Skip page header and navigation

Canllaw i’r System Glirio: Rhieni, Gofalwyr a Chefnogwyr

Parents, Carers and Supporters Guide to Clearing

Mae clirio yn llwybr cydnabyddedig a chyffrous i’r brifysgol a gall gynnig cyfleoedd a phrofiadau newydd. Er hynny, gall mynd trwy’r broses a cheisio dod o hyd i’r cwrs delfrydol fod yn anodd ac yn frawychus ar brydiau. Fel rhiant, gofalwr neu gefnogwr, gallwch chi helpu i sicrhau bod y broses Clirio yn brofiad cadarnhaol.  

Providing support during Clearing

Rhoi’r gefnogaeth gywir yn ystod y broses Glirio: Argymhellion PCYDDS

Student  in discussion with teacher

Cynllunio cyn y Diwrnod Canlyniadau  

Os yw’r system glirio yn bosibiliad i’r person rydych chi’n ei gefnogi, gall ymchwilio cyrsiau a phrifysgolion posibl o flaen llaw fod yn ddefnyddiol iawn. 

Mae Gwefan UCAS yn lle da i weld yr holl gyrsiau prifysgol sydd ar gael, neu gallwch chi chwilio’n uniongyrchol gan ddefnyddio ein meysydd pwnc

Peidiwch â chynhyrfu, byddwch yn gadarnhaol, a darbwyllwch y person fod Clirio yn llwybr cyffredin i’r brifysgol a bod llawer o fyfyrwyr yn dod o hyd i gyrsiau sy’n addas iddyn nhw yn ystod y broses. 

Rhoi Cefnogaeth ar Ddiwrnod y Canlyniadau

 

Rhowch gefnogaeth emosiynol i’r rhai sy’n cael eu canlyniadau. Byddwch yn galonogol a dathlwch eu hymdrechion, waeth beth fo’r canlyniad. 

Os yw myfyriwr wedi gwneud cais i’r brifysgol trwy UCAS, gallan nhw fewngofnodi i Hwb UCAS ar ddiwrnod y canlyniadau er mwyn gwirio eu bod wedi cael eu derbyn ar eu cynnig cadarn neu eu cynnig wrth gefn. Hyd yn oed os na chawson nhw’r canlyniadau yr oedden nhw’n eu disgwyl, mae’n bosibl bod y sefydliadau a roddodd gynnig cadarn neu gynnig wrth gefn wedi eu derbyn a chadarnhau eu lle. 

Bydd y rhai nad oedden nhw wedi cael unrhyw gynigion, neu os na fodlonwyd amodau’r cynnig cadarn neu gynnig wrth gefn, yn gymwys i ddefnyddio’r broses Glirio ac yn cael eu hychwanegu i’r system yn awtomatig. 

Yn y sefyllfa yma, y peth cyntaf i’w wneud yw annog y myfyriwr i fod yn gadarnhaol ac yn bwyllog. Gall y profiad hwn fod yn frawychus ar yr olwg gyntaf, ond bydd yn cynnig opsiynau a chyfleoedd amgen i’r person rydych chi’n ei gefnogi. 

Anogwch y myfyriwr i ystyried gwahanol gyrsiau neu sefydliadau. Gwnewch ragor o waith ymchwil gyda nhw i weld pa ddewisiadau eraill sydd ar gael. Mae Gwefan UCAS yn lle da i weld yr holl gyrsiau prifysgol sydd ar gael, neu gallwch chi chwilio yn uniongyrchol gan ddefnyddio ein meysydd pwnc. 

Dechrau’r Broses Glirio

Bydd angen i ddarpar fyfyrwyr gael eu manylion UCAS a’u canlyniadau arholiad wrth law pan fyddan nhw’n dechrau cysylltu â phrifysgolion eraill i holi am leoedd ar gyrsiau amgen. Mae cyflwyno ffurflen ymholiad Clirio yn gam cyntaf da

Llenwch ein Ffurflen Ymholiad Clirio: Unwaith y bydd y myfyriwr wedi dod o hyd i gwrs sy’n addas iddyn nhw, dylen nhw gofrestru eu diddordeb, bydd hyn yn ein galluogi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cyrsiau ac am y broses Glirio. 

Gall myfyrwyr gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol er mwyn trafod a yw cyrsiau ar gael ac a ydyn nhw’n addas. Mae’n bwysig eu bod yn treulio amser yn chwilio am y dewis sy’n iawn iddyn nhw. Gall y syniad o ffonio adran dderbyn prifysgol fod yn frawychus, ond mae staff cyfeillgar ein llinell gymorth Clirio yn barod i ateb unrhyw gwestiynau. 

Galwch ein Llinell Gymorth Clirio: Gall myfyrwyr gysylltu â ni i drafod eu dewisiadau trwy ffonio 0300 323 1828.

Students in the quad at Lampeter

Mae Ein Llinell Gymorth Clirio Ar Agor

Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio heddiw i gael cyngor am y System Glirio, Diwrnod Canlyniadau, ac am Gyrsiau.

Bod yn drefnus

Mae’n bwysig i’r myfyriwr fod yn drefnus, byddan nhw angen paratoi gwybodaeth allweddol er mwyn gwneud cais trwy’r system Glirio.

Byddan nhw angen: 

  1. Canlyniadau eu Harholiadau (neu unrhyw gymwysterau ychwanegol a allai gefnogi eu cais). 
  2. Eu Rhif UCAS (os oes ganddyn nhw un).
  3. Cod y cwrs y maen nhw eisiau ei astudio, gallwch ddod o hyd iddo drwy UCAS neu ar ein tudalennau cwrs.
  4. Cod sefydliad y Brifysgol maen nhw’n ei dewis (ein cod ni yw T80)
  5. Unrhyw wybodaeth bersonol arall, fel cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, a’u cyfeiriad cartref.

Bydd bod â’r wybodaeth allweddol yma yn barod yn gwneud y broses Glirio yn haws ac yn llai o straen.  

Gwneud y mwyaf o’r gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael

Rydyn ni’n gwybod y gall y syniad o ymgeisio trwy’r System Glirio deimlo’n llethol, ond rydyn ni yma i gefnogi myfyrwyr ar bob cam o’u taith. P’un ai eu bod yn dewis ffonio neu wneud ymholiad, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud y mwyaf o’r cyngor sydd ar gael iddyn nhw. Mae gennym dimau arbennig wrth law i’w helpu gyda 3 pheth mawr y dylen nhw eu hystyried, ar wahân i’w dewis o gwrs: 

01
Cyngor am Gyrsiau: Gall ein timau eu helpu i ganfod y cwrs sy’n iawn iddyn nhw, yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u diddordebau.
02
Cyngor Ariannol: Gallan nhw gael cyngor ymarferol am gyllid myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd dysgu, ysgoloriaethau, a benthyciadau.
03
Mae Ein Llinell Gymorth Clirio Ar Agor Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio heddiw i gael cyngor am y System Glirio, am y Diwrnod Canlyniadau, ac am Gyrsiau.
Two students looking at their script

Dod i Ddiwrnod Agored Clirio

Pan fyddan nhw wedi cael cynnig cwrs trwy’r broses Glirio, galwch chi roi anogaeth, cefnogaeth a chyngor defnyddiol. Mae’n bwysig nad ydyn nhw’n brysio eu penderfyniad. 

Mae hwn yn amser da i ddysgu mwy am y cwrs neu’r brifysgol. 

Ystyriwch ymweld â’r Brifysgol. Yn ystod y broses Glirio, mae PCYDDS yn cynnig cyfleodd i ymweld a Diwrnodau Agored. Mae teithiau campws neu deithiau rhithwir yn ffordd wych o gael blas ar le, i edrych ar gyfleusterau a llety, ac i gwrdd â staff a chyd-fyfyrwyr. 

Derbyn cynnig trwy’r system Glirio

Pan fydd y person rydych chi’n eu cefnogi wedi dewis derbyn cynnig astudiaeth bydd angen iddyn nhw dderbyn y cynnig yn ffurfiol ar Hwb UCAS. Ar safle UCAS, bydd angen iddyn nhw wasgu Ychwanegu Dewis Clirio. Gallwch eu helpu i roi eu manylion ac i dderbyn eu cynnig Clirio. Ar ôl gwneud hyn, gall y brifysgol gadarnhau eu lle yn ffurfiol. 

Ystyried Opsiynau Eraill 

Os yw myfyriwr yn ansicr ynglŷn â derbyn cynnig cwrs trwy’r system Glirio, gallech eu cefnogi ymhellach trwy drafod opsiynau eraill. Gallai hyn gynnwys cymryd blwyddyn i ffwrdd, cael profiad gwaith, neu ailymgeisio flwyddyn nesaf. Gallai trafod dewisiadau eraill dynnu rhywfaint o’r pwysau oddi arnyn nhw a gallai hefyd arwain at gyfleoedd newydd.

Paratoi i ddechrau yn y Brifysgol ar ôl mynd trwy’r broses Glirio 

Unwaith y bydd lle wedi’i gadarnhau, gallwch roi cefnogaeth bellach drwy baratoi’r myfyriwr ar gyfer y brifysgol. Anogwch nhw i gadw llygaid am wybodaeth am gyllid myfyrwyr, llety a dyddiadau dechrau. Daliwch ati i ddathlu pob llwyddiant. Mae sicrhau lle drwy’r broses Clirio yn gyflawniad, mae’n dangos gwytnwch a’r gallu i addasu, a bydd yn arwain at bennod newydd gyffrous yn eu taith addysgol. 

Students walking through Lampeter town