Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Mae ein cyrsiau ffilm a chyfryngau ar gampws Caerfyrddin yn cefnogi myfyrwyr i ymgysylltu â’r diwydiannau creadigol cyfoes a datblygu ystod o sgiliau academaidd a chynhyrchu. Trwy gymhwyso technegau sefydledig y diwydiant i dechnolegau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, bydd myfyrwyr sy’n graddio ar reng flaen y diwydiannau cyffrous sy’n gysylltiedig â chreu cynnwys yn rhagweithiol.  

Bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd i weithio ar brosiectau personol gyda sefydliadau allanol fel OM Digital Cameras, Panasonic Lumix, Shimoda, Boom Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Avanti, Nikon a DMM.  

Mae llawer o gyfleoedd unigryw a chyffrous i fyfyrwyr gymryd rhan ynddynt, ar gyfer asesiadau ac fel datblygiad gyrfa allgyrsiol. Gyda Chanolfan S4C Yr Egin ar y campws, mae cyfleodd o fewn y diwydiant ar gael i fyfyrwyr ar unwaith, sy’n golygu bod graddedigion yn gallu gadael gyda gradd unigryw, yn ogystal â CV o brofiadau gyda’r diwydiant. 

Yng nghanol cefn gwlad ac arfordiroedd hyfryd, mae’r amgylchedd yn symbylu ac yn ymlacio pobl i’r un graddau. Bydd y cyrsiau hyn yn helpu i ddatblygu unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau proffesiynol ac academaidd ac yn agor drysau. 

Ein Cyfleusterau

Ymhlith ein cyfleusterau Ffilm a Chyfryngau arbenigol mae: 

Mae gan fyfyrwyr ein graddau Gwneud Ffilmiau Antur a Chyfryngau Digidol yng Nghaerfyrddin fynediad i ystod o gyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys ein hystafell sgrinio trochi Samsung ac Ystafell Apple Mac, sydd â monitorau 4K mawr a meddalwedd Adobe Creative Cloud, sy’n darparu amgylcheddau o’r radd flaenaf ar gyfer gwaith creadigol.  

Ar gael hefyd mae ein hystafell sgrin werdd, ystafell olygu ôl-gynhyrchu clyweled, gan gynnwys camerâu, microffonau, gimbalau, camerâu 360, offer sy’n galluogi ffilmio tanddwr, GoPros, a phensetiau VR. 

ae dau fyfyriwr yn wynebu ei gilydd, un yn cerdded tuag yn ôl yn gafael camera ffilm i fyny gerfydd ei fownt; mae’r llall yn dal camera ac yn gwenu; mae trydydd myfyriwr yn dal ffon olau uwch ei phen.

Ein Lleoliad  

Wedi’u lleoli mewn lleoliad unigryw mae ein graddau yn elwa ar dirluniau arfordirol a mynyddig hardd. Mae alldeithiau rheolaidd a gweithdai lleoliad yn galluogi i fyfyrwyr ffilmio a thynnu lluniau natur a gweithgareddau anturus dan arweiniad ymarferwyr profiadol. 

Mae ein lleoliad, ger Canolfan S4C Yr Egin, yn cynnig cysylltiadau amhrisiadwy gyda’r diwydiant. Hefyd, caiff myfyrwyr y cyfle i ymgysylltu gyda’r diwydiannau creadigol gan ddefnyddio technegau uwch a thechnolegau newydd, gan gydweithio gyda chwmnïau fel OM Digital Cameras a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  

Mae ein cyfleusterau hefyd yn cynnwys Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin, sydd â hwb werdd, wal ddringo, ac offer antur. Mae’r mannau stiwdio fel Y Llwyfan, yr ystafell sgrin werdd, a’r ystafell olygu ôl-gynhyrchu yn cefnogi ystod eang o brosiectau creadigol. 

A young man films with a Lumix camera on a gimbal.
Mae dyn yn cwrcwd ger camera ar drybedd wrth iddo ffilmio morynnau gwyn ar draeth creigiog.

BA Gwneud Ffilmiau Antur  

Mae’r rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur wedi’i lleoli mewn lleoliad unigryw sy’n elwa ar dirluniau arfordirol a mynyddig hardd. Mae alldeithiau rheolaidd a gweithdai lleoliad yn galluogi i fyfyrwyr ffilmio a thynnu llun natur a gweithgareddau anturus dan arweiniad ymarferwyr profiadol. 

Students look at a large screen showing a video editing interface.

BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol 

Mae ein graddau Cynhyrchu Cyfryngau Digidol yn rhannu modylau ymarferol gyda Dylunio Set a Chynhyrchu ac Actio, gan gynnwys modelu 3D, graffeg, cyfarwyddo, goleuo a sain, sy’n caniatáu mynediad i amrywiaeth o weithdai, mannau theatr, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer. 

Eight students sit around a table as a lecturer at the head of the room points to a large screen showing a video editing program.

Cynhyrchu 

Bydd hyfforddiant cynhyrchu’n cael ei gynnal ar leoliad ac yn ein stiwdios a labordai cyfrifiadurol. Bydd gan fyfyrwyr fynediad i’n hystafell sgrinio trochi Samsung arloesol, yn ogystal ag ystafell Apple Mac sydd â monitorau 4K mawr a meddalwedd Adobe Creative Cloud. Hefyd, mae mannau creadigol yno fel Y Llwyfan, Ystafell Sgrin Werdd, Ystafell Olygu Ôl-gynhyrchu, a chyfleusterau sgrinio.

Golygfa o lwybr beicio Cynefin o’r awyr

Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin 

Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin y Brifysgol yn cynnwys hwb werdd, trac pwmp, wal ddringo, storfeydd offer antur, a mynediad i gaeau, cynefinoedd a thirluniau naturiol.  

Myfyrwyr yn ffilmio tu allan i Ganolfan S4C Yr Egin

Cydweithio  

Rydym yn cydweithio ar nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith gyda darlledwr cenedlaethol Cymru, S4C, yn ei gartref yng nghanolfan Yr Egin. Mae digwyddiadau fel yr Ŵyl Ffilmiau Antur, arddangosfa graddedigion, a gweithdai gyda brandiau camera enwog yn caniatáu i fyfyrwyr gysylltu gyda’r diwydiant. Hefyd, mae tenantiaid cynhyrchu cyfryngau yno sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiadau o’r diwydiant. 

Penset VR  

Mae myfyriwr yn sefyll o flaen dosbarth yn gwisgo penset Oculus Quest ac yn gafael dau reolydd.

Sgrin Werdd 

A young man holds a clapperboard and looks off towards the left, waiting; the background is a green screen.

Ystafelloedd Mac  

Students sit around a conference table with a lecturer.

Ystafell Drochi 

A student points to a mountainous landscape displayed on a digital screen inside the Carmarthen immersive room.

Ystafell Drochi

Mae ein hystafell sgrinio trochi Samsung o’r radd flaenaf yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau. 

Students stand in the Carmarthen immersive room; one wall displays photos of a male wood duck and an insect on a flower petal.
Students view scenes from the outdoors on display inside Carmarthen Immersive Room.
Carmarthen Immersive Room; one wall shows the edge of a lake in sunshine; another shows a woman dancing in a car park amidst coloured smoke.
Students applaud in the Immersive Room; one wall displays text under the heading – Daniel James Photography – next to a black-and-white photo.
A lecturer uses the Carmarthen Immersive Room control touchscreen interface; in front of him, students look at the digital walls.

Oriel gyfleusterau

Bywyd ar y Campws

students at Carmarthen Campus

Bywyd ar gampws Caerfyrddin

Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.