Skip page header and navigation

I nodi Wythnos Ffoaduriaid (17-23 Mehefin) mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhannu straeon myfyrwyr sydd wedi’u dadleoli o’u mamwlad ac yn cael eu cefnogi gan y Brifysgol.

Green fields stretching out to the outline of a small town in the distance.

Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i gysylltu tu hwnt i labeli ac i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o pam bod pobl yn cael eu dadleoli, a’r heriau a wynebant wrth chwilio am ddiogelwch.

Yn rhan o’r ymrwymiad i ddileu’r rhwystrau at gyfranogiad mewn Addysg Uwch a wynebir gan y rheiny sy’n ceisio lloches, cyflwynodd PCYDDS gynllun Ysgoloriaeth Noddfa ar gyfer ceiswyr noddfa yn 2021 wedi’i hanelu at bobl â statws ffoadur, diogelwch dyngarol neu geisiwr lloches.

Cynigir yr ysgoloriaethau i gydnabod y tarfu ar addysg y mae pobl sydd wedi’u dadleoli yn ei brofi. 

Cysylltu Tu Hwnt i Labeli: Mudiad Byd-eang

Mae Hannah wedi cwblhau TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) yn PCYDDS ac erbyn hyn mae’n addysgu yn Abertawe. 

Dyma ei stori:

 “Cyn i mi symud i Gymru, cefais fy magu mewn pentref gwledig yng Nghenia lle dysgais a chefnogais fy rhieni i ofalu am fferm goffi, ffrwythau a the. Wedi i’r cynhyrchion gael eu gwerthu, cawsom arian am ffioedd ysgol. Roedd addysg y bwysig iawn i’m tad a dyna sut llwyddais i astudio Maeth mewn Prifysgol yng Nghenia. 

Symudais i Gymru gyda fy nheulu ac ymgartrefu yng Nghaerdydd, ond o ganlyniad i gyfres o sefyllfaoedd anodd, cafodd y teulu ei wahanu ac yna eu gwasgaru yn Llundain, ac yn y pen draw yn Abertawe yn 2009.  Golygodd y newid hwn mewn amgylchiadau bod rhaid i mi a’m dau fab geisio lloches yng Nghymru a daeth Abertawe yn gartref i ni. Er nad dyna oedd fy newis lle; cefais fy nenu gan harddwch Abertawe ac roedd yn fy atgoffa o Genia wledig lle cefais fy magu.  Bod i ffwrdd o’m teulu ac yn ynysig oedd y rhan anoddaf o fyw yng Nghymru. Roedd y sefyllfa yn anodd i mi a’r plant, ond mae’n rhaid dweud, wnes i ddim aros yn segur a phitïo fy hun. Gallen i o leiaf gwneud rhywbeth.

Yn 2010, daeth Abertawe yn ‘Ddinas Noddfa’. Roedd y mudiad yn chwilio am bobl oedd yn ceisio noddfa a ffoaduriaid eraill ac yn annog pobl leol i ddod yn wirfoddolwyr i groesawu ffoaduriaid. Cynigais gymryd rhan, a dyma’r peth gorau a wnes i erioed. Trwy’r cyfle hwn cefais gyfle i ddysgu llawer o sgiliau newydd, deall system y DU a Chymru a rhwydweithio’n helaeth gyda chyfundrefnau, sefydliadau a phobl a oedd yn addo cefnogi a chroesawu ffoaduriaid yn Abertawe. 

Yn yr awyrgylch hwnnw o wirfoddoli, des i ar draws prosiect lleol o’r enw MEWN (‘Rhwydwaith Menywod Ethnig Leiafrifol). Roedd MEWN wedi cofleidio diwylliant o ddysgu drwy ddysgu gydol oes i alluogi’r dysgwyr i fod yn gadarn yn yr amgylchedd darparu gwasanaethau cyfredol, newidiol a heriol. 

Cynhaliwyd dosbarthiadau dinasyddiaeth, TG ac ESOL gyda’r nod o rymuso menywod o gymunedau lleiafrifol du ac ethnig a’u galluogi i ddatblygu eu mentrau eu hunain a chymryd rhan yn llawn mewn gwasanaethau a’r gweithlu prif ffrwd y gall gwahanol rwystrau amharu arnynt, gan gynnwys cymwysterau nad ydynt yn cael eu cydnabod a diffyg sgiliau iaith Saesneg. 

Roedd hyn yn amgylchedd perffaith i mi leddfu fy awch am wybodaeth. Mewn cydweithrediad â chyfundrefnau a sefydliadau eraill, cwrddais â staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a oedd wedi llunio partneriaeth gyda MEWN i gynnig cymhwyster PGCE-PCET (Tystysgrif Addysg i Raddedigion – Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) i fenywod o leiafrifoedd ethnig. Cofrestrais, a gweithio’n galed iawn rhwng gofal plant a rhwystrau eraill a gorffennais y TAR ym mis Mai 2014. 

Bu’n bleser parhau i wirfoddoli fel athro ESOL (Saesneg fel Ail Iaith) mewn gwahanol leoliadau galw heibio yn y ddinas. Rhoddodd y sgiliau hyn fantais i mi a alluogodd i mi gael swydd yn syth pan oeddwn yn cael gweithio’n gyfreithlon yn y DU. Dwi wedi parhau i ymgysylltu â’r gymuned lleiafrifoedd ethnig trwy wahanol blatfformau hyfforddi a gweithgareddau. Mae’n gyfle sy’n rhoi llawer o foddhad.” 

Dewisodd Hannah hefyd y ddau lun i gyd-fynd â’r erthygl hon gan ddweud : “Rwyf wedi dewis y ddau yma am reswm da. Rwy’n caru natur a’r peth da gyda natur, yw ei fod yn bresennol ym mhob gwlad yr ewch. Oni bai eich bod yn enwi’r wlad, rydych methu dweud. Felly dwi’n falch o gysylltu fy mhrofiad o Gymru gyda’r ddau yma haul. Mae gwyrddni Cymru yn arwydd o fywyd a chroeso.

Yma, mae myfyriwr arall, sy’n astudio Gwyddor Cyfrifiaduron yn PCYDDS, ac sy’n dymuno aros yn ddienw, yn rhannu ei stori:

 “Ces i fy ngeni yn Guinea Bissau a bues i’n byw yno nes i fi gael fy ngorfodi i adael. Collais i fy rhieni pan oeddwn i’n ifanc iawn oherwydd eu gweithgarwch gwleidyddol.  Roedd yn rhaid i fi adael popeth dwi’n ei garu ac sy’n bwysig i mi, er mwyn ceisio diogelwch a rhyddid.  

Des i i’r wlad hon heb ddim. Dim teulu, dim ffrindiau, dim arian ac, fel ceisiwr lloches, doedd gen i ddim rheolaeth dros fy mywyd.  

Pan gyrhaeddais i, cefais fy rhoi yn y barics ym Mhenalun, yn rhannu gyda 5 o bobl mewn ystafell yn ystod y pandemig. Roedd yn amser caled, ond roeddwn i’n teimlo bod pobl Cymru yn fy nghefnogi, ac yn y pen draw cefais fy symud i dŷ yn Abertawe.  

Mae’r lletygarwch cyson a’r derbyniad gan y Cymry wedi rhoi’r noddfa i mi yr oeddwn i’n chwilio’n daer amdano.   

Er gwaethaf heriau integreiddio i gymdeithas Cymru a’r rhwystrau ieithyddol a wynebais, bues yn ddigon ffodus i gael ysgoloriaeth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i astudio Gwyddor Cyfrifiaduron. Mae hyn wedi rhoi gobaith i mi pan oedd bywyd yn anodd iawn. Mae’r ysgoloriaeth wedi achub fy mywyd. Mae’n rhoi’r addysg i mi roeddwn wedi dyheu amdani ac mae wedi rhoi cyfle i mi gymryd rhan ym mywyd y brifysgol. Dwi wedi gwneud ffrindiau. Dwi’n chwarae pêl-droed i dîm y brifysgol. Dwi’n teimlo mod i’n cymryd rhan ym mywyd Abertawe. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb yr ysgoloriaeth a’r gefnogaeth barhaus gan y Brifysgol. 

Dwi’n llawn ymdeimlad o ddiolchgarwch am y noddfa mae Cymru wedi’i rhoi i mi a dwi’n awyddus i chwarae rhan gadarnhaol yn y byd dwi’n byw ynddo. Dwi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Dwi wedi bod yn gynrychiolydd dosbarth; dwi ar bwyllgor rhwydwaith De-orllewin Cymru o’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IWT); dwi ar Grŵp Prosiect y Brifysgol Noddfa. 

Mae fy nhaith yn atgoffa rhywun, hyd yn oed yn y cyfnodau tywyllaf, bod gobaith y gallwn, gyda’n gilydd, adeiladu dyfodol lle mae tosturi a chydgefnogaeth yn ennill y dydd.”

Prifysgol Noddfa

A golden red sunset sky with only the tops of buildings outlined in the fading light.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau