Skip page header and navigation

Mae Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cychwyn ar daith wedi’i hariannu’n rhannol gan Taith i’r UDA. Mae’r daith sy’n ymweld â dau leoliad yn dechrau yn Chicago ac yn parhau ym Mhrifysgol Rio Grande yn Ohio. Mae cysylltiad wedi bod rhwng y ddwy brifysgol ers 2002. Mae’r grŵp o fyfyrwyr yn cynnwys chwaraewyr rygbi, chwaraewyr pêl-droed a chwaraewyr pêl-rwyd o wahanol gyrsiau a champysau PCYDDS.

Members of the Academy of Sport line up on campus

Nod yr ymweliad yw darparu myfyrwyr y brifysgol gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o chwaraeon yn  UDA. Mae’n cynnwys ymweliadau â thimau chwaraeon proffesiynol ac adrannau athletau’r brifysgol yn ogystal â chynnig cipolwg  uniongyrchol ar y traddodiadau a’r cyfleoedd cyflogaeth sy’n gysylltiedig â digwyddiadau mawr fel y Super Bowl. 

Mae’r daith yn cynnwys teithiau addysgol i dimau chwaraeon proffesiynol a thimau chwaraeon y Brifysgol, lle bydd myfyrwyr yn cael profiad o amgylcheddau hyfforddi athletau proffesiynol a myfyrwyr.  Yn ogystal, bydd cyfle i wylio sawl digwyddiad chwaraeon. Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cysylltu’n agos â’r astudiaethau presennol a’r hyfforddiant mae’r myfyrwyr yn eu derbyn yn Academi Chwaraeon PCYDDS. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cryfder a chyflyru, gwyddoniaeth chwaraeon, dadansoddi perfformiad a hyfforddi. Bydd y profiadau hyn yn ehangu eu gwybodaeth a’u cyflogadwyedd ar ôl graddio, gan ganiatáu iddyn nhw brofi effaith ddiwylliannol chwaraeon mewn cymdeithas wahanol.  

Un o uchafbwyntiau’r daith yw’r cyfle i gael cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda Chicago Hounds, clwb Rygbi’r Uwch Gynghrair broffesiynol, dan arweiniad un o raddedigion PCYDDS Luke Lewis sy’n Hyfforddwr Cynorthwyol y Blaenwyr a Chryfder a Chyflwr. Bydd myfyrwyr yn rhyngweithio â’r tîm ac yn mynychu un o’r gemau cartref, yn ogystal ag ymweld â thîm semi-broffesiynol sy’n gysylltiedig â’r Hounds. Bydd hyn yn darparu ysbrydoliaeth a phrofiad gan arddangos myfyriwr graddedig PCYDDS llwyddiannus yn gweithio mewn amgylchedd chwaraeon lefel uchel.     

Nod allweddol arall yw archwilio integreiddiad a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion yn UDA. Bydd y grŵp yn ymweld â Phrifysgol Rio Grande sy’n bartner PCYDDS. Byddan nhw’n ymweld ag adrannau academaidd a chyfleusterau athletaidd, gan gael cipolwg ar fywyd myfyriwr-athletwr mewn prifysgol yn America. Yn ogystal, bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ystyried astudio yn Rio Grande am dymor yn y dyfodol. 

Yn ogystal, bydd y daith yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg a’r effaith ddiwylliannol yng Nghanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande. Gyda sawl siaradwr Cymraeg yn y grŵp, bydd yr ymweliad hwn yn archwilio sut mae eu sgiliau iaith yn gallu creu cyfleoedd y tu hwnt i Gymru. 

Dywedodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS: 

“Rydym yn edrych ymlaen at ein hymweliad gan mai hon fydd taith dramor gyntaf yr Academi Chwaraeon. Byddwn yn treulio amser yn Chicago ac yno yn Rio Grande. Rydym yn ddiolchgar iawn i Kath Griffiths (Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS - Gogledd America ac Outward Mobility - Academi Fyd-eang Cymru) a Hannah (Swyddog Symudedd Rhyngwladol PCYDDS, Academi Fyd-eang Cymru) am eu holl gymorth wrth drefnu’r ymweliad. Yn ogystal, hoffem ddiolch i Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig sydd wedi rhoi rhaglen wych at ei gilydd ar gyfer yr ymweliad. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i weld cynnig Academaidd y Brifysgol gan y gallent dreulio tymor yno yn y dyfodol yn yr Adran Athletau ac wrth gwrs yng Nghanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig.   Mae nifer fawr o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn mynd ar y daith felly bydd yn gyfle gwych i ni ryngweithio â’r Ganolfan a’r gymuned leol i weld sut mae’r diwylliant Cymreig yn cael ei ddatblygu a’i gadw yn yr Unol Daleithiau.”

Ychwanegodd Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS - Gogledd America ac Outward Mobility - Academi Fyd-eang Cymru:

“Mae’n bleser gennym hyrwyddo’r cyfle unigryw hwn i’n myfyrwyr. Bydd y daith hon nid yn unig yn ehangu eu sgiliau academaidd a phroffesiynol, ond hefyd yn lledaenu eu gorwelion diwylliannol ac yn cryfhau eu cysylltiad â threftadaeth Cymru.”

“Mae Academi Chwaraeon yn cynnig cyfleoedd gwych ac yn meithrin cysylltiadau ymhlith amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd. Gan gydnabod nad yw pawb yn gallu treulio tymor cyfan tramor, rydym wedi cydweithio â’r adrannau academaidd i drefnu profiadau tramor byr ond trawsnewidiol. 

“Os ydych chi’n fyfyriwr yn PCYDDS ar hyn o bryd neu os ydych chi’n dechrau astudio yma’r hydref hwn, cysylltwch â thîm Go Global i ddysgu mwy am y cyfleoedd hyn.”

Cyfleoedd Byd-Eang | Prifysgol Drindod y Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon