Skip page header and navigation

Mae Holly Gooch, o Aberteifi, wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda BA mewn Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (ETS Cymeradwy).  Enillodd hefyd Wobr Goffa Carl John am Astudiaethau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned*, gyda’i chyd-fyfyriwr Ash Lewis, am yr ymroddiad a’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i’w hastudiaethau a’u hymarfer Gwaith Ieuenctid. 

Holly Gooch at Graduation
Holly Gooch in Buyana, Uganda

Dywed Holly fod ei thaith yn y brifysgol wedi newid ei bywyd ac wedi cadarnhau ei chariad at waith ieuenctid a hefyd at waith dyngarol.

Yn ystod blwyddyn i ffwrdd yn dilyn ei Lefel A, bu Holly yn gweithio mewn tafarn leol a roddodd gyfle iddi fyfyrio ar ei phrofiadau ei hun ac effaith tyfu i fyny mewn pentref anghysbell heb gyfleusterau i bobl ifanc. Penderfynodd wneud cais am gwrs gradd a fyddai’n ei galluogi i roi yn ôl i bobl ifanc mewn ffyrdd a fyddai wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’w phrofiad ei hun. 

Arweiniodd y penderfyniad hwn at  raglen BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol, a gymeradwywyd gan ETS, yn Y Drindod Dewi Sant. Dywed:

Ar ôl fy nghyfweliad gydag Angharad Lewis ac Alana Enoch, fe wnes i syrthio mewn cariad â’r ffyrdd roedd y cwrs yn cefnogi ac yn grymuso pobl ifanc mewn ffyrdd yr oeddwn i eu hangen fel person ifanc. Dewisais Y Drindod Dewi Sant oherwydd y berthynas gref sydd gan y darlithwyr â’u myfyrwyr. Ar ben hynny, yn byw yn Aberteifi roedd yn ddigon agos i mi gymryd rhan ym mywyd prifysgol ond hefyd rhoi yn ôl i’r gymuned y cefais fy magu ynddi i wneud yn siŵr y gallwn gael cymaint o effaith â phosibl wrth ddysgu”. 

Fe wnes i wir syrthio mewn cariad â phob agwedd ar y cwrs – y ffordd mae’n eich grymuso, ei berthynas gref â phobl ifanc a’r ffordd yr ydym yn dyrchafu teuluoedd a phobl ifanc. Mae wedi datblygu fy nghred ynof fy hun, fy hyder a fy ngwaith gyda phobl ifanc”. 

Nodau Holly oedd symud ymlaen i raglen meistr mewn gwaith cymdeithasol fel y gallai ddilyn gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol, ond ar ôl profiad o wirfoddoli yn Affrica fel rhan o’r cwrs yn ei hail flwyddyn, sylweddolodd faint roedd ei nodau a’i huchelgeisiau wedi newid i fod eisiau gwneud gwaith dyngarol.

Ychwanegodd: “Yn ystod 2023, cefais gyfle i fynd i Affrica gyda Play Action International i adeiladu meysydd chwarae ar gyfer ieuenctid difreintiedig ledled Uganda. Dyma lle daeth fy nghariad diamod tuag at waith dyngarol. Newidiodd fy mywyd yn wirioneddol, heb i’m darlithwyr ddweud wrthyf a dangos y cyfle hwn i mi, ni fyddai erioed wedi newid fy mywyd yn y ffordd y maei. Ynghyd â deg myfyriwr arall, adeiladais feysydd chwarae, gan ddefnyddio dulliau creadigol i feithrin perthynas â phobl ifanc a chael effaith wirioneddol ar gymuned Buyala yr oeddem wedi’n lleoli ynddi. Newidiodd y cyfle hwn fy mywyd yn wirioneddol, ac rwyf bellach wrthi’n gwneud cais i fod yn gydlynydd gwirfoddol gyda’r elusen”.

Er y gallai cydbwyso gwaith ac ymrwymiadau personol, gan gynnwys cymudo i gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, fod yn heriol ac yn llethol weithiau, dywed Holly fod ei darlithwyr yn hynod o gymwynasgar. Mae hi’n parhau:

Roedd fy narlithwyr mor gefnogol ac weithiau’n gallu symud amseroedd y darlithoedd a byddent yn aml yn cynnig sesiynau ar-lein yn ystod fy nhraethawd hir i leihau faint o straen yr oeddwn yn ei wynebu.  Llwyddais i oresgyn yr holl heriau hyn oherwydd cefnogaeth fy narlithwyr, fy nheulu, ffrindiau a fy mhartner, Dan. Un frwydr fawr a wynebais wrth ddechrau yn y brifysgol oedd fy Anhwylder Gorbryder Cymdeithasol, roedd hyn yn golygu y byddwn yn aml yn cael pyliau o banig am fy nghyflwyniadau neu aseiniadau. Dyma lle roedd fy rhwydweithiau cymorth o ddarlithwyr, teulu a ffrindiau a phartner yn anhygoel”.

Dywed Holly: “Byddwn yn argymell y cwrs hwn i eraill sy’n meddwl am unrhyw astudiaethau sy’n ymwneud â Phobl Ifanc. Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint fyddai’r cwrs hwn yn rhoi hyder i mi weithio gyda phobl ifanc a’r cyfleoedd y byddai’n eu rhoi imi. Mae’n gwrs anhygoel sy’n llawn darlithwyr a myfyrwyr anhygoel sydd i gyd yn angerddol am gael effaith ar bobl ifanc trwy ffyrdd diddorol a hwyliog.  Ar ben hynny, mae’r cwrs wedi dyrchafu fy hyder a’m sgiliau i gael effaith positif yn fy nghymuned”.

Dywed Angharad Lewis, Rheolwr y Rhaglen: “Mae gweld taith Holly dros y tair blynedd diwethaf, yn bersonol ac yn academaidd, wedi bod yn fraint.  Mae hi wedi goresgyn nifer o heriau ac mae hi wir wedi camu allan o’i pharth cysur yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr Gwaith Ieuenctid. Mae hyn yn dangos gwydnwch Holly a’i gallu i ymateb i unrhyw amgylchiadau y mae’n eu hwynebu.  Bydd y rhinweddau hyn yn ei rhoi mewn sefyllfa dda fel Gweithiwr Ieuenctid â chymwysterau proffesiynol.  

“Pan dwi’n meddwl am Holly, dwi’n gweld rhywun sy’n hynod greadigol gyda gallu gwych i feddwl tu allan i’r bocs.  Gellid gweld hyn yn y ffordd y byddai’n mynd at ei hasesiadau, er enghraifft y ffordd y byddai’n troi ei llaw at greu adnoddau Gwaith Ieuenctid rhagorol mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y rhain yn bodoli, ac yn y ffordd y creodd fideos TikTok fel rhan o gyfnodolyn proffesiynol ei lleoliad i dynnu sylw at ddiwrnod ym mywyd myfyriwr ar leoliad.  Roedd Holly yn fyfyriwr eithriadol o weithgar, mewn perthynas â’i hastudiaethau academaidd a’i hymgysylltiad ar leoliad, ac rydym yn gobeithio gallu cyhoeddi peth o’i gwaith ar www.youthworkwales.org.uk fel y gellir gweld ei gwaith yn eang, ac y gall lywio ymarfer a strategaeth.  Mae Holly yn Weithiwr Ieuenctid ardderchog, gyda llygad creadigol iawn, a bydd yn cael effaith ar bobl ifanc a’u cymunedau lle bynnag y bydd ei gyrfa raddedig yn mynd â hi, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd gan y dyfodol i Holly”.

DIWEDD

*Mae Gwobr Goffa Carl John am Astudiaethau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned wedi’i henwi ar ôl cyn-ddarlithydd Gwaith Ieuenctid ar gampws Caerfyrddin.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon