![A man and a woman in yellow hi-vis jackets look at scaffolding and supports filling the roof area in the remains of a brick building.](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2024-07/civil-engineering-banner_0.jpg?h=20e3ee4c&itok=5SWkqcj9)
Cyfleusterau Adeiladu a Pheirianneg Sifil
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Yn fyfyriwr adeiladu neu beirianneg sifil, fe welwch fod ein cyfleusterau’n fwy na dim ond mannau dysgu – maent yn hybiau deinamig a ddyluniwyd i ysbrydoli a meithrin eich angerdd am y diwydiant adeiladu.
Mae gan ein stiwdios o’r radd flaenaf ddigon o le i arbrofi’n ymarferol a chynnal prosiectau cydweithredol, ac mae ein gweithdy arolygu digidol pwrpasol yn cynnig mynediad i offer a thechnolegau blaengar er mwyn dod â’ch gweledigaethau’n fyw. Gydag amrywiaeth eang o adnoddau, o feddalwedd modelu digidol 3D i ddronau ac offer VR, fe gewch y gefnogaeth y bydd arnoch ei hangen i archwilio ffiniau technoleg a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu. Dewch i ymuno â’n cymuned fywiog o ddarpar ymarferwyr proffesiynol adeiladu a dechrau taith yn archwilio a phrofi o fewn ein cyfleusterau eithriadol yn yr Ysgol.
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Adeiladu a Pheirianneg Sifil yn cynnwys:
-
Gweithdy Adeiladu pwrpasol sy’n cynnwys profion Shear, profion treiddio, offer profion tynnol a chywasgol.
-
Offer arolygu, gan gynnwys lefelau a sawl ‘total station’.
-
Gweithleoedd cyfrifiaduron CAD, gan gynnwys Revit, Revisto a phrosiect MS
-
Nifer o blotwyr fformat mawr pwrpasol
-
Ystafell arolygu ddigidol gan gynnwys offer VR, sganwyr 3D, dronau ac offer thermograffig.
-
Labordy amgylchedd ar gyfer profion pridd.
-
Ystafell ddosbarth adeiladu pwrpasol.
![Myfyriwr World SKills UK yn gwisgo penset ac yn gafael rheolydd; mae dau ddrôn cwadrennydd yn cael eu harddangos ar gwpwrdd tu ôl iddo.](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-07/cwic-vr-headset-v2_0.jpg?itok=zBzh4DdA)
Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru CWIC
Hefyd, mae gan fyfyrwyr adeiladu a pheirianneg sifil fynediad i’r gweithdai ar gyfer gwneud modeli fformat mawr, torri â laser, peiriant CNC ac argraffwyr 3D. Ymhlith adnoddau technegol eraill, fel technoleg thermograffig.
![A man in VR glasses and wearing sensors on his hands uses a wood machine simulator to practise cutting a timber plank.](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-07/cwic-convert.jpg?itok=3sMA30CE)
![Ystafell gyfarfod sydd â wal wydr ar un ochr; mae teledu sgrin fawr, bwrdd a chadeiriau yn yr ystafell.](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-07/cwic-conference-room.jpg?itok=j3hFjaBz)
![Mae darlithydd yn ystumio tuag at sgrin sy’n dangos adeilad 3D a’r gair Residential; mae myfyriwr sy’n gwisgo penset VR yn gwrando.](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-07/cwic-vr-screen.jpg?itok=KsGeRQvY)
Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws
![four students on beach playing in shallow water](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-09/DSC09179.jpg?h=e8fb9631&itok=wUy9u_wk)
Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.