Skip page header and navigation

Mae Nia Hopkins, myfyrwraig o Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi creu gwobr arbennig ar gyfer categori ‘Barn y Bobl’ yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Nia Hopkins holding her comission for Golwg360 Barn y Bobl's prize

Dyma’r bedwaredd  flwyddyn ar ddeg yn olynol i fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant greu gwobr ar gyfer y categori hwn. Bwriad y bartneriaeth hon yw rhoi cyfle i artist ifanc cael platfform am ei gwaith. Lluniodd Nia ddarlun arbennig a gafodd ei roi fel rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl i’r awdur Iwan Rhys am ei gyfrol: “Trothwy.”

Daw Nia o Abertawe. Mae’n gyn ddisgybl o Ysgol Gyfun Gwyr a Choleg Celf Llwyn y Bryn.  Mae ei gwaith wedi cael ei ddylanwadu gan nifer o ddarlunwyr sy’n arddangos eu gwaith ar y rhyngrhwyd. Mae rhai o’r rhain wedi eu dylanwadu gan Anime a Manga, ac felly mae ei gwaith yn dilyn hyn hefyd. Mae hefyd wedi cael ysbrydiolaeth oddi wrth pobl y mae  wedi cwrdd ac hefyd o’i breuddwydion.

Penderfynodd Nia greu gwaith newydd gwreiddiol ar gyfer y wobr sydd felly yn hollol unigryw i’r enillydd. Dywedodd: 

“Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am gael yr anrhydedd o gael fy newis i greu darluniad ar gyfer y wobr hon. Mae cefndir y darlun i fod yn debyg i silffoedd llyfrau. Fy mhrif ysbrydoliaeth am y wobr yw’r teimlad a gaf wrth darllen. Wrth darllen rwy’n teimlo y fyddai’n hawdd i golli fy hun yn y stori.”

“Bydd hyn yn help mawr i mi yn fy ngyrfa. Dyma’r comisiwn cyntaf i mi ei dderbyn ers cwblhau’r rhaglen Darlunio gyda PCYDDS ac mae gweithio ar hyn wedi bod yn dipyn o hwyl.”

image of the prize in a frame

Dywedodd y darlithydd Gwenllian Beynon o Goleg Celf Abertawe: 

“Mae’n wych i fi fel darlithydd sydd â gofal dros y Gymraeg yn y Coleg Celf weithio gyda myfyrwyr a’r sector cyhoeddi yng Nghymru. 

“Mae gweithio ar y fath yma o wobr, sydd yn gelf bersonol ond hefyd yn fath o gomisiwn, yn rhoi her newydd i’r myfyriwr, ac mae Nia wedi llwyddo i greu  llun sydd yn dathlu llyfrau. 

“Rydym yn falch iawn o fedru gweithio gyda Golwg360 ar hyn ac yn ymestyn ein llongyfarchiadau i Iwan Rhys.”

Ychwanegodd Owain Schiavone o Golwg360: 

“Rydyn ni’n falch iawn i gydweithio unwaith eto gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i gynnig cyfle i fyfyriwr addawol greu Gwobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn eleni. Mae golwg360 wedi cynnal pleidlais Barn y Bobl ers 14 o flynyddoedd bellach, ac mae’r Brifysgol wedi bod yn barter cyson drwy gydol y cyfnod hwnnw – rydyn ni wrth ein bodd i allu parhau â’r berthynas. 

“Eleni eto fe gynnigodd y Brifysgol artist perffaith i ni yn Nia Hopkins. Mae gwaith Nia yn unigryw iawn, ac roedden ni wrth ein bodd gyda’r darluniad y bu iddi greu ar gyfer y wobr. Gobeithio bod y cyfle i greu gwobr ar gyfer achlysur mor bwysig â Llyfr y Flwyddyn wedi bod yn brofiad gwych iddi, ac rydan ni’n ffyddiog y byddwn ni’n gweld gwaith celf Nia, a’i gyrfa fel artist, yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon