Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu myfyrwyr o Brifysgol Thompson Rivers yng Nghanada i’w champws yn Abertawe i gymryd rhan yn Interniaeth Ymchwil Globalink Mitacs

Smiling students sitting at a desk in the Psychology lab

Bydd Katrina Janzen a Nya Derkach yn gweithio wrth ochr Dr Paul Hutchings, Athro Cysylltiol mewn Seicoleg, a chydweithwyr ar astudiaeth ddilynol i’r Prosiect Cytgord Rhywedd byd-eang, sy’n dadansoddi dealltwriaethau cyfoes o wrywdod a benywaidd-dra yng Nghymru gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol.  Cynhaliwyd y prosiect ymchwil gwreiddiol mewn 62 gwlad ar bob cyfandir – yr astudiaeth gyntaf mor helaeth ac eang ei chwmpas ar y pwnc hwn yn hanes y gwyddorau cymdeithasol.

Fel aelodau o dîm y prosiect Tuag At Gytgord Rhywedd, mae Dr Hutchings a Dr Katie E. Sullivan wedi ehangu eu gwaith i archwilio materion cydraddoldeb rhywedd yn fwy manwl yng nghyd-destun Cymru a chaiff prosiect ymchwil newydd sy’n parhau â’r trywydd ymchwil hwn ei ddylunio a’i gyflawni yng Nghymru yn ystod 2024.

Meddai Dr Hutchings:  “Bydd y prosiect arfaethedig yn gyfle rhagorol i’r myfyrwyr ddatblygu a mireinio eu sgiliau ymchwil mewn maes a fydd yn arwyddocaol i Ganada.  Bydd y prosiect yn adeiladu ar y canfyddiadau o ymchwil blaenorol ynghylch nodweddion ac agweddau’n gysylltiedig â rhywedd a chydraddoldeb rhywedd.  Mae cydraddoldeb rhywedd yn fater cymdeithasol arwyddocaol yn fyd-eang, yn cynnwys yng Nghanada.  

“Mae gan ymchwil seicolegol cymdeithasol rôl bwysig i’w chwarae o ran cyfoethogi ein dealltwriaeth o gredoau, agweddau, ac ymddygiadau ynghylch rhywedd, ac yn y pen draw i ddatblygu offer i hwyluso newid cymdeithasol.  Bydd yr interniaid yn dyfnhau eu dealltwriaeth o bynciau’n cynnwys credoau swm sero, ymddygiadau diwylliannol, a chydraddoldeb rhywedd, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru.  Bydd y cyfle i ennill y wybodaeth hon yn ehangu dealltwriaeth yr interniaid o’r materion ynghylch cydraddoldeb rhywedd ac yn llywio’r ffordd maen nhw’n meddwl am eu hymdrechion academaidd ac o ran gyrfa yn y dyfodol ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i Ganada.” 

Mae gan yr Adran Seicoleg yn PCYDDS amgylchedd labordy penodedig sy’n cynnwys un ar ddeg o leoedd labordy, â chyfrifiaduron a rhaglenni seicoleg arbrofol (SuperLab, Inquisit, NVivo, pensetiau Realiti Rhithwir (VR) a deunyddiau profi). Hefyd mae gan yr adran fynediad at ystafell VR ymdrochol o fewn y brifysgol sy’n caniatáu i ni’r staff a’r myfyrwyr greu amgylcheddau realiti estynedig. 

Bydd yr interniaid ymchwil yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r prif ymchwilwyr wrth ddylunio’r pecynnau gwaith ac yn gweithio’n rhan o’r tîm, gan fynd at i gasglu data a dadansoddi, cwrdd ag ymchwilwyr eraill o fewn yr adran, ac ymgysylltu â’r gyfadran ehangach. 

Mae Interniaeth Ymchwil Globalink yn fenter gystadleuol i israddedigion gymryd rhan mewn interniaeth ymchwil 12 wythnos dan oruchwyliaeth aelodau staff prifysgol yng Nghanada mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd, o wyddoniaeth, peirianneg, a mathemateg i’r Dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. 

Katrina a Nya yw’r myfyrwyr cyntaf i gael eu croesawu gan PCYDDS ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan Kath Griffiths, llysgennad ymchwil Mitacs yn PCYDDS a Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol. 

Meddai Kath Griffiths: “Mae’n bleser gennym groesawu ein cynorthwywyr ymchwil Mitacs cyntaf i PCYDDS. Adnabyddir y rhaglen yn bennaf am feithrin cydweithrediadau ymchwil ac interniaethau yng Nghanada, ac mae’n estyn buddion sylweddol i ddarpar ymchwilwyr, yn cynnwys y rheini sy’n dod i’r DU.  Er mai menter yng Nghanada yw Mitacs ei hun, bydd ymchwilwyr o amryw o wledydd yn aml yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyfnewid sy’n cynnwys cydweithio â sefydliadau’n fyd-eang, yn cynnwys y DU.”

Meddai Katrina Janzen:  “Mae’r Prosiect Cytgord Rhywedd ar raddfa fawr iawn ac mae wedi casglu data o nifer mawr o wledydd. Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn yn rhoi’r cyfle i fod yn rhan o rywbeth unigryw, ystyrlon, a blaengar.”

Meddai Nya Derkach: “Rwy’n gobeithio dilyn rhaglen Meistr, er nid wyf eto wedi penderfynu ynghylch maes penodol o ddiddordeb.  Fy nod yw dod yn seicolegydd clinigol cofrestredig, ac rwy’n ystyried y rhaglen hon yn brofiad ffurfiannol a fydd yn arwain at fy ngyrfa yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau