Mae Sioe Graddedigion Pensaernïaeth 2024 yn arddangos gwaith rhagorol
Llongyfarchiadau i’n graddedigion BSc Pensaernïaeth am sioe diwedd blwyddyn wych. Roedd y digwyddiad yn arddangos y gwaith rhagorol a gynhyrchwyd gan y myfyrwyr, a fu’n archwilio cynigion deinamig ar gyfer ystod o brosiectau cymunedol gan weithio yn unig yn nhref hanesyddol Merthyr Tudful.
![Happy smiling staff and students standing in front of three banners at the exhibition.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-06/Architecture%20show%20main%20image.jpg?h=1116cd87&itok=mjigzraq)
Cynhyrchodd y myfyrwyr gyfres o strategaethau dylunio trefol ac ailddatblygu canol trefi er mwyn galluogi ymchwilio ymhellach i ddatblygu briff dylunio addas i gefnogi anghenion cymuned draddodiadol y cymoedd ôl-ddiwydiannol.
Mae’r prosiectau eleni yn cwmpasu ystod eang o gynigion, gan gynnwys fferm gymunedol fertigol, canolfan iechyd a lles hyd at weithgareddau chwaraeon a theatr. Mae’r myfyrwyr wedi datblygu’r briffiau yn annibynnol.
Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos hefyd yn cynnwys dealltwriaeth ddatblygedig o ddulliau adeiladu, gwerthuso technegol, a chymhwyso ymarferol i gefnogi dilyniant y myfyrwyr i’r gweithle a’u rhoi ar ben ffordd ar gyfer gyrfa mewn pensaernïaeth.
Rhoddodd Dan Benham, Llywydd Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru sgwrs angerddol a chraff ar ddechrau’r noson, a noddwyd gan ROCKWOOL UK.
Meddai Ian Standen, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Rwy’n hynod falch o’r creadigrwydd a’r ymroddiad y mae ein myfyrwyr pensaernïol wedi’i ddangos yn y sioe diwedd blwyddyn eleni. Mae eu dyluniadau arloesol a’u prosiectau meddylgar yn adlewyrchu eu gwaith caled a’u hangerdd am y maes, gan addo dyfodol disglair ar gyfer pensaernïaeth.”
Yn ystod y noson, cyflwynwyd nifer o wobrau i fyfyrwyr.
- Enillodd Rebecca Macfarlane Wobr Gartograffig. Cyflwynwyd y wobr gan Alissa Flatley ac fe’i noddwyd gan Latitude Geospatial Ltd.
- Dyfarnwyd i Rebecca Macfarlane a Lucy Fairbrother wobr y Traethawd Amgylcheddol Gorau. Cyflwynwyd y wobr gan Lara Hopkinson ac fe’i noddwyd gan y Grŵp MSS.
- Dyfarnwyd gwobr Myfyriwr Adeiladu a oedd wedi Gwella Fwyaf i Elliot Lewis.
- Mariah Edwards yn ennill y Traethawd Hir Adeiladu Gorau
- Elliot Lewis a gafodd wobr y Myfyriwr Adeiladu a oedd wedi Gwella Fwyaf. Deborah Hughes oedd yn cyflwyno’r wobr.
- Dyfarnwyd y traethawd adeiladu gorau i Mariah Edwards
- Dyfarnwyd gwobr Darluniau Pensaernïol Gorau a noddwyd gan Benham Architects i Ben Harris
- Enillodd Ben Steward y Strategaeth Strwythurol Arloesol Orau. Noddwyd y wobr gan Quad Consult
- Dyfarnwyd Gwobr Goffa Allan Stuckey – Ymrwymiad ac Ymroddiad i Astudio, ar y cyd â Prostate Cymru i Bethan Davies
- Derbyniodd Jimmy Cho y wobr am Wneud Model a Chrefft Modelau Gorau (Pob Grŵp Blwyddyn), a noddir gan George & Co
- Dyfarnwyd gwobr y Traethawd Hir ac Ymchwil Gorau, a noddwyd gan Oochitecture i Victoria Weeks
- Dyfarnwyd y Strategaeth Gynaliadwy Orau, a noddwyd gan Sero i Drew Dennehy
- Derbyniodd Jacob Davies Wobr Cyflawniad Rhagorol, a noddwyd gan Rio Architects.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071