Cyfleusterau Peirianneg Drydanol ac Electronig
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Wedi’ch lleoli ar ein campws ar y Glannau, fel myfyriwr sy’n astudio ar ein rhaglenni peirianneg drydanol ac electronig, cewch fynediad at nifer o gyfleusterau arbenigol sy’n caniatáu i chi gael profiad ymarferol mewn dylunio, profi ac ymdrin â diffygion mewn cylchedau electronig.
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Peirianneg Drydanol ac Electronig arbenigol yn cynnwys y canlynol:
Dau Labordy â Meddalwedd Arbenigol: Yn cynnwys Proteus VSM, meddalwedd ddylunio Easy PC, MATLAB, ANSYS HFSS, MPLAB, crynhoydd CCS PIC C, Factory IO, Siemens TIA, Virtual Instrument gan LJ Create, a chipio drwy Pico-Scope.
Offer Arbenigol: yn cynnwys osgilosgopau digidol, osgilosgopau seiliedig ar gyfrifiaduron (Pico-Scope), cyflenwadau pŵer ag allbwn triphlyg, generaduron signalau gyda swyddogaethau modylu uwch, rhaglenwyr microreoli PIC, byrddau bara, a chyfleusterau sodro. Storfeydd cydrannau helaeth, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLCs) Siemens a Rhyngwynebau Dyn-Peiriant (HMIs).
Mae pob gorsaf yn ein cyfleuster addysgu electroneg ag osgilosgop digidol, generadur signalau, cyflenwad pŵer aml-allbwn, a rhyngwyneb rhaglennu micro-reoli er mwyn caniatáu i’n myfyrwyr wneud ymarferion ymarferol i gefnogi eu dysgu gyda ni.
Ynghyd â meddalwedd efelychu a dylunio o safon diwydiant, mae ein cyfleusterau yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr gael profiad ymarferol o ddylunio, profi ac ymdrin â diffygion mewn cylchedau electronig, gan eu paratoi am heriau yn y byd go iawn ym maes peirianneg drydanol ac electronig.
Drwy arbrofi dan arweiniad a dysgu seiliedig ar brosiectau, gall myfyrwyr archwilio cysyniadau megis dadansoddi tonffurfiau, prototeipio cylchedau, a rhaglennu systemau mewnblanedig, gan feithrin dealltwriaeth fanwl o egwyddorion damcaniaethol a’u cymwysiadau ymarferol. Ein nod yw meithrin amgylchedd dysgu sy’n meithrin arloesi ac yn grymuso myfyrwyr i ddod yn ddatryswyr problemau medrus ac yn arloeswyr ym maes deinamig electroneg.
Proteus VSM:
Offeryn efelychu mewnblanedig mwyaf datblygedig y byd ar gyfer efelychiadau SPICE dull cymysg ar gylchedau cymhleth.
Platfform Virtual Instrument gan LJ Create:
Dyfais i ymchwilio i amryw o gydrannau electronig a chylchedau, gan helpu i ddysgu technegau mesur a sgiliau dod o hyd i namau
Factory IO:
Pecyn efelychu ffatri 3D sy’n caniatáu efelychiadau ffatri realistig er mwyn ail-greu tasgau rheoli diwydiannol.
Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws
Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.