Skip page header and navigation

Llongyfarchiadau i ddosbarth Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth PCYDDS 2024 am noson agoriadol wych eu gradd diwedd blwyddyn, sy’n dangos penllanw creadigrwydd ac arloesedd mewn dylunio modurol a thrafnidiaeth!

Automotive Design Students at the opening of their graduate exhibition

Dywedodd Sergio Fontanarosa, Rheolwr y Rhaglen: “Wrth i ni ymgynnull i ddathlu llwyddiannau ein myfyrwyr dawnus, gyda balchder eithriadol rydym yn cydnabod yr oriau di-ri o ymroddiad a gwaith caled a dywalltwyd i’w prosiectau.

“O gysyniadau lluniaidd a dyfodolaidd i ddyluniadau sydd wedi’u hysbrydoli gan geinder byd natur, mae’r sioe radd hon yn dyst i ddychymyg diderfyn a gallu technegol ein darpar ddylunwyr modurol a thrafnidiaeth.”

Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan yr ystod amrywiol o gysyniadau sy’n cael eu harddangos, pob un yn cynnig persbectif unigryw ar ddyfodol trafnidiaeth.  

Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar daith trwy fyd cyffrous Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth,  lle mae angerdd yn cwrdd â manylder, a breuddwydion yn ymffurfio. 

Manylion

Ar agor i’r cyhoedd: 17–21 Mehefin, 10yb to 5yp

Lleoliad: Adeilad IQ, Campws Glannau Abertawe


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon