Skip page header and navigation

I gyd-fynd â Wythnos Chwyldro Ffasiwn arddangosodd Coleg Celf Abertawe waith gan ei fyfyrwyr, staff a chymdeithion yn ymwneud â themâu cynaliadwyedd, ail-bwrpasu, cyweirio a gwisgo. 

Patches of material overlaid with the words re wear me on them

Hefyd cafwyd sgyrsiau a gweithgareddau â’r nod o ddarparu ystod o adnoddau cyd-destunol i ymwelwyr eu hystyried, ar yr un pryd â mynd ati i ddefnyddio deunyddiau tecstil oedd ar gael ar gyfer arbrofi a samplu yn y fan a’r lle. 

Mae Chwyldro Ffasiwn yn fudiad byd-eang â gweledigaeth gydweithredol am ddiwydiant ffasiwn sy’n gwarchod ac yn adfer yr amgylchedd ac yn rhoi gwerth ar bobl yn fwy na thwf ac elw. 

Mae Wythnos Chwyldro Ffasiwn yn ymgyrch flynyddol sy’n dod â rhan fawr o’r gymuned ymgyrchu ym maes ffasiwn at ei gilydd.  Roedd y thema eleni’n wahoddiad i’w chymuned fyd-eang rannu degawd o ddysgu ynghylch beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r chwyldro.  

Cynhaliwyd digwyddiadau Wythnos Chwyldro Ffasiwn y Brifysgol yng nghyntedd ALEX, yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS. 

Meddai Shellie Holden, darlithydd Celf a Dylunio Sylfaen yn PCYDDS a threfnydd a churadur yr arddangosfa: “Dangosodd ein harddangosfa ar gyfer Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2024 ein brwdfrydedd ac ymrwymiad i ‘faterion cyweirio’, a ledaenir drwy arfer yn y celfyddydau creadigol.  

“Sbardunodd y gwaith sgyrsiau pellach, a gwneuthur fel ymgyrchu unigol a chydweithredol, gan ddangos sut rydym ni’n gweithio tuag at brosesau mwy cynaliadwy a moesegol o fewn y diwydiannau ffasiwn a thecstilau, ac fel artistiaid a dylunwyr.”  

Creodd myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr ymatebion unigol a chydweithredol.  Roedd prosiectau o’r gorffennol a gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys gweithdy llifo naturiol gan Sian Lester a raddiodd yn 2022 o’r rhaglen MA Deialogau Cyfoes - Tecstilau, ac ail-wneud parka coluddion morloi Brodorion Alaska ar gyfer ‘Manmade Home’ gan Kevin McCloud (2013) gan Shellie Holden, darlithydd ar y cyrsiau MA Deialogau Cyfoes - Tecstilau, Celf a Dylunio Sylfaen a myfyriwr PhD.

Hefyd yn cael eu harddangos oedd crysau T ‘Reclaimed Activist’ Lucy Ralph, a raddiodd o’r cyrsiau Celf a Dylunio Sylfaen, a Phatrymau Arwyneb a Thecstilau ac sydd nawr yn artist preswyl, a Sloganau Appliqué ar gyfer ‘We are Fashion Revolution’ gan Liz Tucker, sy’n fyfyriwr MA Deialogau Cyfoes – Darlunio ar hyn o bryd. Hefyd roedd llawer mwy o fyfyrwyr Celf a Dylunio Sylfaen, Crefftau Dylunio a myfyrwyr MA yn cymryd rhan. 

Ychwanegodd Shellie: “Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2025 (yn ymwneud â Thrychineb Ffatri Rana Plaza ar 24 Ebrill 2013) gan ein galluogi i arddangos gwaith newydd a ddatblygir yn ystod y flwyddyn.  


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon