Skip page header and navigation

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gangen weithgar o’r Coleg Cymraeg sy’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.  

Members of Cangen y Drindod outside Yr Egin

Yn dilyn proses ethol diweddar mae’r Gangen yn falch iawn o fod wedi penodi tri swyddog newydd i rolau hollbwysig o fewn y Gangen am y ddwy flynedd nesaf. Mae’r tair hefyd yn digwydd bod yn gyn fyfyrwyr o’r Brifysgol. 

Penodwyd Helen Griffiths fel Cadeirydd. Mae Helen yn rheolwr ar raglenni Astudiaethau Addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ac yn ddarlithydd ar gyrsiau Astudiaethau Addysg ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe. Meddai:

“Dwi’n falch i gael fy ethol fel Cadeirydd Pwyllgor Cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda staff a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i gefnogi ac ymestyn y ddarpariaeth ac ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr a staff yn unol ag un o flaenoriaethau strategol y Brifysgol.”

Yn ogystal penodwyd Alison Rees-Edwards a Caryl Jones fel Is-gadeiryddion ar y cyd. Mae Alison yn rheolwr ar raglenni BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ac MA cyfrwng Cymraeg Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymunedau. Yn ogystal mae’n uwch-ddarlithydd ar gampws Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd, ac yn gydlynydd lleoliadau ledled Cymru. Rheolwr Hyrwyddo a Chyfathrebu Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yw Caryl. Mae’r Ganolfan yn rhoi cyfle i bobl ymarfer, dysgu a defnyddio eu Cymraeg. Caryl sy’n hyrwyddo gweithgarwch y Ganolfan o ddydd i ddydd gan gynnwys adnoddau amrywiol Peniarth a’r ddarpariaeth Gymraeg sy’n caei ei gynnig gan Rhagoriaith, a mynychu nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru gan gynnwys yr Eisteddfodau. 

Hoffai’r tair ddiolch i Heddwen Davies am ei gwaith arbennig fel Cadeirydd dros y tair blynedd diwethaf ac am ei harweiniad medrus.

Mae Ffion Hann Jones wedi cael ei phenodi fel  Swyddog Cangen y Drindod Dewi Sant dros gyfnod mamolaeth Sian Dickie. Er bod ei swyddfa wedi ei lleoli ar gampws Caerfyrddin, mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn weithredol ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys Abertawe, Llambed, Caerdydd a champysau Coleg Sir Gâr. 

Arial shot of the dinner at Yr Egin

Mae’r Gangen yn gweithio’n ddiwyd i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ac i gefnogi’r myfyrwyr hynny. Trefnir hefyd arlwy o ddigwyddiadau cymdeithasol, o ddigwyddiadau’r glas a chinio blynyddol, i’r Côr cymdeithasol a phaned a sgwrs. Yn ogystal, mae’r Gangen yn cynnig cefnogaeth ieithyddol ac ariannol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. 

Cynhaliwyd Cinio’r Gangen yn ddiweddar yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Bu’n gyfle arbennig i fyfyrwyr a staff sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg ddod at ei gilydd i fwynhau a dathlu. Nid yw’r Gangen wedi cynnal Cinio’r Gangen ers 2019 o ganlyniad i’r cyfnod clo, a chafwyd noson arbennig iawn o gymdeithasu, bwyd arbennig, dawnsio a cherddoriaeth wych!

Darparodd Cegin yr Egin ddau gwrs blasus, ac roedd gemau hwyl megis her hunlun a sialens limrig a bu’r band Dros Dro yn darparu adloniant. Diolch i bawb wnaeth ddod! 

a group of students enjoying in the branch dinner

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon