Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu grŵp o fyfyrwyr o Adran Addysg Prifysgol Rio Grande (URG). Trefnwyd yr ymweliad gan Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, sy’n gyn aelod o staff a chyn-fyfyriwr PCYDDS.

Dan Rowbotham with the Rio Grande crew in the Immersive room

Mae Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Rio Grande yn Ohio, UDA yn ymroddedig i hyrwyddo a chadw diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru yn yr Unol Daleithiau. Mae’n cynnig adnoddau i fyfyrwyr, y gyfadran a’r gymuned drwy gynnig cyrsiau, digwyddiadau diwylliannol a rhaglenni academaidd yn ymwneud ag astudiaethau Cymreig. Yn ogystal, mae’r ganolfan yn hwyluso cysylltiadau a theithiau cyfnewid rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau, gan gefnogi mentrau sy’n ehangu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes, diwylliant a materion cyfoes Cymru.

Dywedodd Kath Griffiths, rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS (Gogledd America ac Outward Mobility), Academi Fyd-Eang Cymru:

“Mae PCYDDS wedi’i chysylltu ag URG ers 2002, gan hwyluso teithiau cyfnewid myfyrwyr rhwng Cymru ac UDA. Mae rôl y Ganolfan Gymreig wrth hyrwyddo diwylliant Cymru yn y UDA yn arwyddocaol. Mae’n bleser gennym groesawu chwe myfyriwr dramor i astudio yma ym mis Medi am dymor.

Dywedodd Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig:

Cawsom ddiwrnod gwych ar Gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Llun gyda thîm Canolfan y Gymraeg! Roedd y gweithgareddau’n cynnwys dosbarth Cymraeg, trafodaeth am Ganolfan S4C Yr Egin gyda Llinos Jones, dysgu am adnoddau addysgol a gynhyrchir gan Beniarth gyda Catrin Evans-Thomas a chlywed am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal, ymwelon ni â dwy ysgol, Ysgol y Dderwen ac Ysgol Maes y Gwendraeth, i arsylwi ar eu gweithrediadau a dysgu am bolisi a’r cwricwlwm.  Cawsom amser gwych a hoffem eu diolch am y croeso cynnes! Yn ychwanegol, treulion ni amser gyda chyn-fyfyriwr PCYDDS a Phrifysgol Rio Grande a Choleg Cymuned Rio Grande, Lisa Jones, sydd erbyn hyn yn bennaeth yr adran ddrama ym Maes y Gwendraeth. Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â Dinbych y Pysgod. Bydd eu diwrnod olaf yn PCYDDS gyda’r staff Addysg.”

Dywedodd Kara Lewis, Darlithydd a Rheolwr Prosiect yng Nghanolfan Gwasanaethau Cymraeg PCYDDS: 

“Mae’n bleser gweld y rhaglen a sefydlwyd yn ystod fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr Canolfan Madog yn parhau ac i groesawu ein hymwelwyr yr wythnos hon. Mae gan Brifysgol Rio Grande a’r ardal gyfagos arwyddocâd hanesyddol pwysig. Mae Canolfan Madog yn hanfodol o ran diogelu treftadaeth ddiwylliannol Cymreig-Americanaidd gan feithrin cysylltiad cyfoes rhwng y ddau sefydliad.  Mwynheais yn fawr y cyfle i gymharu llinellau amser y Gymraeg yn Ohio a Chymru, a arweiniodd at drafodaeth ddifyr ar ddeddfwriaeth a mentrau addysgol cyfredol yn ein hysgolion yng Nghymru yn ogystal â’n gwaith yn Rhagoriaith a Pheniarth yn darparu hyfforddiant ac adnoddau ledled Cymru. Roedd ein hymweliad â’r Ystafell Drochi yn gyfle i arddangos ein hadnoddau pwrpasol gan ddod â thechnoleg a dysgu iaith at ei gilydd ar gyfer ein myfyrwyr,”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon