Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, fe wnaeth myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ymgolli mewn cyfres o ddigwyddiadau symposiwm ysbrydoledig a oedd yn cynnig cipolwg ar y cyfleoedd cyflogaeth ac entrepreneuraidd arbennig sydd o’u blaenau.

tair merch
Graddedigion Patrymau Arwyneb a Thecstilau. O'r chwith i dde: Naomi Seaward, Rebecca Davies a Lucy Ralph

Wedi’i drefnu gan staff addysgu ymroddedig y rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau, bu symposiwm eleni’n dathlu pŵer trawsnewidiol cofleidio cyfleoedd, a hynny’n syml drwy ddweud ‘ie’. 

Dechreuodd y digwyddiadau gyda sylw i bŵer interniaethau, gan arddangos eu potensial i arwain myfyrwyr tuag at ddarganfod eu diddordebau angerddol a lansio eu gyrfaoedd.

Cafodd myfyrwyr eu hysbrydoli gan raddedigion llwyddiannus a oedd yn dychwelyd, gan gynnwys Rebecca Davies (MDes, 2021) a rannodd ei thaith o interniaeth i rôl fawreddog fel Dylunydd Pwrpasol yn Rolls-Royce, gan weithio gydag ystod o gleientiaid ym mhen ucha’r farchnad ar geisiadau i ddylunio ceir unigryw a moethus. Mae ymweliadau niferus Rebecca ers graddio yn dangos ei hymrwymiad i’r cwrs a’r cwlwm agos rhyngddi â’r Brifysgol a’r staff addysgu. 

Merch yn sefyll at y camera
Cyn-fyfyrwraig, Rebecca Davies

Yn ogystal â chyfareddu’r gynulleidfa gyda chipolwg ar ei gwaith, daeth Rebecca â newyddion am gyfle cyffrous: interniaeth 13 mis â thâl gyda Rolls-Royce.

Yn dilyn ôl troed Rebecca, rhannodd Emma Landek ei phrofiadau cyfoethog. Hi yw’r intern Rolls-Royce presennol a’r ail fyfyriwr o’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau i sicrhau interniaeth â thâl gyda’r cwmni uchel ei barch. O deithio i’r Eidal i ddod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer casgliad cyfyngedig o geir, i gydweithio â Rebecca, un o’i chyd-raddedigion, mynegodd Emma ei gwerthfawrogiad am y daith amhrisiadwy y cychwynnodd arni.

Cafodd myfyrwyr gyfle hefyd i rannu eu hanturiaethau interniaeth eu hunain, yn amrywio o gydweithio gyda dylunwyr ffasiwn yn Wythnos Ffasiwn Llundain i brofiad gwaith gyda’r brand Cymreig cynaliadwy, Hiut Denim Co.

Pedair myfyriwr yn sefyll at y camera
Myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Trwy gydol y digwyddiad, daeth entrepreneuriaeth i’r amlwg fel thema ganolog, gyda symposia yn anelu at danio’r ysbryd entrepreneuraidd o fewn myfyrwyr. Rhannwyd mewnwelediadau a chyngor gwerthfawr gan dimau Menter a Gyrfaoedd y Drindod Dewi Sant.

Rhannodd Emily Philips, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn, sut y dewisodd gysgodi busnesau graddedigion gan gynnwys The Tiny Toucan a sefydlwyd gan y cyn-fyfyriwr Ciara Long, a’r dylunydd print darluniadol a thecstilau mewnol llawrydd, Harriet Popham, y cyfarfu Emily â hi yn yr un digwyddiad y flwyddyn flaenorol. 

Mynegodd Emily ei dyheadau i ddilyn yn ôl eu traed gan ddweud: “Cefais fy ysbrydoli gan y cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd. Roedd gweld eu gweithdai yng nghefn gerddi yn gwneud i mi deimlo ei fod o fewn fy nghyrraedd i allu cychwyn fy musnes fy hun a gweld fy hun yn eu hesgidiau nhw ryw ddydd yn y dyfodol.”

Cyflwynodd Naomi Seaward (MDes, 2021) sgwrs ysbrydoledig, gan rannu ei thaith raddio hyd yma, sy’n cynnwys sefydlu ei brand ei hun, Naomi Elizabeth Designs a sefydlu ei hun yn aelod gwerthfawr o staff yng Ngholeg Celf Abertawe.

Two girls smiling at camera
Graduates Naomi Seaward and Charlie Treasure-Coates

Rhannodd llawer mwy o raddedigion ysbrydoledig eu hanes a’u straeon, gan gynnwys; Lucy Ralph (BA, 2023), dylunydd ail-waith ac Artist Preswyl Coleg Celf Abertawe, Ellie Jones (BA, 2021) sydd bellach yn Ddylunydd Iau Nwyddau Cartref gyda Matalan, a Charlie Treasure-Coates (BA, 201) sydd wedi dychwelyd i astudio MA Tecstilau - Deialogau Cyfoes ar ôl cyfnod o ddysgu dramor, gan sôn am yr hyn ddigwyddodd pan wnaethant fachu ar gyfleoedd a dilyn eu breuddwydion.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Georgia McKie: “Rhannodd ein siaradwyr y twf yn eu hyder a’u hagwedd, y gwersi gwerthfawr a ddysgon nhw a’r mewnwelediadau unigryw a gawsant o’u profiadau. 

“Roedd cydnabod bod profiadau fel y rhain yn ymwneud â chraidd yr hyn a wnawn ar y rhaglen, y prosiectau byw yr ydym yn eu hintegreiddio, a’r swyddi y mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i ffynnu ynddynt, yn neges bwysig i’r garfan bresennol.  Roedd yna newid agwedd amlwg wrth i’r dyddiau fynd rhagddynt, ac ymdeimlad eglur bod popeth yn bosibl.”

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau (The Guardian University Guide 2024). Am ragor o wybodaeth ar y cwrs, ewch i: Patrymau Arwyneb a Thecstilau (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon