Skip page header and navigation

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o groesawu busnesau lleol i weld ei datblygiad diweddaraf sydd ar fin ei gwblhau yn ardal Glannau Abertawe. Mae’r Matrics Arloesi, adeilad ac eco-system newydd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol, yn cael ei adeiladu  yng nghanol Ardal Arloesi SA1, Abertawe.

The glass fronted building with a brilliant blue sky behind.

Yn rhan o’r ymweliad, aethpwyd â busnesau ar daith o gwmpas yr adeilad, a ariennir drwy bartneriaeth strategol rhwng y Brifysgol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r Matrics Arloesi 2,220 metr sgwâr wedi’i lleoli ochr yn ochr ag adeiladau presennol y Brifysgol sef IQ a’r Fforwm. Mae’n cynnig cyfle unigryw i fusnesau gysylltu trwy gyd-leoli mewn gofod o ansawdd uchel ac i weithio mewn partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant.

Bydd busnesau presennol sy’n chwilio am dwf yn ogystal â busnesau newydd dynamig yn cael mynediad at gyfleusterau arloesol y Drindod Dewi Sant ynghyd â chefnogaeth dechnegol arbenigol i helpu i gyflymu datblygu cynnyrch newydd.

Mae busnesau yng Nghymru wedi sicrhau gwerth £6 miliwn o gontractau trwy Kier Construction, sy’n goruchwylio’r datblygiad. Mae Kier yn darparu ystod o gyfleoedd gwaith, gyda chyfanswm o 29 o brentisiaethau a lleoliadau gwaith sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu.

Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor PCYDDS: “Mae’r Matrics Arloesi eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar economi’r rhanbarth, ac rwy’n falch iawn fod cynifer o fusnesau lleol wedi gallu gweithio gyda Kier ar y gwaith adeiladu.  Edrychwn ymlaen yn awr at groesawu busnesau newydd a sefydledig i gydleoli a chydweithio â’r Brifysgol yn yr adeilad eithriadol hwn i ddod â rhagor o fanteision economaidd a chymdeithasol i Gymru.”

Dywedodd Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ein prosiectau etifeddiaeth gymunedol barhaus ac rwy’n falch ein bod wedi gallu cyflawni hyn yn Abertawe. Edrychwn ymlaen at weld yr effaith drawsnewidiol y bydd y ganolfan hon yn ei chael ar y gymuned a’r economi leol.”

A group in protective clothing viewing the new building.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon