Sbarduno – rhaglen 12 wythnos
Introduction
Cynigir y rhaglen hon fel deuddeg sesiwn 2-3 awr o hyd, ac mae wedi’i hanelu at unrhyw un a hoffai fynd â’i fusnes cyfredol i’r lefel nesaf.
Sbarduno – Galluogi perchnogion busnesau i dyfu busnesau sydd eisoes yn llwyddiannus i fod yn fwy cynaliadwy ac ariannol hyfyw.
Croeso i raglen Sbarduno SCALE, lle mae arloesi’n cwrdd â sbarduno! Dechreuwch ar daith drawsffurfiol 12 wythnos a fydd yn chwyldroi eich dulliau ar gyfer busnes. Mae ein Cwrs Twf Busnesau wedi’i lunio i entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau sy’n barod i fynd â’u mentrau i uchelfannau newydd.
Gydol y profiad trochol hwn, byddwch chi’n plymio i gynllunio strategol, meistroli marchnata, craffter ariannol, a hanfodion arweinyddiaeth. Bob wythnos bydd pennod newydd yn natblygiad eich busnes yn ymagor gyda help Dosbarthiadau Meistr dan arweiniad Arbenigwyr Diwydiant.
P’un a ydych yn fusnes newydd sy’n dymuno tyfu’n gyflym neu’n fusnes sefydledig sy’n chwilio am bersbectif ffres, mae’r cwrs hwn yn rhoi i chi’r offer a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen am dwf parhaus. Paratowch i godi eich busnes, cysylltu â chymheiriaid o’r un anian, a throi eich dyheadau o ran twf yn realiti strategol. Croeso i 12 wythnos drawsffurfiol a fydd yn ail-lunio llwybr llwyddiant eich busnes!
Mae’r rhaglen hon yn rhad ac am ddim ac i berchnogion busnes Abertawe sy’n dymuno datblygu eu syniadau a’u busnes ymhellach. Cynigir y rhaglen fel 12 sesiwn 2-3 awr o hyd yn Abertawe a bydd yn eich helpu i ddatblygu’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i adeiladu ar yr hyn rydych chi eisoes wedi’i gyflawni yn eich busnes.
Yn ystod y rhaglen byddwn ni’n edrych ar strwythur a materion ariannol eich busnes, cyfleoedd am fuddsoddi yn ogystal â pharatoi dogfennau megis cynlluniau ariannol a busnes ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd eraill am dwf.
Pryd a ble?
Bydd y cwrs nesaf ar gael yn Adeilad IQ, Heol y Brenin, Abertawe. SA1 8AL.
Dydd Mawrth 4 Mehefin, 10am - 12.30pm, Ystafell 305 (Adeilad IQ, Abertawe SA1)
Dydd Mawrth 11 Mehefin, 10am - 12.30pm, Ystafell 305 (Adeilad IQ, Abertawe SA1)
Dydd Mawrth 18 Mehefin, 10am - 12.30pm, Ystafell 305 (Adeilad IQ, Abertawe SA1)
Dydd Mawrth 25 Mehefin, 10am - 12.30pm, Ystafell 305 (Adeilad IQ, Abertawe SA1)
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf, 10am - 12.30pm, Ystafell 305 (Adeilad IQ, Abertawe SA1)
Dydd Mawrth 9 Gorffennaf, 10am - 12.30pm, Ystafell 305 (Adeilad IQ, Abertawe SA1)
Dydd Mawrth 10 Medi, 10am - 12.30pm, ystafell i’w chadarnhau
Dydd Mawrth 17 Medi, 10am - 12.30pm, ystafell i’w chadarnhau
Dydd Mawrth 24 Medi, 10am - 12.30pm, ystafell i’w chadarnhau
Dydd Mawrth 1af Hydref, 10am - 12.30pm, ystafell i’w chadarnhau
Dydd Mawrth 8 Hydref, 10am - 12.30pm, ystafell i’w chadarnhau
Dydd Mawrth 15 Hydref, 10am - 12.30pm, ystafell i’w chadarnhau
Beth fydd yn ei gynnwys?
Edrych ar sut i dyfu eich busnes mewn ffordd wedi’i strwythuro sy’n ariannol ddiogel
Adolygu eich cynlluniau cyfredol ac a ydyn nhw’n addas i’r dyfodol
Cryfhau eich cynlluniau, nodau a gweledigaeth i’r dyfodol
Sicrhau bod gennych y rhinweddau arwain a rheoli ar gyfer eich cynlluniau i’r dyfodol
Adolygu eich sylfaen gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol
Ystyried gwahanol fodelau busnes i dyfu eich busnes
Datblygu cynllun strategol
Cymhwysedd: Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y digwyddiad hwn, mae angen i chi fod yn fusnes newydd, masnachwr unigol neu fusnes wedi’i leoli yn Abertawe. Mae lleoedd yn gyfyngedig i un person o bob cwmni.
Lleoliad
Scale UWTSD
UWTSD
Adeilad IQ
Abertawe
SA1 8AL
Y Deyrnas Unedig