Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Yn fyfyriwr pensaernïaeth, fe welwch fod ein cyfleusterau’n fwy na dim ond mannau dysgu – maent yn hybiau deinamig a ddyluniwyd i ysbrydoli a meithrin eich angerdd am ddylunio.  

Mae gan ein stiwdios o’r radd flaenaf ddigon o le i arbrofi’n ymarferol a chynnal prosiectau cydweithredol, ac mae ein gweithdai gwneud pwrpasol yn cynnig mynediad i offer a thechnolegau blaengar er mwyn dod â’ch gweledigaethau’n fyw. Ag amrywiaeth gyfoethog o adnoddau, o feddalwedd modelu digidol 3D i offer drafftio traddodiadol, fe gewch eich cefnogi i archwilio dulliau dylunio amrywiol a gwthio ffiniau mynegiant pensaernïol. Dewch i ymuno â’n cymuned fywiog o ddarpar benseiri a dechrau ar daith yn archwilio, creu a thrawsnewid o fewn ein cyfleusterau eithriadol yn yr Ysgol Bensaernïaeth 

Ein Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau Pensaernïaeth arbenigol yn cynnwys: 

Mae gan ein cyfleusterau pensaernïaeth ddwy stiwdio bwrpasol sy’n cynnwys offer darlunio traddodiadol ac offer arolygu, yn ogystal â chyfleusterau darlunio symudol sydd â gweithleoedd cyfrifiadur CAD. Rydym yn cynnig nifer o blotwyr fformat mawr pwrpasol ac ystafell olau ar gyfer ffotograffiaeth modelau.  

Mae gan y ddwy stiwdio gyfleusterau storio modelau a loceri ar gyfer myfyrwyr, ynghyd â mannau ‘pin-up’ yn y stiwdio ac ardal oriel adeilad IQ 

Mae tiwtor yn edrych trwy bortffolio o ddyluniadau maint A2 wrth i dri myfyriwr edrych gyda diddordeb.
Eistedda myfyriwr o flaen monitorau deuol; mae un monitor yn dangos Adobe Photoshop a’r llall yn dangos cynllun adeilad.
Stiwdio pensaernïaeth gydag adeiladau model 3D wedi’u lledaenu dros y ddesg; maent yn cynnwys tŵr wedi’i adeiladu mewn nifer o haenau gyda cherdyn gwyn.

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) 

Mae gan fyfyrwyr Pensaernïaeth fynediad hefyd i’r gweithdai yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) ar gyfer gwneud modeli fformat mawr, torri â laser, peiriant CNC ac argraffwyr 3D. Ymhlith yr adnoddau technegol eraill, mae’r mynediad hefyd yn cynnwys mynediad i ddronau perfformiad uchel a thechnoleg thermograffig. 

Myfyriwr World SKills UK yn gwisgo penset ac yn gafael rheolydd; mae dau ddrôn cwadrennydd yn cael eu harddangos ar gwpwrdd tu ôl iddo.
Ystafell gyfarfod sydd â wal wydr ar un ochr; mae teledu sgrin fawr, bwrdd a chadeiriau yn yr ystafell.
Mae darlithydd yn ystumio tuag at sgrin sy’n dangos adeilad 3D a’r gair Residential; mae myfyriwr sy’n gwisgo penset VR yn gwrando.
Oriel Gyfleusterau  

Bywyd ar y Campws

four students on beach playing in shallow water

Bywyd Campws Abertawe

Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.