Skip page header and navigation

Cyngor y Brifysgol

Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cydnabod unigolion o fri drwy gyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd neu Raddau er Anrhydedd iddynt, fel arfer mewn Cynulliad Graddio.

Gellir rhoi Doethuriaethau er Anrhydedd i’r rhai sy’n nodedig yn eu maes, fel arfer am eu bod wedi gwneud cyfraniad academaidd pwysig a chynaliadwy mewn maes sy’n berthnasol i’r Brifysgol, neu wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau eithriadol.

Gellir dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd i unigolion nodedig iawn yn eu meysydd eu hunain ac sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i’r Brifysgol.

Enwebiadau

Gellir gwneud enwebiadau am ddyfarniadau er Anrhydedd gan ddefnyddio’r Ffurflen Enwebu Dyfarniadau Er Anrhydedd, y dylid ei chyflwyno i’r Brifysgol drwy llywodraethu@pcydds.ac.uk.

Caiff pob enwebiad ei ystyried gan y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, un o bwyllgorau Cyngor y Brifysgol. Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys myfyriwr-lywodraethwr a staff-lywodraethwr.

Gellir cyflwyno enwebiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ond fel arfer cânt eu hystyried yn flynyddol gan y Pwyllgor.

Mae rhagor o wybodaeth am Feini Prawf a Gweithdrefn Dyfarniadau Er Anrhydedd ar gael yma.