â manylder, a breuddwydion yn ymffurfio. 

Sergio Fontanarosa
Rheolwr Rhaglen
BA(Anrh) Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth

Manylion

Noson Agoriadol: 15 June, 6pm to 9pm

Ar agor i’r cyhoedd: 17–21 June, 10am to 5pm

Lleoliad: Adeilad IQ, Campws Glannau Abertawe

Gallwch ddod o hyd i ni yn SA1 8EW

Dosbarth '24

Ein Gwaith

Benjamin Voak

Rhoddais yr enw ‘Y Dyfodol Na Ddaeth Byth i Fod’ ar fy mhrosiect mawr, sef dyfyniad gan Frank Whittle yn esbonio sut y dangosai’r Tyrbin Nwy gymaint o botensial ond ni afaelwyd ynddo yn ôl ei haeddiant. Mae fy mhrosiect yn canolbwyntio ar y modd y gallai BAC, gweithgynhyrchwr ceir chwaraeon ar raddfa fach, fynd â’r syniad o yriant drwy dyrbin nwy i’r lefel nesaf. Mae prif nodweddion yn fy nyluniad wedi’u seilio ar y syniad bod ‘ffurf yn dilyn swyddogaeth’, lle caiff swyddogaeth allweddol perfformiad ei ddatgloi drwy leihau pwysau. Arweiniodd hyn at elfen ddylunio unigryw ar fy ngherbyd, sef yr olwyn flaen heb foth.  

Rwy’n teimlo’n angerddol am y diwydiant modurol; fodd bynnag y broses ddylunio sy’n f’ysbrydoli a thrwy fy ngyrfa yn y dyfodol rwy’n gobeithio archwilio llawer o feysydd dylunio.  

Benjamin Wilson

Nid yw Lexus yn ofni dargyfeirio o’r norm. Mewn dyfodol nepell o nawr, bydd y diwydiant modurol yn cael ei reoli gan fwmial trydan. Mae technoleg drydanol yn esblygu’n gyflym, a chyda’i manteision, mae’n gadael un anfantais, sef sain. Mae sain yn un o dri synnwyr allweddol y gall car ei ddarparu, hebddi, mae trydedd ran o’r profiad gyrru’n cael ei cholli.  

Nod y prosiect hwn  yw cymryd cam i gyfeiriad arall, gan grwydro oddi wrth ddyfodol sy’n drydanol yn bennaf a thurio i ddull mwy analog, gan leihau’r sgriniau, a chaniatáu i chi ganolbwyntio ar y byd o’ch cwmpas.  

Rwy’n frwdfrydig iawn am y daith ddylunio o’r dechrau i’r diwedd ac yn mwynhau pob cyfrwng dylunio boed yn ffisegol neu’n ddigidol.  

Ben Mount

Rhoddais y teitl “Marwolaeth Pŵer Traddodiadol” ar fy mhrosiect. Wrth i safbwynt y byd o ran cynaliadwyedd drawsnewid o ddelfryd i anghenraid, mae dychmygu dyfodol lle mae uwch-geir perfformiad uchel yn parhau’n berthnasol yn mynd yn heriol.  

Yn y prosiect hwn, archwiliais sut gallai McLaren sicrhau dyfodol uwch-geir mewn byd cynaliadwy. Drwy ganolbwyntio ar danwyddau synthetig a chymryd ysbrydoliaeth o ryfeddodau peirianneg (megis Concorde), dyluniais uwch-gar McLaren sy’n symud y rhai sy’n gwirioni dros geir yn ddi-dor i mewn i oes newydd o ran grym gyriant.

George Battin

Mae’r Airbus V105 yn mynd i’r afael â’r broblem fawr a brofir bob dydd, sef tagfeydd wrth gymudo a’r holl effeithiau negyddol y mae hyn yn eu cael ar bobl a’r amgylchedd o’u cwmpas. Nod y VTOL di-lafn a bwerir gan hydrogen yw darparu opsiwn trafnidiaeth amgen ar gyfer teithio o fewn canol dinasoedd sydd nid yn unig yn byrhau amseroedd teithiau ond hefyd yn defnyddio lle sydd heb ei ddefnyddio o fewn y ddinas gan ddarparu dewis amgen.

Yn y blynyddoedd nesaf, fy nod yw gweithio o fewn stiwdio ddylunio â ffocws ar fodelu’r broses ddylunio’n ddigidol. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gweithio ar y genhedlaeth nesaf o gysyniadau modurol gan siapio dyfodol trafnidiaeth.  

Harry Bolton

Ar gyfer fy mhrosiect mawr terfynol, penderfynais ganolbwyntio ar fyd chwaraeon moduro – yn enwedig ar agwedd diogelwch.  

Rwyf wedi creu hypercar a ddyluniwyd gan Lotus ar gyfer tymor 2040 Le Mans sy’n cynnwys technoleg niwrolegol i fonitro a gwella’r gyrrwr er mwyn helpu i sicrhau ei ddiogelwch o fewn a thu allan i’r man lle mae’n eistedd.  

Mae prif nodwedd ddylunio fy nghysyniad yn cynnwys ero-dwneli grymus yn rhedeg drwy’r cerbyd i ddarparu’r lawr-rym angenrheidiol gan ddileu’r angen am adain gefn.  

Y nod oedd creu cysyniad sy’n gwella diogelwch y gyrwyr ac yn cynnal cyffro chwaraeon moduro, ac ar yr un pryd, cyfleu’r dyluniad Lotus ar ffurf hypercar.  

Harry de la Riviere

Mae’r oes drydanol gyfredol yn cynnig perfformiad ac ystadegau nad oeddynt yn bosibl o’r blaen. I’r gyrrwr fodd bynnag, mae’i brofiad yn bennaf drwy gyfrwng gweld a’r ymdeimlad o rymoedd g.  Hyd yn hyn, nid yw seiniau a dirgryniadau wedi’u datblygu ochr yn ochr â hynny er mwyn cyfoethogi profiad y gyrrwr.  

Aeth y prosiect hwn ati i herio confensiynau a datblygu’r egwyddor sy’n ystyried pob cydran yn offeryn mewn cerddorfa. Yn reiddiol mae OTO yn bedair colofn o aer sy’n ffurfio’r siasi. Mae pob un yn creu sain sy’n debyg i offeryn chwyth, gan drin yr awyr i greu seiniau unigol unigryw, ynghyd â llif aer aflonyddol o’r olwynion a’r corff, gan gymysgu i greu cytgord dwys o sŵn.   

Jacob Grigalashvili

Mae pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd ac effaith amgylcheddol ceir wedi creu panig o fewn y diwydiant modurol wrth i ni symud tuag at gerbydau sy’n llwyr drydanol. Er bod y newid hwn yn ymddangos yn anochel, mae llawer o gwestiynau’n parhau. Sut bydd cymdeithas yn addasu i geir trydanol yn dod yn norm a phryd bydd y newid mawr hwn yn digwydd? Ai ceir trydanol yn wir yw’r ateb eithaf a therfynol i’r problemau hyn?

Mae cysyniad y 915 yn ceisio herio’r cwestiwn hwn, gan ymgorffori traddodiad Porsche o arloesi beiddgar a dylunio anghonfensiynol, wrth i ni chwilio am ffyrdd o symud i oes newydd o drafnidiaeth.  

Oliver Rye

Mae trychinebau naturiol a gwrthdaro byd-eang yn cynyddu. Mae defnyddio llongau’r llynges yn unig i roi cymorth yn syniad hen ffasiwn. Mae FAR yn gysyniad o long gymorth ac yn enghraifft o effeithlonrwydd cefnogaeth ddyngarol hyblyg, drwy ddefnyddio perchnogaeth ar longau preifat. 

Mae llong gymorth nid yn unig yn anfon nwyddau, ond hefyd yn symud pobl allan ac yn ailgychwyn cymdeithasau. Mae hyblygrwydd yn dod yn hollbwysig, sy’n golygu efallai na fydd llongau cyffredin yn ddigon.  Wrth gomisiynu uwch-gwch hwylio newydd, mae’r cyffredin yn rhywbeth i’w osgoi. Mae’r ffaith yn parhau, mae craen o’r safon i godi 4 tunnell o nwyddau hefyd yn gallu codi hypercar.  

Olly Frost

Mae fy mhrosiect mawr, Störta, sy’n golygu dymchwel, yn cymryd egwyddorion brand Koenigsegg, ac yn eu cyfuno yn y cerbyd cyntaf i’r cwmni â pheiriant yn y blaen.  Mae’r dyluniad cyffredinol wedi’i ysbrydoli gan gysyniad RAW gan Esa Mustonen, sydd wedyn yn cael ei gyfuno â’r nod o gyflawni mwy o nodweddion ymarferol na’r Gemera, sydd eisoes â lle helaeth, gan gadw ar yr un pryd y cyfan o’r perfformiad sy’n gysylltiedig â Koenigsegg. 

Mewn 5 mlynedd, fy nod yw gweithio mewn stiwdio ddylunio fodurol er mwyn helpu i gadw’r brwdfrydedd am geir yn fyw mewn byd sy’n ymwybodol yn amgylcheddol ac yn newid yn gyflym, gan gynhyrchu cerbydau sy’n apelio at y rhai sy’n gwirioni dros geir a bod yn garedig i’r amgylchedd ar yr un pryd.

Sam Partridge

Gydag argyfwng yr hinsawdd yn dod yn fygythiad cynyddol i’r ddynoliaeth, mae’n deg damcaniaethu y gallai llywodraethau’r byd ddod at ei gilydd cyn hir dros yr ofn cyffredin hwn er mwyn dod o hyd i achubiaeth bosibl i’r ddynoliaeth. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y posibilrwydd y gallai bodau dynol ddod yn rhywogaeth sydd ar nifer o blanedau.  

Mae stori gefndir y prosiect dylunio’n rhagdybio y bydd Mawrth yn dechrau gyda chymuned fach o ddeuddeg o wyddonwyr, meddygon, peirianwyr, a pheilotiaid gorau’r byd. Yn y misoedd a blynyddoedd cyntaf ar y blaned, bydd angen cerbyd arnynt at ddibenion ymchwil, gan ganiatáu iddynt archwilio tirwedd arw Mawrth ymhellach. Dylai fod â’r gallu i gario dau aelod o’r criw gydag offer samplu sylfaenol dros arwynebau creigiog a thywodlyd eang i ffwrdd o’r prif leoliad ymchwil ac yn ôl.